Cystadleuaeth Bobi/Greu Fawr Opera Canolbarth Cymru

Er anrhydedd i gynhyrchiad cyntaf erioed OCC o opera glasurol Humperdinck Hansel a Gretel sy’n agor yn Theatr Hafren yn y Drenewydd ddydd Sadwrn y 4ydd o Fawrth 2023 ac yna’n teithio dros Gymru a’r Gororau, rydym yn cynnal ein Cystadleuaeth Bobi/Greu Fawr ein hunain.

Yn opera Humperdinck mae’r plant, Hansel a Gretel, yn cael eu hanfon i’r coed gan eu mam flinedig ac yn crwydro i grafangau’r wrach ddrwg, yn cael eu temtio gan ei thŷ wedi’i wneud o fara sinsir a danteithion llawn siwgr.

Tŷ sinsir eithafol a welwyd gan ein Cyfarwyddwr Gweithredol Lydia Bassett pan oedd yn gweithio gyda Kettuki yn y Ffindir

Gofynnwn i chi anfon lluniau o’ch fersiynau chi o dŷ sinsir y wrach atom ni. Gallwch wneud eich tai o ddarnau o fisgedi sinsir parod neu fisgedi rydych chi wedi’u pobi gartref, o bapur, cardbord neu beth bynnag arall y gallwch chi ei ddefnyddio i greu. Gallant fod yn gampweithiau ar raddfa bach neu’n gabanau pren maint llawn – cyn belled â bod modd i chi anfon llun o’ch creadigaeth i ni.

Mae angen iddynt fod mor llachar â phosib – gorau po fwyaf o bling yn eich creadigaeth er mwyn edrych fel tŷ’r wrach yn y stori. Rydym wedi gofyn i’n Cyfarwyddwr Artistig Richard Studer feirniadu’r cynigion. Richard sy’n cynllunio ein holl gynyrchiadau ac mae’n wneuthurwr printiau gydag oriel yn Llanandras. Bydd ein henillwyr lwcus yn cael dau docyn i berfformiad o Hansel a Gretel mewn lleoliad o’u dewis ar ein taith. Bydd gennym hefyd gategori ar wahân ar gyfer ceisiadau gan unrhyw un o dan wyth oed a allai fod yn rhy ifanc i weld y sioe.

Gallwch gyflwyno eich lluniau drwy e-bostio marketing@midwalesopera.co.uk neu drwy ein tagio ar Facebook, Instagram neu Twitter. Bydd y ceisiadau buddugol yn cael eu dewis ar ddiwedd mis Ionawr felly mae gennych chi digon o amser i fynd ati i bobi a chreu.

I’r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â stori Hansel a Gretel, mae’n seiliedig ar stori dylwyth teg y Brodyr Grimm. Mae’r opera yn agor gyda Hansel a Gretel yn dawnsio ac yn osgoi’r tasgau y mae eu mam wedi gofyn iddynt eu gwneud yn y cartref. Yn ei rhwystredigaeth am eu bod yn osgoi’r tasgau ac yn creu llanast mae’n eu halltudio i’r goedwig hud, heb sylweddoli’r peryglon sy’n llechu yno. Pan ddaw eu tad adref a chlywed lle mae’r plant, mae’n datgelu i’w mam wir arswyd y wrach sy’n byw yn y bwthyn melysion yn y goedwig, ac mae’r ddau yn brysio i ddod o hyd i’r plant.

Yn y cyfamser, allan yn y goedwig, mae’r ddau blentyn yn mynd ar goll cyn crwydro i grafangau’r wrach sy’n benderfynol o’u pesgi, eu rhoi yn y popty a’u troi’n fara sinsir. Ar y funud olaf mae’r wrach yn cael ei thwyllo, a datgelir mai’r plant a fu farw yn aros i gael dod yn ôl yn fyw yw’r ffigurau sinsir sy’n amgylchynu tŷ’r Wrach.

Mae’r cynhyrchiad newydd hwn o Hansel a Gretel, y cyntaf erioed gan Opera Canolbarth Cymru, wedi’i gyfarwyddo a’i ddylunio gan Gyfarwyddwr Artistig OCC, Richard Studer. Cenir yr opera yn y cyfieithiad Saesneg gan David Pountney, gyda chast o wyth o gantorion proffesiynol, ynghyd â chorws o blant a ddaw ynghyd yn lleol ym mhob lleoliad. Arweinir sgôr gerddorfaol gyfoethog Humperdinck, a berfformir gan bartner cerddorfaol OCC, Ensemble Cymru, gan Jonathan Lyness sydd hefyd wedi creu trefniant cerddorfaol newydd o’r gwaith yn arbennig ar gyfer y cynhyrchiad hwn.

Mae Hansel a Gretel yn agor yn Theatr Hafren, Y Drenewydd ddydd Sadwrn Mawrth 4ydd a bydd yn teithio dros Gymru yn ogystal ag ymweld â’r Courtyard yn Henffordd ym mis Mawrth. Mae’r sioe yn cynnwys golygfeydd o berygl ysgafn a gwrach ddrwg – awgrymwn ei bod yn addas ar gyfer plant dros 8 oed er, mae’n amlwg yn dibynnu ar y plentyn. Byddwn yn cyflwyno gwobr arbennig i enillwyr o dan wyth oed ar thema felys briodol!

Ar eich marciau, barod – pobwch a chrëwch – a chofiwch ein tagio ar y cyfryngau cymdeithasol neu e-bostiwch eich cynigion i marketing@midwalesopera.co.uk erbyn diwedd Ionawr.

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Help get Mid Wales Opera back on the road

Help get Mid Wales Opera back on the road

Only a few months ago we thought Mid Wales Opera was finished. Now, thanks to a funding lifeline from Powys County Council, we are within touching distance of having a sustainable plan to keep on producing live and local opera across Wales for at least three years.

… or find out more

You have Successfully Subscribed!