Perfformiwyd opera falâd John Gay, The Beggar’s Opera am y tro cyntaf yn Theatr Lincoln’s Inn Fields yn Llundain yn 1728 a rhedodd am oddeutu 60 perfformiad. Roedd yr ‘opera falâd’ yn ffurf boblogaidd dros ben – drama gerddorol ddychanol gyda chaneuon wedi eu creu o alawon adnabyddus y cyfnod, o ganeuon gwerin i opera i gerddoriaeth eglwysig. The Beggar’s Opera yw’r enghraifft eithaf ac mae hi wedi aros yn gadarn yn y repertoire am bron i 300 mlynedd. John Gay a ysgrifennodd y testun, a ddewisodd yr alawon i’r caneuon ac a ysgrifennodd y geiriau. Bwriadai i’r caneuon gael eu canu’n ddigyfeiliant, ond ar y funud olaf rhoddwyd y dasg o baratoi cyfeiliant ac agorawd i Johann Pepusch, cyfansoddwr o Loegr a aned yn yr Almaen. Aeth John Gay ymlaen i ysgrifennu dilyniant i’r opera, o’r enw Polly, wedi ei lleoli yn India’r Gorllewin, ond ni pherfformiwyd y gwaith tra’r oedd Gay yn fyw.

Codais fy sgôr o The Beggar’s Opera mewn siop ail law yn y Gelli Gandryll. Mae’n argraffiad o 1923 o ail argraffiad Mawrth 27ain 1728. Yn ei du blaen mae’r agoriad gan Pepusch, ac yna ceir testun cyfan John Gay, wedi’i fritho ag alawon syml un pennill gyda geiriau Gay. Mae rhai o’r alawon yn adnabyddus hyd heddiw, megis Lillibulero a Greensleeves; ac eraill yn llai adnabyddus. Mae llawer ohonynt yn ganeuon cyflawn 16 – 24 bar efallai. Mewn mannau eraill, daw tameidiau byr o ganeuon, megis Chevy Chase, y newidiwyd y geiriau gwreiddiol “God prosper long our noble King, our lives and safeties all” gyda “But now again my spirits sink, I’ll raise them high with wine”! Mae’r caneuon i gyd yn rhai bachog ac yn llawn egni, ond yn fy sgôr i, nid oes unrhyw gyfeiliant nac awgrym o’r ffordd y gallent fod wedi swnio yn y cynhyrchiad gwreiddiol.

Mae’r diffyg cyfeiliant ac unrhyw ddeunydd perfformio gwreiddiol wedi rhoi rhyddid i gynhyrchwyr, trefnyddion, cyfansoddwyr ac arweinwyr ac arwain at draddodiad o gyhoeddiadau wedi’u personoli o The Beggar’s Opera o’r cyfnod baroque i’r presennol. Ceir fersiynau gan Frederic Austin (y rhedodd ei fersiwn 1920 yn yr Hammersmith Lyric am dros 1400 o berfformiadau – dilynwyd hyn gan fersiwn o Polly), Benjamin Britten (a gyfansoddodd fersiwn 1948 ar gyfer yr English Opera Group gyda Peter Pears fel Capten Macheath) a Richard Bonynge (yr oedd ei fersiwn yn 1981 ar gyfer Australian Opera yn cynnwys Joan Sutherland, Kiri Te Kanawa ac Angela Lansbury). Mae eraill wedi rhoi tro ar yr hanes a chreu geiriau a cherddoriaeth newydd, gan gynnwys John La Touche a Duke Ellington gyda’u sioe gerdd Beggar’s Holiday yn y 1940au ac, yn fwyaf enwog, Bertholt Brecht a Kurt Weill gyda fersiwn 1928 o’r enw The Threepenny Opera, i ddathlu pen-blwydd y gwaith yn 200 oed.

