Y fersiwn newydd o The Beggar’s Opera – meddyliau gan y Cyfarwyddwr Artistig OCC

Gyda llai na mis i fynd tan y perfformiad cyntaf o daith newydd LlwyfannauLlai, Mrs Peachum’s Guide to Love and Marriage, cawsom gyfle am sgwrs gyda’r Cyfarwyddwr Artistig, Richard Studer, sydd wedi creu’r cynhyrchiad. Rhannodd ei ysbrydoliaeth ar gyfer y fersiwn newydd radical hon o opera wreiddiol John Gay, sy’n dyddio’n ôl i 1728.


“Our Polly is a sad slut”
Arswyd Mam o Ganfod Bod ei Merch yn Briod â Lleidr Pen Ffordd.

“If Poverty be a Title to Poetry, I am sure nobody can dispute mine. I own myself of the Company of Beggars; and I make one at their Weekly Festivals at St. Giles’s.

“I hope I may be forgiven, that I have not made my Opera throughout unnatural, like those in vogue; for I have no Recitative; excepting this, as I have consented to have neither Prologue nor Epilogue, it must be allowed an Opera in all its Forms.”

Mae araith John Gay ar gyfer ‘y cardotyn’ ar ddechrau The Beggar’s Opera yn grynodeb perffaith o fwriad ac athroniaeth y libretydd ar gyfer y gwaith ac yn un yr wyf wedi ymdrechu i’w chynnal yn y fersiwn newydd hwn o’r testun gwreiddiol.

Mae opera faled Gay, a ysgrifennwyd yn 1728, yn gampwaith o ddychan ac, mewn tro annisgwyl, gwnaethpwyd y fath elw o’r darn hwn sy’n dychanu cymdeithas ac opera, nes bod yr arian wedi ei ddefnyddio i adeiladu’r tŷ opera cyntaf yn Covent Garden – eironi yr oedd ei awdur yn ei werthfawrogi, heb os nac oni bai.

Mae The Beggar’s Opera wedi goroesi sawl ailymgnawdoliad a hynny oherwydd hiwmor a medrusrwydd plot ac iaith Gay. Dechreuodd fy siwrnai bersonol i gyda’r darn yn y coleg, lle cefais fy nghastio, ar un o’r achlysuron prin y mentrais i fod yn actor/canwr, fel chwaraewr y faled yn fersiwn Kurt Weill. Bu cynyrchiadau eraill wedi hynny a’r darn hwn hefyd oedd un o fy ymrwymiadau proffesiynol cyntaf fel cyfarwyddwr. Yn ddiweddarach yn fy ngyrfa, rwyf wedi cael y fraint o gyfarwyddo fersiwn Britten.

Mae pob cyfarfyddiad â Gwaith Gay wedi bod yn brofiad boddhaol dros ben ac rwy’n cael fy swyno gan gymeriad Mrs Peachum bob tro; menyw wrthun sy’n diflannu o’r sioe heb eglurhad yn eithaf cynnar yn y gwaith, cyn i res o feistresi eraill aruthrol ar eu crefft gyrraedd yn ei lle. Daw’r butain, Jenny Diver, a madam y puteindy ‘Di Trapes’ yn ogystal â Lucy ddauwynebog sydd am y gorau â merch Mrs P, Polly, i gael cariad.

Flynyddoedd lawer yn ôl wrth weithio ar fersiwn Britten, fe’m tarodd y gallai fod modd o gyfuno’r menywod hyn. Mae’n ymddangos bod y ddau gymeriad yn parhau i gefnogi ac ehangu ar feddyliau Mrs Peachum am briodas yn y golygfeydd agoriadol. Ymddengys yn amlwg y gallai Mrs P lefaru meddyliau hynod sinigaidd (ond doniol o gyfoes) Gay ar briodas, rhyw a pherthnasau mewn darn newydd.
Cafodd y darn ei greu yn wreiddiol fel sioe un fenyw, ond mae fy fersiwn i yn ehangu ar y darn hwnnw ar gyfer taith LlwyfannauLlai OCC ac ail-gyflwyno’r Cardotyn a Polly Peachum. Eu rhamantiaeth remp hwy a’u dicter hefyd yw gwrthlen ein gwrtharwres. Gan ddefnyddio testun gwreiddiol Gay yn unig, mae’r darn newydd yn symud ffocws y gwaith ar berthynas y fam a’r ferch a chwalfa’r berthynas honno yn y pen draw. Ychwanegir elfen o bathos i’r cymeriad canolog sydd ar goll o’r portread rhy gyflym a geir ohoni yn y gwreiddiol. Mae Mrs P yn gweld ei merch a’i chriw o ladron a chardotwyr proffesiynol fel nwyddau i’w defnyddio er ei budd ei hun – caiff y plot ei sbarduno gan ei dychryn wrth ganfod bod Polly wedi priodi (â lleidr pen ffordd). Mae Polly’n gwrthod gadael i’w mam gael ei ffordd a threfnu crogi ei harwr, sy’n arwain yn y pen draw at chwalu eu perthynas, sydd eisoes yn un ddrwg.

Yn yr un modd â’r comedïau cymdeithasol gorau, mae gwaith Gay wedi sefyll prawf amser, ond yn wahanol i gomedïau Mozart a Da Ponte, mae Gay yn anwybyddu’r dosbarthiadau elît ac yn defnyddio cymeriadau’r gwter i oganu cymdeithas, ei moesau a’i ffasiynau. Gallai meddyliau Mrs P ar brydiau fod wedi dod yn syth o ddarnau opiniwn y papurau ‘top coch’. Mae ei hagwedd ddiarbed tuag at ‘wrth-ddiplomyddiaeth’ yn ein hatgoffa o Katie Hopkins a’i bath – idealaeth wyrdröedig lle mae’r sylw mwyaf ynfyd yn gwneud iddi gredu fwyfwy yn ei moesoldeb ei hun, waeth pa mor ffiaidd ei geiriau.

Ym myd hunanol, egosentrig Mrs P, mae unrhyw farn yn briodol, cyn belled â’i fod yn gwasanaethu’r ychydig yn hytrach na’r lluoedd. Ar uchafbwynt y darn hwn, pan fo Mrs P wedi colli popeth, y pwynt lle byddwch yn bloeddio am iddi gysylltu â’i merch, gwelwn gymeriad sydd mor emosiynol farw nes iddi ddewis gwneud dim mwy nag ymgolli mewn hunan-drueni, gan ddisgwyl am ddim byd mwy na’r confensiwn operatig i’w hachub rhag ei thrasiedi ei hun…

Fodd bynnag, gallwn ddweud heb os nac oni bai nad ail-adroddiad du o’r gwreiddiol yw’r fersiwn hwn. Comedi sydd yma o hyd, ac mae arsylwadau gwych a bachog Gay yn sgleinio gyda dychan brathog, gan ddymchwel strwythur cariad, priodas a dyletswydd ffiliol fesul bricsen nes eich gadael yn pendroni a oes o leiaf fymryn o wirionedd yn athroniaeth wyrdröedig y fenyw ffiaidd hon. Cewch eich tynnu’n strancio ac yn sgrechian gan Gay i neuadd llawn drychau syrcas, sy’n newid ac yn gwyrdroi bob nam a harddwch, bob gwir a chelwydd er mwyn adlewyrchu, gyda disgleirdeb comedïaidd, y gymdeithas yr ydym yn baglu oddi mewn iddi ar hyd ein hoes.


Notice: ob_end_flush(): failed to send buffer of zlib output compression (0) in /home/midwalesoperaco/public_html/files/wp-includes/functions.php on line 4344