Rydyn ni’n cwrdd â Pws a’n Tywysoges, y Melinydd, y Brenin a’r Cawr wrth iddyn nhw baratoi i gychwyn ar daith. Rydym ni bron yn barod i agor taith yr hydref o Puss in Boots Montsalvatge – ac mae’n hen bryd i ni ddod i adnabod ein cast!

Mae ein teithiau LlwyfannauLlai yn glamp o ymdrech gan y tîm ac yn gampwaith aml-orchwyl – ein Cyfarwyddwr Artistig ysgrifennodd ein cyfieithiad newydd, ddyluniodd y set a’r gwisgoedd ac sy’n helpu i gael y sioe i mewn ac allan o’n lleoliadau sy’n amrywio o neuaddau cymunedol ac eglwysi i theatrau canolig eu maint, heb sôn am gyfarwyddo’r sioe. Ein Cyfarwyddwr Cerdd ysgrifennodd y trefniant siambr sy’n gwneud y daith yn bosib – ac mae’n chwarae ar y llwyfan bob noson fel aelod o’n band o bum cerddor.

Un o bleserau taith Puss in Boots yw er bod hanes anturiaethau’r gath gyfrwys yn un y mae’r rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd â hi ers ein plentyndod (llaw i fyny pawb sy’n ddigon hen i gofio darllen fersiwn clawr cardbord Ladybird), mae opera Montsalvatge yn newydd i bawb, ac eithrio Jonathan Lyness a ddaeth o hyd i waith y cyfansoddwr Catalanaidd flynyddoedd lawer yn ôl. Mae ein cast wedi gorfod miniogi eu pensiliau o ddifri a dechrau’r tymor newydd, sgoriau dan eu trwynau, trwy fynd i’r afael â’r cymeriadau hynod ddiddorol sy’n byw ym myd Puss in Boots Montsalvatge.

Bass Trevor Eliot Bowes is a young white man with short black hair,
Trevor Eliot Bowes

Mae ein Cawr, Trevor Eliot Bowes, yn ymuno ag Opera Canolbarth Cymru am y tro cyntaf, ac yn dod i gefn gwlad Cymru am y tro cyntaf ar ôl cael ei fagu yng Ngholumbia Brydeinig – ond meddai, “Roedd fy nhaid o Ganada wedi’i leoli yn Ninbych-y-pysgod ar ôl yr Ail Ryfel Byd felly treuliodd fy nhad ei blentyndod cynnar yno. Mae Cymru felly wedi bod yn rhan fawr o chwedloniaeth fy nheulu erioed.

Eglurodd Trevor: “Mae’r opera yma’n un newydd sbon i mi! Mae’n wirioneddol arbennig a dwi’n hoff iawn o’r syniad o chwarae cymeriad sy’n gallu trawsnewid o fod yn ellyll i fod yn llew i fod yn barot. Mae’n mynd i fod yn ddifyr!” Efallai y byddai goruchwyliwr ein gwisgoedd Jill Rolfe yn anghytuno…

Ar ôl treulio peth amser yn dod i adnabod y Cawr, fe wnaeth Trevor grynhoi’r cymeriad fel hyn: “Hunanol, maldodus, gwrthun, trahaus, ffôl. Hefyd yn rhy feddw i arfer synnwyr cyffredin!” Allwn ni ddim aros i gwrdd ag ef yn y stiwdio ymarfer!

Philip Smith
Philip Smith

Mae ein Brenin, Philip Smith, yn un o wynebau a lleisiau rheolaidd gydag OCC ond mae cerddoriaeth Montsalvatge yn hollol newydd iddo yntau hefyd: “Doeddwn i erioed wedi clywed am yr opera hon nes i mi gael cynnig y rhan. Mae mynd i’r afael â sgôr newydd ac adeiladu cymeriad newydd ffres yn brofiad cyffrous. Mae’r brenin yn ffigwr rhodresgar, y mae ei gorff a’i deyrnasiad wedi gweld dyddiau gwell. Ef yw’r cyferbyniad comig, yn ogystal â’r Cawr, i’r Dywysoges, y Melinydd a Phws fwy difrifol. Mae ei gerddoriaeth gyffredinol yn frenhinol ac yn urddasol ond ceir moment neu ddau o dynerwch hefyd. Mae arno eisiau’r gorau i’w ferch, y Dywysoges, ond yn cael ei gymell i geisio dod o hyd i rywun sydd â llawer o arian ac a fydd yn cynnal y pwrs brenhinol!

Mae’r opera’n llawn dop o wiriondeb a chomedi yn ogystal â cherddoriaeth fendigedig a harddwch ingol. Anaml iawn y caiff yr opera hon ei chynhyrchu yma ym Mhrydain a bydd yn gyfle gwych i gynulleidfaoedd brofi’r darn hwn a gweld stori dylwyth teg gyfarwydd yn cael ei hadrodd mewn ffordd wahanol iawn.

