Wrth wraidd y llwyddiant hwn oedd prosiect LlwyfannauAgored ei hun, wythnos ddwys ac ysbrydoledig o greu cerddoriaeth oedd yn dod ag artistiaid proffesiynol, myfyrwyr a cherddorion amatur ynghyd mewn proses greadigol. Roedd y cyfarnogwyr yn ymarfer ar draws Aberhonddu a’r Gelli fel un cwmni dan arweiniad tîm creadigol Opera Canolbarth Cymru, gan arwain at berfformiadau oedd yn cyfuno rhagoriaeth artistig ag ymdeimlad pwerus o gydweithio cymunedol.
Wrth wraidd y llwyddiant hwn oedd prosiect LlwyfannauAgored ei hun, wythnos ddwys ac ysbrydoledig o greu cerddoriaeth oedd yn dod ag artistiaid proffesiynol, myfyrwyr a cherddorion amatur ynghyd mewn proses greadigol. Roedd y cyfarnogwyr yn ymarfer ar draws Aberhonddu a’r Gelli fel un cwmni dan arweiniad tîm creadigol Opera Canolbarth Cymru, gan arwain at berfformiadau oedd yn cyfuno rhagoriaeth artistig ag ymdeimlad pwerus o gydweithio cymunedol.
Eglurodd Cyfarwyddwr Artistig Opera Canolbarth Cymru, Richard Studer bwysigrwydd y prosiectau hyn yn y gymuned,
“Yr hyn sy’n wych am brosiectau LlwyfannauAgored OCC fel y cynhyrchiad yma o Dido & Aeneas yw ei fod yn gyfle i gantorion ar ddechrau eu gyrfa, amaturiaid a gweithwyr proffesiynol weithio ochr yn ochr mewn amgylchedd cefnogol. Rwy’n credu ei bod yn gyfrifoldeb ar bob artist ar unrhyw lefel i sicrhau bod cangen o’u gwaith yn ymroddedig i gysylltu â chynulleidfaoedd newydd a hyrwyddo eu celfyddyd. Does dim ots pa lefel rydych chi wedi ei chyrraedd yn eich gyrfa, neu ble rydych chi o ran gwerthfawrogiad, rydyn ni i gyd wedi bod yn dechrau arni ar ryw adeg!”
Wedi’i chanu yn libreto Saesneg gwreiddiol NahumTate ac i gyfeiliant Cerddorfa LlwyfannauAgored, roedd y cynhyrchiad yn cynnig dehongliad byw ac emosiynol o opera oesol Henry Purcell. Roedd y prosiect yn ymgorffori uniongyrchedd a dwyster creu opera fyw, gyda’r perfformwyr yn ymgolli’n llwyr yn y profiad o ddod â gwaith cyflawn i’r llwyfan mewn dim ond wythnos.
Roedd Louise Wood, mezzo-soprano o Gymru sy’n byw ym Manceinion ar hyn o bryd ac yn astudio yn y Royal Northern College of Music, yn cymryd rhan yn y prosiect ochr yn ochr ag eraill ar ddechrau eu gyrfaoedd ac meddai, “Rwy’n edrych ymlaen yn arw i chwarae rhan y Ddewines. Mae hi’n gymeriad mor ddiddorol, gan mai dim ond am ffracsiwn o’r opera y mae’r gynulleidfa yn ei gweld, ond mam bach, mae hi’n creu argraff!”
Roedd ymateb y gynulleidfa i’r ddau berfformiad yn y Gadeirlan yn hynod frwdfrydig ac roedd y ddau ddigwyddiad yn dangos ehangder a hyblygrwydd model LlwyfannauAgored – yn cyrraedd cynulleidfaoedd mewn lleoliadau gwahanol ac yn cynnal y safon artistig uchel.
Jonathan Lyness oedd yn arwain ac arweinydd y gerddorfa oedd y dalentog Elenid Owen. Daeth yr ensemble â grŵp ymroddgar o gerddorion llinynnol ynghyd.
Roedd corws cymunedol hefyd wrth wraidd y cynhyrchiad, q daeth cantorion o bob oed a phob lefel profiad at ei gilydd i fod yn rhan hanfodol o adrodd yr hanes. Roeddent yn fwy na dim ond ensemble cerddorol, roeddent yn rhan o greadigaeth byd emosiynol a dramatig yr opera, siapio awyrgylch, cefnogi’r prif rannau, a rhoi llais i’r gymuned ehangach o fewn y darn.
Lucy Green, Alto Corws oedd un o’r bobl a gymerodd ran a dywedodd “pan symudais i Gymru o Lundain, roeddwn i’n meddwl fy mod i wedi rhoi’r gorau i ganu opera. Ond wrth weld y poster fe lamodd fy nghalon – un o’r perlau mwyaf ymysg yr operâu Saesneg. Roedd yn rhaid imi wneud cais!“.
Gyda’r galw’n fwy na’r lle oedd ar gael ym mhob un o’r digwyddiadau, mae LlwyfannauAgored 2026 yn dangos yn glir apêl barhaus opera ac effaith sicrhau bod y gelfyddyd yn hygyrch, yn uniongyrchool, ac wedi’i gwreiddio yn y gymuned. Y tu hwnt i’r perfformiadau eu hunain, mae Opera Canolbarth Cymru yn dal i chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ehangu mynediad at opera, yn enwedig ar draws cymunedau gwledig.
Trwy gael gwared ar rwystrau traddodiadol i gymryd rhan a meithrin cydweithrediad gwirioneddol rhwng gweithwyr proffesiynol ac eraill, roedd y prosiect yn cefnogi datblygu sgiliau, meithrin doniau newydd, ac yn cryfhau cysylltiadau ystyrlon rhwng artistiaid a chynulleidfaoedd.

