Pa glywodd gerddoriaeth Xavier Montsalvatge amser maith yn ôl yn 1995, cafodd Cyfarwyddwr Cerdd OCC ei hudo gan waith y cyfansoddwr Catalan. Ar gyfer taith LlwyfannauLlai yn yr hydref eleni, ugain mlynedd ar ôl marwolaeth y cyfansoddwr, mae’n bleser gan Opera Canolbarth Cymru ddod ag opera Montsalvatge, El Gato Con Botas/Pws Esgid Uchel i gynulleidfaoedd newydd gyda threfniant siambr gan Jonathan Lyness. Mae OCC wedi sicrhau’r hawliau gan Ystâd Montsalvatge i gynhyrchu’r opera gyda threfniant siambr newydd a chyfieithiad Saesneg newydd gan ein Cyfarwyddwr Artistig, Richard Studer. Fe’i cyhoeddir gan Peermusic, Efrog Newydd a fydd yn golygu bod y perl hwn, sydd prin yn cael ei berfformio, ar gael yn eang i gwmnïau dros y byd ar gyfer teithiau siambr.

Deuthum ar draws y cyfansoddwr Sbaeneg, Xavier Montsalvatgeam, y tro cyntaf drwy set o bum cân dan y teitl Cinco canciones negras, ei waith enwocaf, a gyfansoddwyd yn 1946. Roeddwn i’n chwarae’r piano mewn bwyty yn ne Llundain ar ddechrau 1995 pan ddaeth cwsmer – mezzo soprano o Sbaenataf a gofyn a fyddwn i’n cyfeilio iddi mewn cyngerdd cinio yn Llyfrgell Victoria. Fe gyflwynasom raglen gymysg oedd yn cynnwys Cinco canciones. Mae fy nghopi o’r gerddoriaeth yn dal gen i, ac o’m blaen wrth i mi ysgrifennu hwn ac mae’r atgofion yn llifo’n ôl. Ar wahân i fynd i’r afael â chromatyddiaeth ac ynganiad ei enw roeddwn i wrth fy modd gyda’r caneuon – er mwyn cael cyflwyniad i gerddoriaeth Montsalvatge, rwy’n argymell eich bod yn neidio draw i youtube i wrando ar y recordiad o Montserrat Caballé.

Montsalvatge gyda Montserrat Caballé

A hynny a fu cyn belled ag yr oedd Montsalvatge yn y cwestiwn. Ond tua deng mlynedd yn ddiweddarach roeddwn i wedi arwain rhywfaint o operâu byr yr ugeinfed ganrif gyda West Green House Opera ac roeddwn i’n chwilio am fwy o repertoire pan ddeuthum ar draws recordiad diweddar o El Gato con botas, ynghyd ag adolygiad yn y Gramophone. Felly yn llawn chwilfrydedd, a chydag atgofion melys o Lyfrgell Victoria, prynais y CD a gwrando. Cefais fy hudo yn y fan a’r lle – mae’r gerddoriaeth agoriadol yn arbennig o swynol a chofiadwy ac roeddwn i’n teimlo fy mod wedi cyrraedd byd tebyg i fyd y bum cân ddiwethaf. Roeddwn i’n meddwl y gellid gwneud y darn, ond daeth pethau eraill i’r blaen fel sy’n aml yn digwydd ac ar y silff rhoddwyd y CD a hynny, eto, a fu.

Ac yna, tua degawd arall yn ddiweddarach, roeddwn i unwaith eto yn chwilio am repertoire – y tro hwn i Opera Canolbarth Cymru. Roeddem ni’n creu tymhorau ar wahanol themâu oedd yn cynnwys opera lawn ar gyfer taith PrifLwyfan ac opera fer ar gyfer rhaglen LlwyfannauLlai. Rhoddwyd ystyriaeth i Straeon Tylwyth Teg, a dyna pa bryd y cofiais am El Gato ac estyn fy CD (llychlyd bellach) oddi ar y silff mewn cyffro er mwyn gwrando eto. Unwaith eto gweithiodd Montsalvatge ei hud a’i ledrith. Fodd bynnag, byddai’n rhaid gwneud trefniant siambr newydd o’r sgôr ac roedd y gwaith dan hawlfraint o hyd. Rhoddwyd y syniad o’r neilltu tan fis Mawrth 2021, wrth inni ddechrau dod allan ar ochr arall Covid-19. Fe es i at y cyhoeddwyr Peermusic gyda chynnig ar gyfer trefniant siambr newydd a chyfieithiad Saesneg newydd. Daeth Peermusic a theulu Montsalvatge yn ôl ata i yn llawn brwdfrydedd!