Martha Jones
Martha Jones

Canodd ein Cath, Martha Jones, gydag OCC ddiwethaf yn ein cynhyrchiad o’r Ffliwt Hud ymhell yn ôl yn 2017. Mae hi’n edrych ymlaen at ddychwelyd i rai o’r mannau lle bu’n perfformio bryd hynny, a dod i adnabod rhai newydd. Dywedodd Martha: “Mae’r darn yn hollol newydd i mi. Mae’n beth difyr dychwelyd at gymeriadau a darnau rydych chi’n eu hadnabod yn dda iawn ond mae’r her o ddysgu cymeriad a darn cwbl newydd yn rhywbeth rydw i wedi ei fwynhau yn fawr. Rwy’n chwarae rhan Pws, sy’n defnyddio ei gyfrwystra i drefnu cyfoeth a hapusrwydd i’w feistr.

Huw Ynyr

Mae meistr y Gath, y Melinydd, yn wyneb cyfarwydd i deithiau OCC. Magwyd y tenor Huw Ynyr ger Dolgellau ac mae’n edrych ymlaen at berfformio i gynulleidfa ei gartref:

Rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at berfformio yn Theatr y Ddraig yn Abermo. Fel hogyn lleol o bentref Rhyd-y-main, ger Dolgellau, bydd yn wych cael sioe yn agos i adref ac yn gyfle i wahodd ffrindiau a theulu i wylio!

Mae wedi mwynhau mynd i’r afael â sgôr Montsalvatge ac esboniodd: “Doeddwn i erioed wedi clywed amdano o’r blaen, ond rydw i mor falch fy mod i! Rwy’n meddwl bod y gerddoriaeth yn wych ac rwy’n siŵr y cawn ni lawer o hwyl yn llwyfannu’r antur a dod â’r sioe yn fyw. Mae’n braf dros ben gweithio ar sioe rydych chi’n hoff ohoni, felly ddylai’r dysgu ddim bod yn rhy anodd!

Alys Mererid Roberts fel Polly Peachum

Ein Tywysoges bron berffaith yw’r soprano Alys Mererid Roberts, wyneb arall cyfarwydd o gynyrchiadau blaenorol OCC o ran y bugail yn Tosca i’r hynod benderfynol Polly Peachum yn Mrs Peachum’s Guide to Love and Marriage. Eglurodd Alys: “Mae gymaint o hwyl cael y cyfle i dreithio i fyd hyd a lledrith y Chwedl hon, gyda chath drwsiadus sy’n siarad, anghenfil hyll a thywysoges ramantus, a’r cyfan oll drwy gyfrwng Opera! Dwi wrth fy modd efo pa mor wirion ydy’r holl beth, am mai rhywbeth eitha hurt ydy opera hefyd yn y bon! Mae cerddoriaeth hudolus Montsalvatge yn dod a’r peth yn fyw, ac ma’r plentyn bach pump oed yna i yn gwirioni’n lan fy mod i yn cal bod yn Dywysoges Disney go iawn – ond peidiwch a deud wrth neb ychwaith!

Mi f’asa’ Alys fach yn gwirioni’n bot wrth ddychmygu cael bod yn Dywysoges go iawn, a rhaid cyfaddef fy mod inna yn eitha cyffrous hefyd! Mi enwais fy Mochyn Cwta ar ôl ein Tywysoges olaf, Gwenllian ac felly mae hyn yn amlwg yn ffawd!! Mae’r hogan fach bump oed yna i yn mynnu ffrog fawr laes, ffrils di-ri a plis plis plis gad i’r wisg fod yn binc!

Ein Cawr, Trevor, sy’n cael y gair olaf. “Bydd hwn yn berfformiad hudolus, bywiog o un o’r straeon tylwyth teg gorau. Mae’r lleisiau’n wefreiddiol a bydd stori’r gath glyfar yn swyno pobl o bob oed.

Mae Puss in Boots yn opera hwyliog sy’n addas i’r teulu cyfan ac yn wledd i selogion opera na fyddent fel arfer yn cael y cyfle i weld perfformiad byw o waith Montsalvatge ac yn gyfle i’r rhai nad ydynt yn selogion opera eto ddod i weld fersiwn newydd o’r stori dylwyth teg gyfarwydd. Bydd Puss in Boots yn cael ei chanu yn Saesneg, ac ar ôl yr egwyl bydd ein cast a’n cerddorion yn ôl ar y llwyfan gyda chabare 40 munud o ganeuon a cherddoriaeth ar thema Straeon Tylwyth Teg – o sioeau cerdd syfrdanol i ddehongliadau newydd o berlau prinnach.

O Abergwaun i Fae Colwyn a Llanandras i Abermo, byddwn mewn theatr, neuadd gymunedol neu eglwys yn eich ardal chi cyn bo hir. Gwelwch y dyddiadau a’r manylion

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.