Fel rhan o’n rhaglen Milltir Sgwâr, mae’r gyfansoddwraig a’r gantores Eve Goodman wedi bod yn rhannu straeon ar gân gyda’i chymuned yn y Felinheli ar lannau Afon Menai. Wedi ei hysbrydoli gan draddodiad hynafol y bardd lleol, a fyddai’n cysylltu â’i gymuned ac yn rhannu straeon, mae Eve wedi casglu atgofion gan aelodau hŷn ei chymuned.

Mae ei chaneuon a’u straeon wedi eu gwreiddio’n ddwfn ym mywydau’r bobl y mae hi wedi eu cyfarfod drwy’r prosiect, eu hanes teuluol a’u cysylltiad â’r rhan arbennig iawn hon o Ogledd Cymru. Cawsom gyfle i sgwrsio gydag Eve er mwyn gweld sut roedd ei phrosiect yn dod yn ei flaen – ac i rannu’r gân gyntaf:

Yn amlwg, mae’r pandemig wedi bod yn gwneud gwaith cymunedol yn anos – Sut wyt ti wedi mynd ati i gasglu’r straeon hyn?

Rydw i wedi bod yn cyfarfod aelodau o’r gymuned ar-lein, dros y ffôn ac (wrth i’r rheoliadau lacio mymryn) wyneb yn wyneb yn yr ardd. Mae’n hyfryd beth sy’n deillio o sgwrs syml ynglŷn â bywyd bob dydd; yn aml y pethau bach, cyffredin, bob dydd sy’n fy ysbrydoli. Dwi’n wrandäwr naturiol – yn mwynhau clywed am y gorffennol yn enwedig, ac yn hoffi clywed am fywydau pobl eraill. Yn ystod y broses yma, dwi’n tueddu i adael i eraill arwain y sgwrs. Os bydd rhywun yn llawn bwrlwm ynglŷn â rhywbeth yn ein sgwrs, dwi’n mynd ar ôl hynny. Mae’n broses organig ac anffurfiol iawn a dwi’n hoffi gweld sut mae pethau’n datblygu. Ar ôl sgwrsio gyda rhywun, bydd eu straeon yn aml yn ail-ffurfio yn fy meddwl fel syniadau am ganeuon. Mae’n anodd ei roi mewn geiriau, a dwi ddim yn llafurio uwch eu pennau. Mae’r caneuon a’r themâu yn cyflwyno eu hunain yn reit fuan!

Elli di sôn rhywfaint am rai o’r bobl ‘rwyt ti wedi eu cyfarfod drwy’r prosiect?

Dwi wedi gwneud llawer o gysylltiadau hyfryd yn y pentref. O adeiladwr agerfadau sy’n chwarae’r clarinét, i ddynes annwyl o ffydd Bahai, i gyn-aelod o fand pync o’r 70au, dwi wedi cael sgyrsiau gwych a chysylltiad ystyrlon gyda phob un o’r unigolion. Mae ‘na themâu cyffredin i’r holl ganeuon sydd wedi dod i’r wyneb yn sgil y prosiect; dŵr, cymuned, cartref a pherthyn, i enwi dim ond rhai o’r themâu sydd wedi plethu eu ffordd i bob un o’r sgyrsiau. Mae’r themâu wedi cyrraedd i bob un o’r caneuon neu’r cofnodion a wnes i yn y dyddiadur fel rhan o’r prosiect. Dwi’n gweld hyn yn ddymunol o safbwynt artistig, ond mae’n amlygu’r ffaith ein bod ni’n rhannu profiad cyffredin. Po fwyaf y byddwn yn cysylltu ag eraill, y lleiaf unig y byddwn yn teimlo. Mae hon yn wers syml ond yn un ddwys, ac yn rhywbeth rwy’n tueddu i’w ddysgu a’i ddad-ddysgu drosodd a throsodd drwy fy mywyd. Gogoniant y prosiect yw fy mod i’n dal i weld fy ffrindiau newydd o gwmpas y pentref pan fydda i o gwmpas y lle. Ryda’ ni’n codi llaw, yn cael sgwrs, ac mi fydd yr edau sy’n ein cysylltu yn parhau hyd y byddaf yma’n byw.

Mae’n amlwg fod y math hwn o waith yn golygu llawer iawn i ti. Pam fod y prosiect yma yn teimlo mor bwysig?

I mi, prif ffocws y prosiect yma oedd cysylltiad â phobl. Yn ystod y datgysylltu ryda ni i gyd wedi ei deimlo oherwydd y pandemig, roeddwn i eisiau atgoffa fy hun ac eraill o’r ysbrydoliaeth, y cyfeillgarwch a’r iachâd a ddaw o sgwrs syml a phaned o de.

