fAeth tîm creadigol Opera Canolbarth Cymru yn ôl i’r ysgol yr wythnos hon – gan gyfnewid eu cast a’u cerddorfa arferol am ysgol gynradd gyfan yn Nhrefaldwyn.

Treuliodd y Cyfarwyddwr Artistig Richard Studer, y Cyfarwyddwr Cerdd Jonathan Lyness a’r gantores/ hyfforddwr lleisiol Maria Jagusz wythnos yn Ysgol Eglwys yng Nghymru Trefaldwyn – yn gweithio gyda mwy na 40 o blant i gynllunio, ysgrifennu, gwisgo a pherfformio eu hopera eu hunain o’r cychwyn.

Roedd y Brifathrawes Judith Baker wrth ei bodd â’r canlyniadau a dywedodd: “Mae’r plant wedi bod yn llawn cynnwrf drwy’r wythnos yma. Maen nhw wedi bod yn gweithio ar draws bob oedran ac mewn grwpiau er mwyn rhannu syniadau. Roedd pob plentyn yn ymddiddori ac yn cymryd rhan lawn ym mhob un o’r sesiynau.

“Cafodd pob plentyn gyfrannu a rhannu eu talentau. Rydym yn credu mewn addysgu’r unigolyn cyfan, ac roedd cyfle i weithio gyda’r unigolion proffesiynol hyn sydd â phrofiad anhygoel yn eu maes yn rhywbeth yr oeddem yn awyddus iddynt fanteisio arno.”

Mae cynhyrchiad y plant yn seiliedig ar y cartwnau a ysbrydolodd Opera Janacek “The Cunning Little Vixen” ond yn eu fersiwn hwy, mae’r arwr, llwynog bach o’r enw Joey, yn teithio drwy’r Arctig ac i’r gofod, gan gyfarfod morfilod danheddog sy’n glaf o gariad, gwartheg y gofod a mwncïod y lleuad ar ei daith.

Gwelodd yr athrawes Nicky Steer ei hystafell ddosbarth yn cael ei thrawsnewid yn llwyfan, yn weithdy gwisgoedd ac yn stiwdio Cyfarwyddwr. Meddai: “Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i’r plant weithio gyda Chyfarwyddwr Cerdd, Cyfarwyddwr Artistig a chantores ac maent wedi bod yn frwdfrydig ar bob cam o’r broses greadigol.”

Ariennir wythnos y gweithdy gan gronfa Cydweithio Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru, ac fe’i cynlluniwyd yn benodol ar gyfer ysgol Trefaldwyn. Roedd hynny’n golygu mynd i’r afael â rhannau allweddol o’r cwricwlwm, gan gynnwys ysgrifennu estynedig a chreadigrwydd ac annog gwaith tîm ar draws grwpiau oedran, gan fod oed y plant oedd yn cymryd rhan yn amrywio o 7 i 11.

Dywedodd y Rheolwr Cyffredinol Lydia Bassett: “Does dim llawer o blant ysgolion cynradd yn cael y cyfle i wneud eu hopera eu hunain mewn wythnos – ond dyna’n union beth mae’r plant yma wedi ei wneud yr wythnos yma ac maen nhw wedi gwneud yn ardderchog.”

“Rydym ni wedi bod yn gweithio gydag ysgolion ledled Swydd Drefaldwyn am flynyddoedd lawer, ond mae hon yn ffordd newydd sbon o weithio i ni ac i’r disgyblion. Maen nhw wedi cael datblygu stori, ysgrifennu caneuon a deialog a chreu setiau a gwisgoedd eu hunain mewn wythnos, gan weithio ochr yn ochr â’n haelodau staff ni drwy’r diwrnod ysgol.”

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Lydia Bassett, Opera Canolbarth Cymru.

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.