Rydym yn falch dros ben o bob un o brosiectau Milltir Sgwâr ond yn ystod Wythnos y Ffoaduriaid eleni, roeddem yn awyddus iawn i rannu’r gwaith a wnaed gan Rachel Moràs a Meryn Williams gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches ar y cyd â Dinas Noddfa Abertawe. Drwy rannu caneuon o’u mamwledydd, helpodd Rachel grŵp o newydd-ddyfodiaid i Gymru ddod ynghyd trwy gariad at gerddoriaeth a rhannu eu straeon, eu gobeithion a’u breuddwydion. Mae’r siwrnai wedi bod yn un emosiynol ond bu’n bleser ei chefnogi trwy ein rhaglen gomisiynu fechan.

Yng ngeiriau Rachel:

Sefydlwyd Prosiect Rhannu Cân i roi lle i aelodau cymuned ffoaduriaid a cheiswyr lloches Abertawe rannu caneuon, cerddoriaeth a straeon eu mamwledydd. Ein nod oedd rhoi lle iddynt ailgysylltu â cherddoriaeth eu treftadaeth a rhannu eu diwylliannau gyda ni a gweddill y gymuned. Ein gobaith oedd helpu i greu cysylltiadau newydd o fewn y grŵp a’r gymuned ehangach trwy rannu caneuon a cherddoriaeth, ac y byddai hynny’n helpu i leddfu unigrwydd ac arwahanrwydd ac yn helpu’r unigolion hyn i deimlo’n fwy cartrefol yn Abertawe.

Roeddem wedi deall bod aelodau’r gymuned ffoaduriaid yn fwy ynysig yn sgil y pandemig, a’u bod yn gorfod dod i ben â chyfnod rhyfedd a dryslyd mewn rhan estron ac anghyfarwydd o’r byd, yn bell o’u ffrindiau a’u teuluoedd a’u rhwydweithiau cymorth cyfarwydd. Roeddem ni’n awyddus i greu rhywbeth a allai leddfu eu hunigrwydd, eu diddanu a rhoi rhywfaint o gysylltiad, ymdeimlad o integreiddio ac ymdeimlad o berthyn iddynt am ba bynnag hyd y bo angen.

Roeddem hefyd yn gobeithio creu cymuned gefnogol a chynnig clust a chysylltiad ag eraill mewn cyfnod pan fo pawb yn fwy ynysig ac ar ein pennau ein hunain. Daeth y syniad o bethau sy’n ein cysuro pan fyddwn yn isel. Pan fydda i’n teimlo’n isel, wedi fy llethu, neu’n unig, rwy’n cysuro fy hun trwy ganu’r caneuon roeddwn i’n arfer eu canu fel plentyn. Maen nhw’n rhoi cysur a chysylltiad â’m gorffennol a’r bobl oedd yn bwysig i mi, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n byw’n agos neu’n dal yn fyw. Ein nod oedd creu lle i bobl wneud hyn, rhannu eu hatgofion a’u straeon, a theimlo cysylltiad a chysur trwy ganeuon eu gorffennol a gwneud ffrindiau a chysylltiadau newydd ar yr un pryd.

Cam cyntaf y daith oedd cysylltu â Dinas Noddfa Abertawe. Mae’r tîm wedi bod yn hynod garedig a chefnogol drwy gydol y project. Gyda chymorth aelodau’r tîm oedd yn diddori mewn cerddoriaeth yn hoffi syniad y prosiect, gwahoddwyd cyfranogwyr trwy rwydwaith o sefydliadau gwirfoddol. Wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen, gwelsom fod pobl yn ymuno â’r sesiynau ar ôl clywed am y prosiect gan rywun oedd wedi bod yn barod, felly cynyddodd y niferoedd. Daeth rhai pobl unwaith neu ddwy a daeth eraill bob wythnos, a datblygodd ymdeimlad o gymuned. Daethom i adnabod rhai o’r cyfranogwyr yn dda iawn.

 


Caneuon

Cân C

Rydw i wrth fy modd gyda’r gân mae’n fy nghynrychioli i’r dim a phan fyddaf yn ei chanu rwy’n teimlo’n hapus. Mae’n annwyl iawn ac rwy’n hoffi geiriau’r gân.

 

Rhannwyd y gân hon gan berson annwyl a swil iawn, nad oedd prin yn siarad ond yn rhannu ychydig o ganeuon ym mhob sesiwn. Roedd yn hyfryd ei gweld yn mwynhau rhannu caneuon oedd yn ei chynrychioli mewn rhyw ffordd. Weithiau roedd yn drist, yn hiraethu am adref a’i theulu a byddai’n rhannu cân roedd ei mam wedi’i chanu iddi’n blentyn; ar adegau eraill roedd yn hapus a byddai’n rhannu cân roedd hi’n arfer ei chanu ar adegau llawen ac oedd yn ei hatgoffa o amser a lle neu berson penodol. Dywedodd wrthym fod y gân hon yn ei hatgoffa o gartref ei phlentyndod a’i rhieni ac yn gwneud iddi deimlo’n hapus pan oedd arni hiraeth amdanynt.