Mae clywed sut mae pethau wedi newid yn y pentref wedi bod yn ingol iawn. Fel rhywun sy’n gwneud ei bywoliaeth o rannu caneuon a pherfformio, dwi’n rhoi gwerth mawr ar gymuned ac agosatrwydd. Dim ond tyfu mae’r teimladau hynny yn sgil y prosiect yma. Mae gen i ymdeimlad cryfach mai ni sy’n gyfrifol am amddiffyn y naws gymunedol ryda ni mor ffodus i’w chael yn y pentref yma. Mae’r oes ddigidol, er gwaethaf ei rhyfeddodau, wedi effeithio ar gymuned y pentref. Rydw i’n gwybod bod llawer o’r bobl sydd wedi eu magu yn y pentref yn hiraethu am stryd fawr a’i siopau di-rif, ac yn dweud bod llawer mwy o bobl yn debygol o fod ‘o gwmpas y lle’ bryd hynny. Roedd clywed yr atgofion yma yn fy ngwneud i’n drist, gan fod yr agwedd gymdeithasol a’r straeon yn swnio’n eitha’ gwych! Ond rwy’n fythol obeithiol am newid. Rwy’n hynod o ffodus a breintiedig i allu dweud bod y pandemig wedi dangos i mi fod cymuned gref yn gallu bod yn rym bywydol ar amser anodd.

Y gân gyntaf rydym ni’n ei rhannu o brosiect Eve yw Cân Y Felinheli (i Beti).

Eglurodd Eve sut daeth y gân hon i fodolaeth:

“Mi wnes i ysgrifennu’r gân yma ar ôl sgwrs hyfryd gyda Beti, nain fy ffrind, Manon. Roedd Beti’n arfer dod ar ei gwyliau i’r Felinheli’n rheolaidd pan yn ferch ifanc. Byddai’n dal y trên yn Abersoch ac yn teithio gyda’i mam yr holl ffordd i’r dref borthladd fechan yma ar arfordir gogleddol Gwynedd, i fwynhau gwyliau yn nhŷ ei Modryb. Yn fwy diweddar fel dynes ifanc, symudodd Beti i dŷ ei Modryb a magu teulu. Mae’r cartref yn dal yn y teulu heddiw ond mae Beti wedi symud yn ôl i Ben Llŷn erbyn hyn. Mae’r trên yr oedd hi wrth ei bodd yn teithio arno wedi hen ddiflannu a llwybr beiciau Lôn Las Cymru yn ei le.

Beti fel merch

“Yn ystod fy sgwrs gyda Beti, gofynnodd imi a oeddwn i’n perthyn i’r bardd Cymraeg Dic Goodman. Dydw i ddim, hyd y gŵn i, ond roeddwn i’n chwilfrydig. Cefais fy annog gan Beti i fenthyg casgliad o farddoniaeth (Caneuon y Gwynt a’r Glaw) gan Manon. Mae’r darluniau hyfryd a’r cerddi swynol yn llawn o’r hud tawel sy’n fy ysbrydoli, felly ysgrifennais eiriau’r gân i Beti gyda steil Dic Goodman mewn cof: syml a llawen.”

Cân Y Felinheli (i Beti).

Geiriau a cherddoriaeth gan Eve Goodman

Gwrandewch ar Google Drive:
https://drive.google.com/file/d/1_9itHdahGLEECCwKnt_RnpaV27FB7X-s/view

PENNILL 1
Mae’n fore o haf a chlywaf
Y trên yn canu ei gân
Mae’r mwg yn gwneud i mi feddwl
Am antur, glo, a than
Mae’r haul ar y bryn yn brysur
Fel fi yn pacio fy mag
Dwi’n mynd i’r Felinheli
I lenwi be sy’n wag

PENNILL 2
Fi a Mam yn yr orsaf
Yn cerdded at y trên
Mae’na bobl yn symud yn brysur
Rhai yn ddig, a rhai yn glên
Dan ni’n eistedd i lawr yn y cerbyd
A’r ffenest tu allan yn fwg
Mae’n clirio wrth i ni symud
Fel y tywydd drwg

CYTGAN
Ar lan y môr, mond fy modryb, Mam a fi
Ar lan y môr, dan ni’n chwarae a rhedeg yn rhydd
Ar lan y môr, mynd ar wyliau i’r Felinheli
Ar lan y môr, wrth fy modd hefo’r Felinheli

PENNILL 3
Mae’r trên yn cyflymu heibio
Pentrefi gwahanol i gyd
Ond ni allant nhw gymharu
I gyrchfan Mam a fi
Dw i’n edrych tu allan i’r ffenest
Cael lot o hwyl a sbri
Dan ni’n mynd ar daith i’r lan y môr
I’r annwyl Felinheli

PENNILL 4
Mynd i aros gyda fy modryb
Yn y bwthyn bach
Ond yn treulio’r amser tu allan
Yn yr awyr iach
Does gan fy modryb ddim plant
A fi yw’r ieuengaf o dri
Mae teganau yn byw yn yr hen gwt glo
I gadw’r llanast o’r tŷ

CYTGAN

 

 

 

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.