Yn 2005, llwyfannodd Richard Studer a minnau fersiwn Britten ar gyfer West Green House Opera yn Hampshire, gan adfywio’r sioe yn 2010. Ers hynny, mae Richard wedi bod yn ystyried sioe un-ferch, fel detholiad o The Beggar’s Opera ac yn seiliedig ar un o’i phrif gymeriadau, y ddigyffelyb ac anhygoel Mrs Peachum llawn jin. Datblygodd Richard ei syniad gwreiddiol i OCC, gan gynnig darn un act newydd o’r enw Mrs Peachum’s Guide to Love and Marriage. Byddai’n canolbwyntio ar ddau brif gymeriad – Mrs Peachum a’i merch, Polly – gyda thrydydd cymeriad yn helpu i symud y stori yn ei blaen, i fod yn wrthgyferbyniad a bod yn fath o ‘ganolwr’ rhwng y fam a’r ferch. Y trydydd cymeriad yw Filch, a chwaraeir gan neb llai na’r Cardotyn (the Beggar) ei hun sydd, fel yn y gwreiddiol, wedi ‘cyfansoddi’ y gwaith ac yn ei gyflwyno.

Addasodd Richard destun John Gay, gan ailbennu ac aildrefnu llinellau er mwyn creu drama gomedi â ffocws pendant sy’n llawn egni rhwng y tri chymeriad ac sy’n para llai nag awr. Yn y broses, dewisodd tua 25 allan o 69 o faladau ac alawon gwreiddiol John Gay, ac yn fy marn i, dewisodd yn ddoeth! Fodd bynnag, gan eu bod yn bodoli fel alawon un pennill di-gyfeiliant, byddai angen cyfeiliant er mwyn i LlwyfannauLlai Opera Canolbarth Cymru gael cyflwyno darn newydd Richard. Dyma lle’r oeddwn i’n dod iddi…

Po fwyaf yr oeddwn i’n ymgolli ym melodïau John Gay, y mwyaf yr oeddwn eu trin fel pe bawn i wedi eu hysgrifennu fy hun. Yn achlysurol, rwyf wedi eu pinsio yma ac acw, ceisio cocsio mwy allan o rannau eraill, addasu neu ymestyn ambell alaw er mwyn adlewyrchu un ai pathos neu gomedi’r cymeriadau a’u sefyllfaoedd fel yr oeddwn yn eu gweld. Wrth i mi wneud hynny, dechreuais feddwl am balet cerddorol ar gyfer y gwaith. I ddechrau, cefais fy ysbrydoli gan bob math o gyfansoddwyr o’r gorffennol a’r presennol – o Handel i Britten, Janacek i Messiaen, Kurt Weill i Stephen Sondheim, Maurice Jarre i Alexandre Desplat, a llawer mwy. Ar y pwynt hwn gallai’r sgôr yn hawdd fod wedi ymddangos braidd yn sgitsoffrenig, ond buan y sefydlodd iaith oedd yn unoli’r cyfan ac, er gwaethaf y cyfeiriadau at gyfansoddwyr eraill yma ac acw, mae dilyniant cerddorol drwy gydol y darn.

Yn wir, daeth dilyniant, yn ganolog i’m ffordd o feddwl. Yn hytrach na thrin bob un o’r caneuon fel gwahanol rannau, dechreuais greu elfennau o hunaniaeth gerddorol drwy’r gwaith. Mae llawer o’r caneuon yn llifo i’w gilydd, gyda’r gerddoriaeth yn tanlinellu’r ddeialog. Mae’r syniadau cerddorol yn mynd ac yn dod, ac yna’n dychwelyd, yn aml ar wahanol ffurf ond yn adnabyddadwy. Yn fwyaf nodedig, caiff cân derfynol Mrs Peachum, ‘Greensleeves’ ei braslunio yn gyntaf mewn nifer o ffyrdd, fel pe bai’n ei pherswadio mai’r gân hon (a’i botel o jin) yw’r ffordd orau ymlaen.

Mae’r trefniannau offerynnol blaenorol yr wyf wedi ymgymryd â hwy i LlwyfannauLlai OCC wedi bod yn heriol ac yn foddhaol dros ben, ond mae’r sioe benodol hon wedi mynd â fi i gyfeiriadau eithaf annisgwyl. Alla i ddim aros am y beint post-mortem ac, o bosib, y G&T teyrngedol.

gan Jonathan Lyness

MRS PEACHUM’S GUIDE TO LOVE AND MARRIAGE
LlwyfannauLlai OCC 2019

  • Libreto John Gay wedi ei addasu gan Richard Studer
  • Cerddoriaeth gan Jonathan Lyness, wedi ei sylweddu o alawon gwreiddiol The Beggar’s Opera John Gay (1728)
  • Ar daith o 7 Tachwedd hyd at 7 Rhagfyr
  • www.midwalesopera.co.uk

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.