Ganed Montsalvatge yn Gerona, Catalonia yn 1912 ac astudiodd y ffidil a chyfansoddi yn y Conservatori Superior de Música del Liceu. Yno, ym Marcelona cyn cyfnod Franco, clywodd lawer o gerddoriaeth Ewropeaidd newydd, gan gynnwys gwaith gan Stravinsky a Schoenberg, ac fe’i dennwyd yn arbennig gan gyfansoddwyr Ffrengig modern megis Ravel, Satie, Milhaud a Poulenc. Mentrodd i Baris ond yn ddiweddarach fe ymgartrefodd yn ôl ym Marcelona lle bu’n gweithio fel cyfansoddwr ac adolygwr cerddoriaeth. Aeth ymlaen wedyn i fod yn athro cyfansoddi yn y Conservatori. Fe’i gwnaed yn Chevalier de l’Ordre des Arts et des Lettres gan Lywodraeth Ffrainc yn 1970 ac enilliodd y Premio Nacional de Música yn Sbaen am gyfansoddi yn 1985. Bu farw yn 2002. Fe’i hystyrir yn un o gyfansoddwyr blaenllaw’r ugeinfed ganrif yn Sbaen ac mae ei waith yn amrywiol. Gyda diddordebau eang ac amrywiol ym mhob math o ddulliau a genres, mae ei waith yn cynnwys cerddoriaeth gerddorfaol, leisiol, offerynnol a siambr, cerddoriaeth i opera a ffilm a sawl concerto ar gyfer y piano, yr harpsicord, y ffidil, y delyn a’r gitâr.

Montsalvatge gyda Néstor Luján

El Gato con botas oedd y gyntaf o dair opera gan Montsalvatge, yn dilyn llwyddiant ei Cinco canciones negras. Fe’i cwblhawyd yn 1947 a chyflwynwyd y perfformiad cyntaf yn y Teatre del Liceu ym mis Ionawr 1948. Ysgrifennwyd y libretto gan y newyddiadurwr, nofelydd a’r beirniad bwyd Néstor Luján. Hanes cyfarwydd Pws Esgid Uchel yw’r plot – hanes oedd yn tarddu o’r Eidal cyn symud dros Ewrop. Roedd y fersiwn gynnar enwocaf wedi ei hysgrifennu gan yr awdur Ffrengig Charles Perrault o fewn ei gasgliad o wyth stori dylwyth teg Histoires ou contes du temps passé, a gyhoeddwyd yn 1695 fel Les Contes de ma mère l’Oye (Mother Goose Tales). Prin yw’r addasiadau cerddorol serch hynny, ond mae’r gath yn ymddangos yn nhrydedd act The Sleeping Beauty Tchaikovsky.

Darlun o Puss in Boots a Dalen deitl Contes de ma mère l’Oye Perrault:

Adroddir fersiwn Montsalvatge mewn dwy act fer ac, er bod y cyfansoddwr yn cael ei ystyried yn fodernydd ar y cyfan, mae’n anodd credu hynny ar sail tystiolaeth yr opera hon. Mae rhythmau a lliwiau Iberaidd yn sgleinio drwy lawer o’r gwaith, yn ogystal ag eclectigiaeth Montsalvatge. Ceir adroddganau, deuawd gyflym a chynddeiriog yn steil Rossini, dawnsfeydd neo-glasurol a chân ddwyreiniol ei naws am gwningen, ac mae effeithiau cathaidd drwy gydol y gwaith. O ran yr olygfa gyda’r ellyll, mae’r cyfansoddwr yn ymhyfrydu mewn creu cerddoriaeth addas ar gyfer llew, parot (gydag awgrym o Erik Satie) a llygoden – bydd hyn i gyd yn gwneud synnwyr i’r rhai ohonoch chi sy’n gyfarwydd â’r plot. Drwy gydol yr opera, mae’r gerddoriaeth yn ddengar a chanadwy – gellir dychmygu bod Montsalvatge wedi cael cryn hwyl yn ei hysgrifennu.

Ond er gwaetha’r perseinedd a’r gyfaredd, mae’r sgôr hefyd yn cynnwys llawer iawn o soffistigeiddrwydd a sgorio anarferol. Nid yw’r harmonïau’n amlwg bob amser ac ambell dro nid yw’n glir lle mae’r alaw o fewn yr harmoni. Mae gweithio drwy’r sgôr wedi bod yn ddiddorol ac anesmwyth, ond roedd penderfynu ar fy offeryniaeth yn weddol syml. At offerynnau arferol cynyrchiadau LlwyfannauLlai OCC o ffidil, sef basŵn ac allweddellau, rwyf wedi ychwanegu trymped ac offeryn taro, gyda’r glockenspiel yn arbennig o brysur. Fe wnes i gwblhau’r sgôr yn gynharach eleni ac mae’n debyg y byddaf yn dal i addasu a newid wrth inni deithio gyda’r sioe, ar y cyd â chyfieithiad Saesneg newydd Richard Studer o’r libreto. Y cwestiwn mawr erbyn hyn yw: sut mae llwyfannu golygfa ar gyfer llew, parot a llygoden…

Montsalvatge gyda’i wraig Elena Pérez de Olaguer yn nhref Cadaqués, i’r gogledd o Farcelona

 

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.