Cân D

 Mae gen i gân sy’n fy atgoffa o adref, caneuon yn fy mamiaith, pan fyddaf yn eu canu rwy’n teimlo mod i yn fy nhŷ, adref yn Nigeria. Iaith Yoruba. Ac mae Abertawe yn gartref imi hefyd! Rwy’n canu cân Yoruba.

Cyfieithiad: Duw sy’n creu pob un o fynyddoedd yr oesoedd, fel y mynyddoedd hynafol. I Ti yn unig y rhoddwn ganmoliaeth. Pwy arall sy’n haeddu fy moliant, os nad fy Nhad nefol? I bwy arall y rhoddaf fy holl foliant? O Dduw, a greodd y mynyddoedd hynafol, Ti yn unig a folianwn.

 

Roedd y person hwn hefyd yn rhannu cân bob wythnos, pob un yn wych i wrando arni gan fod gan ganddi lais hardd ac yn amlwg wrth ei bodd yn canu. Roedd rhannu’r caneuon yn rhoi llawenydd mawr iddi ac roedd yn ein gwneud ninnau’n llawen gan ei fod ei mwynhad yn heintus. Soniodd am ei theulu a bod y gân hon yn ei hatgoffa o’i chartref. Wrth gau ei llygaid, gallai weld mynyddoedd ei thref enedigol a theimlai bod ei llais yn atseinio yn waliau cartref ei phlentyndod. Er bod y gân hon yn ei chysylltu â’i gwreiddiau roedd hefyd yn gymorth iddi deimlo mwy o gysylltiad â’i chartref newydd yma, gan fod y mynyddoedd ei hatgoffa o’r rhai yn ei gwlad enedigol. Roedd yn wefreiddiol clywed y caneuon traddodiadol hyn ac roedd ei llais a’i dehongliad o’r gân mor emosiynol nes roedd hi’n amhosibl peidio â chael eich sgubo i ffwrdd gyda’i llais. Fe wnaeth i ni deimlo’n drist, yn hapus, yn felancolaidd, aeth â ni ar daith emosiynol trwy ei gorffennol a’i thaith i sefydlu cartref yma.

Cân D2D

Mae’n ddrwg gen i, rwy’n agos at ddagrau, pa bryd bynnag y canaf y gân, rwy’n cofio am fy mam. Mae’n golygu mai Mamau yw’r tlysau gwerthfawr, yr aur gwerthfawr, allwn ni ddim eu prynu gydag arian. Maen nhw mor werthfawr am nad oes gennym ni’r arian i’w prynu, ac fe wnaeth fy nghario yn ei chroth am naw mis a’m rhoi ar ei chefn, oherwydd yn Affrica mae mamau fel arfer yn cario plant ar eu cefnau. Fe wnaeth hi fy nghario ar ei chefn am dair blynedd. Mae mamau mor werthfawr, dydyn nhw ddim i’w cael ym mhob man. Maen nhw’n werthfawr.

 

Roedd y gân hon yn hynod o deimladwy. Dywedodd y cyfranogwr ei bod wedi colli ei mam a bod arni hiraeth mawr amdani. Roedd y gân hon yn golygu llawer iawn i’r ddwy ohonynt. Roedd yn ei hatgoffa o bopeth roedd ei mam wedi ei wneud iddi ac mor ddiolchgar roedd hi am yr holl gariad roedd ei mam wedi ei roi iddi. Roedd yn gwneud iddi feddwl am ei phlant ei hun hefyd ac mor anhygoel oedd ei chariad atynt a’i bod yn falch o gael gwneud yr hyn yr oedd hi’n ei wneud iddynt. Roedd yn foment arbennig iawn i bawb yn y grŵp ac roedd sawl un yn ddagreuol.

Cân T

Cân Yoruba. Roedd y person hwn yn mynychu bob wythnos ac yn gwrando nes iddi deimlo’n ddigon diogel i rannu cân. Dywedodd ei bod wedi bod yn teimlo’n isel yn ystod yr wythnos a bod y gân hon wedi dod i’w phen, a’i bod wedi ei chanu i godi ei chalon ei hun a meddwl ‘Iawn, rwy’n gwybod beth i’w rannu’r wythnos nesaf!

 

Roedd yn hyfryd, cân o lawenydd a hapusrwydd a ffydd yn yr Iesu. Roedd y ffaith mai dyma’r tro cyntaf iddi rannu gyda ni, a’i bod yn ymddiried ynom ac yn ein derbyn ddigon i fentro rhannu rhywbeth mor bersonol, yn arbennig iawn. Yn aml yn ystod y prosiect, roeddem yn teimlo ein bod yn cael rhannu digwyddiadau personol iawn a oedd wedi siapio bywydau’r cyfranogwyr. Roedd yn anrhydedd bod yn dyst i’r digwyddiadau hyn.

