Colin, Marchand de Couleurs, photographed in the 1860s

Jonathan Lyness

Rydym ni’n dathlu bod yn ôl ar y llwyfan yn y gwanwyn gydag un o straeon cariad mwyaf y byd opera: La bohème, sy’n dod â’n Tymor Puccini ym Mharis i ben.

Mae’n bryd cyfarfod bohemiaid gwirioneddol yr hanes diamser hwn am gariad, colled a dyhead. Ein Cyfarwyddwr Cerdd Jonathan Lyness yw’r union un i ddod â nhw’n fyw i ni yn y blog hwn.

 

 

Perfformiwyd pedwaredd opera Puccini, La bohème, am y tro cyntaf ym mis Chwefror 1896 yn y Teatro Regio yn Turin, a’i harwain gan Arturo Toscanini ifanc. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, yn 78 oed, arweiniodd Toscanini yr opera eto mewn perfformiad enwog gyda cherddorfa Symffoni NBC Efrog Newydd a gafodd ei recordio a’i darlledu’n fyw ac sydd ar gael i wrando arni nawr ar Spotify! Arweiniais i La bohème am y tro cyntaf yn 28 oed mewn lleoliad fymryn yn llai na’r Teatro Regio – clwystai bach Eidalaidd Iford Manor yn Wiltshire yn ystod un o dymhorau haf cynharaf y lleoliad hwnnw. Efallai y caf ei harwain eto pan fyddaf yn 78 . . .

Cyhoeddwyd Scènes de la vie de la bohème – Golygfeydd o fywyd Bohemaidd – Henri Murger mewn rhannau rhwng 1845 a 1848 mewn cylchgrawn o’r enw Le Corsaire. Yn y cyfnod hwn, roedd Murger yn byw mewn ystafell atig yn Chwarter Lladin Paris; yno ymwelodd y dramodydd Théodore Barrière ag ef, gan ofyn a allai addasu’r Scènes yn ddrama. Yn ôl y sôn, cyfarchodd Murger Barrière yn y gwely am ei fod wedi rhoi benthyg ei unig bâr o drowsus i ffrind oedd eu hangen ar gyfer cyfweliad am swydd! Cydweithiodd y ddau ohonynt ar La Vie de Bohème, a lwyfannwyd am y tro cyntaf yn 1849. Ddwy flynedd yn ddiweddarach cyhoeddodd Murger Scènes fel nofel ddryslyd braidd a’r ddrama a’r nofel oedd deunydd ffynhonnell opera Puccini.

Henri Murger’s Scènes de la vie de la bohème
Henri Murger – Scènes de la vie de la bohème

Roedd y Bohemiaid yn gymuned o artistiaid gwahanol ym Mharis oedd yn ei chael hi’n anodd ar y pryd neu, fel y’u diffiniwyd gan Murger, “prentisiaeth ar gyfer bywyd artistig – y rhagarweiniad i’r Academi, yr hosbis neu’r corffdy”. Mae Scènes Murger yn lled hunangofiannol, gan fod Rodolfo, y prif gymeriad, yn cynrychioli Murger ei hun. Fel Murger, mae Rodolfo yn byw mewn ystafell atig, ond nid yn y Chwarter Lladin ond yn Montmartre. Disgrifir ef fel un a chanddo farf drwchus o amrywiol liwiau a thalcen hynod foel, sy’n cyd-fynd yn berffaith â’r delweddau sydd wedi goroesi o Murger ei hun. Roedd Murger yn golygu cylchgrawn ffasiwn Le Moniteur de la Mode ac yn y nofel, mae Rodolfo yn brif olygydd dau gylchgrawn ffasiwn ac wedi ysgrifennu drama, Le Vengeur, hefyd. Gwelwn gopi o’r ddrama’n cael ei thaflu’n llawen i’r stôf i’w chadw i fynd ar ddechrau’r opera.

