Opera Canolbarth Cymru ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Theatr Cymru

Mae’n bleser anferthol ein bod wedi ein henwebu yng Ngwobrau Theatr Cymru yng nghategori Cynhyrchiad Teithiol Gorau yn Saesneg am The Bear.

The Bear oedd sioe Llwyfannau Bach gyntaf OCC, ac aeth ag opera deithiol i lefel newydd sbon i ni gyda 16 sioe mewn ychydig dros fis mewn eglwysi a neuaddau pentref ledled Cymru Wledig a Neuaddau Lles Glowyr yn y Cymoedd.

Gyda dim ond tri aelod o’r cast a phum cerddor, roedd modd i ni fod yn hyblyg ynglŷn â lle gellid perfformio’r sioe a chawsom gyfarfod pobl wych ar y daith!

Bydd Gwobrau Theatr Cymru’n cael eu cynnal yn The Riverfront yng Nghasnewydd ar ddydd Sadwrn Ionawr 27ain ac rydym yn cynllunio trip i’r cwmni cyfan, sglein i’r sgidiau a chroesi bysedd.

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.