Rydym yn ein gwahodd i ymuno â nhw mewn byd Tylwyth Teg llawn hud a lledrith ar gyfer tymor newyd a lansiwyd yn Neuadd Gregynog ddydd Sul.

Meddai Lydia Basset, y Cyfarwyddwr Gweithredol, wrth lansio eu tymor Straeon Tylwyth Teg yn Gala flynyddol Cyfeillion OCC:

“Mae llawer o bobl yn cael trafferthion ar hyn o bryd, ac mae rhywbeth hudolus am adael i rywun ganu stori i chi. Rydyn ni am i’r straeon Tylwyth Teg hudolus hyn eich trosglwyddo i fyd arall am y noson, byd yn llawn gwrachod ac ellyll, tywysoges a chath ddireidus yn ei hesgidiau uchel. Maen nhw’n straeon cyfarwydd gyda thro operatig ac rydyn ni wrth ein boddau yn cael eu rhannu â chynulleidfaoedd ledled Cymru a’r Gororau.”

Bydd trefniant siambr newydd Jonathan Lyness o Pws Esgid Uchel (El Gato con Botas), a threfniant cerddorfaol gostyngedig o Hansel a Gretel, yn golygu bod OCC yn cael mynd ag opera fyw broffesiynol i leoliadau bach a chanolig yng nghalon cymunedau ledled Cymru a’r Gororau. Bydd y ddau gynhyrchiad yn cael eu canu yn Saesneg.

Meddai Jonathan Lyness:

Ar gyfer tymor Tylwyth Teg OCC rydym ni wedi dewis dwy opera anhygoel – campwaith Humperdinck, Hansel a Gretel ac opera fer egnïol wych Montsalvatge, El Gato con Botas.  Pwy sydd heb glywed am Pws Esgid Uchel? Ond pwy all gofio’r stori? Dyma gyfle i gynulleidfaoedd o bob oed ddod yn ôl at hanes y gath ddireidus hon ac ymhyfrydu yng ngherddoriaeth hardd y cyfansoddwr Catalanaidd hwn nad yw’n cael ei chlywed yn aml.

 Nid oes angen fawr o gyflwyniad ar Hansel a Gretel. Y caneuon gwerin hawdd eu canu wedi’u plethu i sgôr gyfoethog, ramantus, ynghyd â’r wrach fwyaf brawychus i osod troed ar y llwyfan operatig erioed, sy’n gwneud yr opera hon yn un heb ei hail.

Dwy noson lawen o gerddoriaeth wych ac adloniant theatrig, i’n holl gynulleidfaoedd – oedolion, plant, neu’r ddau!”

O’r nodyn cyntaf, mae cerddoriaeth Montsalvatge yn egnïol, yn soniarus ac yn llawn rhythmau bachog, alawon toreithiog ac effeithiau cerddorol cathaidd. Cath sy’n bod yn giwpid, ellyll araf a diweddglo hapus iawn sy’n golygu bod hon yn ffordd berffaith o gyflwyno opera i bobl ifanc. Bydd y 5 canwr a’r 5 cerddor yn dod ynghyd eto yn yr ail hanner a fydd yn cael ei gyflwyno ar ffurf cabaret, yn byrlymu â cherddoriaeth boblogaidd.

On a white background, a Tabby Cat sits on an ornate white chair. The cat wears a gold crown with red jewels. Next to the chair there's a pair of cowboy boots.
Puss in Boots, LwyfannauLlai 2022

Mae clasur Humperdinck o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Hansel a Gretel yn seiliedig ar stori dylwyth teg y Brodyr Grimm. Caiff dau blentyn eu diarddel i’r goedwig hudolus gan eu rhieni llwglyd, rhwystredig lle maen nhw’n crwydro i grafangau gwrach ddrwg sy’n benderfynol o’u troi’n fara sinsir. Bydd partneriaid cerddorfaol OCC, Ensemble Cymru, yn ymuno â chast o gantorion ifanc proffesiynol, a chorws o blant lleol sy’n cymryd rhan ym mhob lleoliad.

Dark house in the middle of the forest with one yellow light shining from the window.
Hansel and Gretel, PrifLwyfannau 2023

Mae taith LlwyfannauLlai OCC o Pws Esgid Uchel yn dechrau yn Neuadd Gregynog (tocynnau o Theatr Hafren, Y Drenewydd) ddydd Gwener 14 Hydref 2022. Yna bydd yn teithio i Gastell yr Esgob, Abertawe, Cricieth, Bae Colwyn, Yr Wyddgrug, Llanandras, Abergwaun, Ystrad Aeron, Llwydlo, Y Fenni a’r Bermo cyn y perfformiad olaf yn Aberdyfi ddydd Sadwrn 12 Tachwedd.

Mae eu taith Prif Lwyfan o Hansel a Gretel yn cychwyn yn Theatr Hafren yn y Drenewydd ddydd Sadwrn 4 Mawrth 2023. Yna bydd yn teithio i’r Wyddgrug, Bangor, Aberhonddu, Aberystwyth, Aberdaugleddau, Henffordd a Llanelli cyn y perfformiad olaf yng Nghasnewydd ddydd Iau 23 Mawrth.

Bydd y perfformiadau canlynol yn cynnwys dehongliad Iaith Arwyddion Prydain gan Julie Doyle: Pws Esgid Uchel ar 19 Hydref 2022 (Canolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe); Hansel a Gretel ar 23 Mawrth 2023 (Glan yr Afon, Casnewydd).

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.