Henry Murger in 1857
Henry Murger yn 1857

Mae prif gymeriadau eraill Murger hefyd yn seiliedig ar bobl go iawn. Mae’r peintiwr Marcello yn gyfuniad o’r nofelydd a’r beirniad celf Champfleury (cydletywr i Murger ac ymwelydd cyson â Café Momus) a’r ddau beintiwr – Marcel Lazare a François Tabar. Bu Tabar yn gweithio am nifer o flynyddoedd ar baentiad hanesyddol gwych Croesi’r Môr Coch cyn ychwanegu agerfad i’r darlun, newid ei enw i Yn Harbwr Marseilles a chyrhaeddodd y gwaith ben ei daith fel arwydd siop uwchben siop groser. Dyma’r llun y gwelwn Marcello yn gweithio arno ar ddechrau’r opera cyn iddo ymddangos fel arwydd y dafarn yn Act 3.

Ac felly mae’n parhau. Mae Colline, yr athronydd, wedi’i seilio’n rhannol ar Jean Wallon, myfyriwr diwinyddiaeth y byddai pocedi ei gôt eglwysig wedi’i stwffio â llyfrau yn ddieithriad, ac yn rhannol ar y dirgel Trapadoux, a gafodd y llysenw ‘The Green Giant’ ar sail ei daldra a’i gôt ddu hynafol a oedd wedi colli ei lliw nes ei bod yn wyrdd. Mae’r cerddor Schaunard yn seiliedig ar Alexandre Schanne, peintiwr a drodd yn gyfansoddwr ac yna’n wneuthurwr teganau. Ailenwyd y cymeriad gan Murger yn Schannard a daeth yn Schaunard yn y diwedd oherwydd camgymeriad teipio’r argraffwr gwreiddiol! Yn y nofel mae’n cyfansoddi ar biano gyda D allan-o-diwn, manylyn y mae Puccini’n ei ailgreu yn Act 2 yr opera lle mae Schaunard yn prynu corn hela sydd â chywair D  amheus, a gaiff ei gyfleu gan y gerddorfa drwy daro D-fflat ac E-fflat!

Mae gan Mimi sawl ffynhonnell. Un oedd gwniadwraig o’r enw Marie-Virginie Vimal, cariad cyntaf yr awdur, oedd â llygaid glas, oedd yn deg a thyner gyda dwylo bach gwyn. Yn anffodus i Murger rhedodd Marie-Virginie i ffwrdd gydag un o’i ffrindiau gorau. Ysbrydoliaeth arall i gymeriad Mimi oedd Lucille Lovet, a elwid yn Mimi. Daliodd dwbercwlosis a bu farw’n ifanc. Yn y nofel, mae Murger yn cyfleu bod Mimi yn cam-drin Rodolfo am fisoedd lawer cyn iddi roi ei bryd ar rywun cyfoethocach. Ar gyfer yr opera, mae Puccini a’i libretyddwyr yn rhamanteiddio Mimi y tu hwnt i adnabyddiaeth, ond cadw ei dwylo bach gwyn ac yn addasu ei henw iawn i Lucia.

Yn olaf, mae Musetta, sy’n rhannol seiliedig ar Marie Roux, meistres Champfleury, model oedd yn boblogaidd ymhlith arlunwyr a cherflunwyr Montparnasse. Rhoddwyd y llysenw Murger iddi yn ‘Mademoiselle Bagpipe’ am ei bod yn canu allan o diwn. Yr ysbrydoliaeth arall ar gyfer cymeriad Musetta oedd Madame Dupont, oedd yn agored am ei charwriaethau dirifedi. Roedd Café Momus, lle digwydda ymddangosiad enwog Musetta yn Act 2 yr opera, yn sefydliad go iawn o’r un enw, yn 15 Rue des Prêtres Saint-Germain-l’Auxerrois. Aeth y Caffi allan o fusnes yn 1856 a dod yn fusnes cyflenwi offer celf. Mae’r adeilad ei hun yn dal yno heddiw, er ei fod wedi colli’r wal o siâp rhyfedd lle roedd arwydd Momus. Mae ‘na gaffi drws nesaf hyd yn oed, yn Rhif 13 – Café L’Auxerrois – os oes unrhyw un yn diddori!

