Meddyliwch eto am Opera: The Magic Flute, gwledd i’r teulu cyfan

Os nad ydych chi wedi gweld opera erioed – ond ffansi mentro – yna mae hanes y Ffliwt Hud yn lle gwych i gychwyn!

Mae’n cynnwys popeth sydd ei angen ar gyfer noson allan i’w chofio:-

  • Tywysog golygus – oes
  • Tywysoges hardd mewn perygl – oes
  • Y gelyn gwaethaf a fu – yn bendant
  • Treialon a phrofion er mwyn ennill cariad
  • Cymeriadau gwirioneddol ddoniol i ychwanegu hiwmor
  • A wnawn ni ddim difetha’r stori… ond gobeithio y bydd pawb yn byw’n hapus am dragwyddoldeb.

Ar ben hynny mae’n addas i bob aelod o’r teulu. Rydym ni wedi rhoi canllaw oedran o 7+ oed ar y cynhyrchiad newydd ond dim ond am ei bod yn sioe eithaf hir ac y gallai sylw’r plant llai grwydro.

Felly beth allwch chi ei ddisgwyl?

Wel yn un peth mae’n bosib iawn y byddwch chi’n adnabod rhywfaint o’r gerddoriaeth. Ewch i wrando ar y soprano anhygoel yn aria Brenhines y Nos :-

neu’r ddeuawd hyfryd gan Papageno/Papageno

A’r peth gwych am gynyrchiadau Opera Canolbarth Cymry yw eu bod yn cael eu canu yn y Saesneg – felly dim Almaeneg, dim problem, fe fyddwch yn deall pob llinell.

Yr ail beth mae angen ichi ei wybod yw ei fod y peth agosaf at bantomeim ym mhob ffordd ond ei enw – ond plîs peidiwch â gweiddi bŵ! Mae fersiwn wedi ei hanimeiddio wedi ei chreu gan y BBC ac Opera Genedlaethol Cymru

os byddai’n well gennych chi wybod y stori lawn cyn mynd neu os hoffech ei wylio gyda’r plant – gan gynnwys y sarff fawr las. Cofiwch y gallai hynny ddifetha’r sypreis!

Byddwch ddewr a rhowch gyfle i opera! Rydym ni’n teithio ledled Cymru yn ystod y Gwanwyn a chewch weld y sioe yn Theatr Hafren, y Drenewydd ar Chwefror 17thCanolfan Gelfyddydau Aberystwyth ar Fawrth 7fed, Canolfan Gelfyddydau Pontardawe ar Fawrth 9fedPontio ym Mangor ar Ebrill 26ain ac mae’r sioe yn gorffen yn y Riverfront yn yng Nghasnewydd ar Fai  4ydd.

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.