Wythnos Iaith Arwyddion: Perfformiad gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain o La bohème

Rodolfo singing on a ladder

Ar Ddydd Iau 17 Mawrth bydd Opera Canolbarth Cymru yn perfformio La bohème gan Puccini yng Nghasnewydd gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain gan Julie Doyle.

Mae Wythnos Iaith Arwyddion yn rhedeg o 14-20 Mawrth. Mae’r dathliad blynyddol, a drefnir gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain, yn hybu ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar ddefnyddwyr Iaith Arwyddion a lles pobl fyddar yn y DU.

Thema Wythnos Iaith Arwyddion 2022 yw: ‘Iaith Arwyddion Prydain Yn Dod â Ni Ynghyd’. Nod yr ymgyrch yw annog pobl o bob oed ar draws y DU i ymgymryd â’r her o ddysgu Iaith Arwyddion Prydain drostynt eu hunain. A hefyd i ddarganfod mwy am iaith a diwylliant pobl sy’n fyddar, dall a byddar, a thrwm eu clyw sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain gan mae dyna yw ei iaith gyntaf neu’r iaith sydd well genyn nhw ei ddefnyddio.

Dilynwch yr ymgyrch ar draws y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #SLWEEK2022 a thagio @SignatureDeaf a @BDA_Deaf

‘Doniol. Trasig. Torcalonnus.’

Mae La bohème yn dechrau mewn croglofft myfyrwyr pedwar bohemiaid sy’n ei chael hi’n anodd: bardd, peintiwr, cerddor ac athronydd. Mae’n Noswyl Nadolig ym Mharis; er mai ychydig iawn sydd gan y ffrindiau, maen nhw’n rhannu cyfeillgarwch bendigedig ac ni allwch chi ddim helpu ond chwerthin gyda nhw wrth iddyn nhw fynd â’i gilydd yn chwareus.

Pan fydd eu cymydog Mimì yn curo ar eu drws, mae eu bywydau’n cael eu newid am byth. Cyn bo hir mae dechreuadau rhamantus stori garu oesol Mimì a Rodolfo yn ildio i rywbeth tywyllach. Daw’n amlwg fod Mimì yn enbyd o wael ac ni all y bardd Rodolfo ddarparu ar ei chyfer.

 

Julie Doyle
Julie Doyle

Tocynnau a Gwybodaeth

Mae’r perfformiad yn dechrau am 7.30pm. Daw i ben tua 9.35pm, gan gynnwys egwyl o 20 munud. Yng Nglan yr Afon, pris y tocynnau yw £17 / £19 (gostyngiadau ar gael).

Gellir archebu tocynnau gan ddefnyddio Relay UK (www.relayuk.bt.com) drwy ffôn clyfar, llechen, cyfrifiadur neu ffôn. Os oes angen cymorth arnoch i archebu eich tocynnau, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch riverfront.boxoffice@newportlive.co.uk

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.