Cân 2E

Cân Yoruba am blentyndod / plant.

Cyfieithiad: Maent yn tyfu mor gyflym a nawr â minnau’n ifanc, byddaf yn cario fy mhlentyn fy hun, gan eu bod yn tyfu mor gyflym felly gadewch imi beidio â cholli eiliad, gadewch imi fagu fy mhlentyn fy hun, gadewch imi gario fy mhlentyn fy hun pan allaf.

 

Rhannwyd y gân hon gan fenyw a ddaeth i’r rhan fwyaf o’r sesiynau. Eglurodd fod y gân hon yn ei hatgoffa o’i mam. Roedd hi wedi rhannu cân cyn hyn a sôn am ei mam a bod ganddi hiraeth amdani. Dywedodd fod y gân hon yn gwneud iddi deimlo’n ddiolchgar am bopeth roedd ei mam wedi ei wneud iddi, ei chario a gofalu amdani. Roedd canu’r gân hon hefyd yn ei hatgoffa bod angen iddi fod yn ddiolchgar am ei phlant ei hun a mwynhau’r amser yma cyn iddyn nhw dyfu. Doedd hi ddim eisiau colli eiliad o’u hamser gyda’i gilydd. ‘Doedd hi ddim eisiau difaru bod yr amser wedi mynd heibio heb iddi werthfawrogi a sylwi ar y ffyrdd bach roedden nhw’n newid wrth dyfu’n hŷn.

Roedd y gân hon yn gwneud i mi deimlo’n hapus a thrist ar yr un pryd, wrth imi feddwl am ei geiriau ac am dreigl amser. Ysgogodd y gân hon drafodaeth ymhlith y cyfranogwyr gan fod pawb yn cofio ac yn edrych yn ôl ar gyfnodau yn ein bywydau pan oedd yr amser wedi hedfan ac mai un peth cadarnhaol am y flwyddyn ddiwethaf oedd bod amser wedi arafu yn llwyr a rhoi cyfle i ni werthfawrogi’r bobl rydyn ni’n eu caru a’r amser sydd gennym ni gyda’n gilydd.


Trwy gydol y sesiynau, roedd un fenyw ifanc yn bresennol bob wythnos ac yn rhannu llawer o atgofion a gwahanol ganeuon gyda’r grŵp. Yn y sesiynau cyntaf roedd hi’n rhannu cymysgedd o ganeuon lleddf a hapus, ond caneuon oedd yn edrych yn ôl ar y gorffennol ac yn llawn edifeirwch a thristwch. Ond yn yr ail sesiynau daeth ei chaneuon yn llawer mwy hapus a gobeithiol. Caneuon am y dyfodol ac am edrych ymlaen ac am blant. Gobaith am ddyfodol newydd a gwahanol. Roedd dwy gân yn arbennig o ingol yn sôn am gael cyfrinach gudd na ellid ei rhannu â’r byd ac un arall am addewid mam i’r plentyn yn ei chroth. Wrth edrych yn ôl nawr gallaf weld bod y dewis o ganeuon yn ddadlennol iawn. Methodd y sesiwn olaf am ei bod hi a’i gŵr wedi bod yn yr ysbyty yn aros am apwyntiad cynenedigol, ond roedd arni eisiau rhannu’r newyddion eu bod yn disgwyl plentyn arall! Roedd yn hyfryd clywed eu newyddion cyffrous ac roedd yn ddifyr meddwl yn ôl am yr hyn roedd hi wedi’i rannu yn ystod y prosiect a’r ffordd roedd ei dewis o ganeuon wedi bod yn adlewyrchiad o’i bywyd. Roedd yn hyfryd bod ei hagwedd wedi dod yn fwy cadarnhaol oherwydd y cychwyn newydd a’i bod wedi troi, ar ôl edrych yn ôl ar y bywyd roedd hi wedi ei adael, i edrych ymlaen at y bywyd oedd eto i’w fyw.


Yn y dyfodol, rwy’n bwriadu gwneud mwy o brosiectau cymunedol ochr yn ochr â’m gwaith canu. Rydw i wedi elwa yn fawr o’r prosiect hwn; Rydw i wedi magu hyder, a dysgu sgiliau gwerthfawr y gallaf eu defnyddio i gynllunio a chreu prosiectau cymunedol eraill yn yr ardal leol. Gobeithio ein bod wedi helpu i leddfu unigrwydd ac arwahanrwydd y rhai a gymerodd ran yn ystod y cyfnod clo. Heb os nac oni bai fe wnes i elwa o’r prosiect. Rydw i’n teimlo’n fwy o ran o’r gymuned ac mae’r ddinas yn teimlo fel lle llawer llai!

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.