Mae Opera Canolbarth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod y soprano Gymreig-Wcreinaidd Natalya Romaniw wedi dod yn Noddwr Anrhydeddus newydd y cwmni.
Ganed Natalya yn Abertawe, ac mae hi wedi sefydlu gyrfa ryngwladol ar rai o lwyfannau opera mwyaf blaenllaw y byd, gan gynnwys y Tŷ Opera Brenhinol, Opera Cenedlaethol Cymru a’r Metropolitan Opera. Caiff ei chydnabod am ei llais pwerus a’i pherfformiadau grymus. Mae ei gwobrau’n cynnwys cael ei henwi’n Artist Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Cerddoriaeth Glasurol Gramophone a Gwobr y Canwr/Gantores yng Ngwobrau’r Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol yn 2020.

Mae ei buddugoliaethau a’i gwobrau niferus eraill yn cynnwys y Wobr Gyntaf a Gwobr Cân Lovelady gan Wobrau Kathleen Ferrier a chystadleuaeth Eleanor McCollum Houston Grand Opera. Graddiodd o Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall, lle enillodd y Fedal Aur glodfawr yn ei blwyddyn olaf. Mae galw amdani am ei phortread o ran teitl Tosca ac mae hi wedi canu perfformiadau blaenorol o’r rhan yn y Bale Brenhinol a’r Opera Frenhinol a chyda Staatsoper Hamburg, Oper Frankfurt, Deutsche Oper Berlin, English National Opera, a Scottish Opera.
Fel artist o Gymru sydd â phroffil rhyngwladol, mae cysylltiad Natalya ag Opera Canolbarth Cymru yn adlewyrchu ymrwymiad y cwmni i wneud opera’n hygyrch i gynulleidfaoedd ledled Cymru a’r Gororau, a darparu cyfleoedd i artistiaid ifanc ddatblygu eu gyrfaoedd proffesiynol ar yr un pryd.
Meddai’r noddwr newydd Natalya Romaniw
“Rwy’n falch iawn o fod yn noddwr Opera Canolbarth Cymru. Mae’n rhywbeth sy’n teimlo’n hynod arbennig i mi, ar ôl cael fy magu yng Nghymru fy hun. Un o’r pethau rydw i wir yn ei garu am Opera Canolbarth Cymru yw eu bod yn mynd ag opera allan o’r dinasoedd a’r tai opera mawr, yn uniongyrchol i drefi llai, ysgolion, cymunedau ac i bobl na fyddent o bosib yn cael y cyfle na’r profiad o weld na chlywed opera fel arall. Rwy’n credu bod Opera Canolbarth Cymru yn gwneud gwaith gwych trwy blannu’r hadyn, gan sefydlu opera yn yr holl gymunedau a threfi bach ledled Cymru, i roi cyfle i bobl. