Eugene Onegin: Cyflwyno…y Bechgyn

Wrth wraidd nofel delynegol Pushkin, Eugene Onegin, mae’r berthynas rhwng y ddau ŵr – Eugene Onegin ei hun a’i ffrind gorau, y bardd Vladimir Lensky.

Pan gyfarfyddwn Eugene Onegin am y tro cyntaf, mae wedi ei flino gan fywyd gŵr bonheddig ac mae “gwacter yn meddiannu ei enaid”. Pan ddaw newydd fod ei ewythr ar farw, mae’n gadael ei fywyd dinesig soffistigedig ac yn brysio i ystâd wledig ei ewythr. O etifeddu’r ystâd mae’n gobeithio sefydlu patrwm newydd o fyw ond buan y daw i weld bod “y wlad yn achosi’r un diflastod”.

Y diymgeledd ymysg ei eiddo, mae “ein Onegin diflas” yn digio ei gymdogion nes y maent hwythau’n rhoi’r gorau i ddod i’w weld. Hynny yw, nes iddo gyfarfod ei gymydog newydd, y bardd Vladimir Lenksy:

“Handsome, young, a Kantian,

Whose soul was formed in Göttingen,

A friend of truth: a poet then.

From misty Germany he brought

The fruits of learning’s golden tree,

His fervent dreams of liberty,

Ardent and eccentric thought,

Eloquence to inspire the bolder,

And dark hair hanging to his shoulder.

Mae Lensky’n cyferbynnu’n llwyr gyda’i “araith angerddol feiddgar farddonol”.

No two men were less the same

Like stone and water, ice and flame,

Prose and poetry, in intent.

At first they seemed indifferent

To each other, but liking grew,

They rode together every day,

Until, such good friends were they

They were one instead of two.

So people (I openly confess)

Make friends, from sheer idleness.

Ar gyfer Taith y Gwanwyn o Eugene Onegin, mae’r tenor o Gymru Robyn Lyn Evans yn chwarae rhan Lensky am y tro cyntaf – ar ôl canu’r rhan yn Gymraeg mewn cystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Meddai Robyn :

“Mae Eugene Onegin yn opera yr ydw i wedi bod yn aros am gyfle i’w pherfformio ers amser maith. Mae’n llawn cerddoriaeth mor hyfryd. Dydw i ddim wedi perfformio Lensky o’r blaen, ond mae pawb yn dweud ei bod yn rhan anhygoel. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr hefyd at ganu aria Lensky yn ei chyd-destun, gan i mi ei chanu tua 20 mlynedd yn ôl yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ond roedd hynny yn Gymraeg!”

Cenir ein Eugene Onegin gan y bariton carismataidd George Von Bergen, sy’n brofiadol yn y rhan ac wedi arfer delio â’r cymhlethdodau y mae’r rhan yn eu cynrychioli.

“Pan berfformiais Onegin am y tro cyntaf yn 2006 roedd anaeddfedrwydd emosiynol Onegin yn fy nharo o’i gymharu â’r bywyd diflasedig yr oedd wedi ei fyw’n barod fel gŵr ifanc. Gallwn berthnasu â’r cymeriad gyda’i falchder allanol a’i ffasâd oeraidd ymddangosiadol, sy’n cuddio gŵr sensitif a bregus o dan yr wyneb.

Mae’r gyfres o benderfyniadau gwael wedi ei roi yn ei safle truenus ac anobeithiol yn Act 3. Er gwaethaf hysteria absẃrd Lensky yn ei herio i ornest, prin y gall cynulleidfaoedd faddau iddo am ei gamgymeriadau a’i ddiystyriaeth rwysgfawr o Tatyana’n gynharach yn y stori. Bydd yn gyffrous dysgu sut byddwn ni’n dehongli’r darn. Fydd Onegin yn arwr pechadurus ynteu’n ddihiryn?”

Mae cymhlethdod cymeriad Onegin – a dyfnder ei edifeirwch ynglŷn â’r camgymeriadau sy’n newid ei fywyd – yn golygu stori gymhellol y gall selogion opera ddychwelyd ati dro ar ôl tro ac y gall cynulleidfaoedd newydd ei harchwilio drostynt eu hunain i gyfeiliant hudol a synhwyrol offeryniaeth Tchaikovsky.

Bydd ein cynhyrchiad yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Artistig OCC Richard Studer a’r Cyfarwyddwr Cerdd Jonathan Lyness. Cafodd eu cynhyrchiad mwyaf diweddar o Eugene Onegin, ym Mryste yn 2012, ei dderbyn yn hynod o dda ac ysgrifennodd adolygydd y Guardian: “Gadewais y theatr yn siglo ar ôl y profiad. Gwireddwyd y cyfan gyda’r gwerthoedd cerddorol gorau, cast anhygoel o gryf ac fe’i portreadwyd yn fyw dan gyfarwyddyd Richard Studer.”

Mae’r tocynnau ar werth yn barod – dyddiadau a manylion yma.

 

 

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.