 

Colin, Marchand de Couleurs, photographed in the 1860s
Colin, Marchand de Couleurs, yn y 186au

 

Café Momus, watercolour by Henri Lévis, late 1840s
Café Momus,  gan Henri Lévis, yn yr 1840au hwyr

Mae golygfa Café Momus yr opera yn un o olygfeydd mwyaf poblogaidd a mwyaf adnabyddus y byd opera ac fe’i darlunnir yn eang ar bosteri a sgorau cerddorol. Mae cymeriadau Murger yn eistedd y tu mewn i’r Caffi (fel y gwnaeth y Bohemiaid mewn bywyd go iawn), ond mae Puccini yn eu gosod y tu allan ym mhrysurdeb y stryd. Mae’r olygfa’n para tua 20 munud ac mae’n rhoi ergyd aruthrol o fewn yr amser hwnnw, gan orffen gydag ychydig funudau o gyffro mawr wrth i fand milwrol fynd heibio gydag alaw sy’n seiliedig ar orymdaith Ffrengig ddilys. Ysbrydoliaeth Puccini yma yw uno tempo waltz enwog Musetta â thempo’r orymdaith, cystrawen sydd bron yn amhosibl yn cael ei chyflwyno yn rhagorol gan y cyfansoddwr, cyn belled â bod yr arweinydd yn amseru tempo’r waltz yn pylu yn berffaith, fel bod y drwm bach sy’n cyflwyno’r orymdaith yn dechrau ar y cyflymder cywir.

La bohème Act 2, dyfyniad

Gellir ystyried golygfa Café Momus yn Scherzo yr opera! Pan oeddwn i’n fyfyriwr roedd gan un o’m tiwtoriaid, yr Athro Raymond Warren, ddiddordeb yn y syniad o ‘opera fel symffoni’ a chyfeiriodd at Puccini ymhlith y mawrion yn hyn o beth. Os yw La Bohème yn symffoni operatig, mewn 4 act (neu 4 symudiad), yna Act 2 yw ei Scherzo a’r 3ydd Act yw ei symudiad araf, Adagio. Act 4 yw Finale’r symffoni, mewn dwy brif ran, gyda rhagarweiniad lle mae Rodolfo a Marcello yn hel atgofion am gariadon y gorffennol. Yna, mae Rhan Un yn Allegro egnïol lle mae’r pedwar bachgen yn gwledda, yn cael parti a chwarae, tra bod Rhan Dau yn agor yn ddramatig gyda dyfodiad Musetta yn cyhoeddi bod Mimi wrth y drws ac ar farw. Mae’r rhan olaf hon o’r opera yn Adagio arall (dewis a ffafriwyd ar gyfer y symudiad olaf gan y symffoniwyr rhamantaidd hwyr). Pan fydd Mimi yn anadlu ei hanadl olaf mae Puccini yn sicrhau mai dim ond y gynulleidfa sy’n gwybod hynny, a’r gerddorfa yn rhoi arwydd clir. Cofiwch, rydw i wedi arwain un perfformiad lle roedd y Mini mor ddwfn yn y broses ddramatig nes iddi golli ei ffordd a’i lle yn y gerddoriaeth – yr unig achlysur y gwn amdani o denor yn sibrwd yn fras wrth ei soprano, “jest marwa” yn fyw ar y llwyfan! Dwi ddim yn meddwl bod unrhyw un yn y tŷ opera yn gwybod.

Mae ein taith PrifLwyfannau o La bohème yn agor yn Theatr Hafren, y Drenewydd ar ddydd Sadwrn 5 Mawrth 2022.

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.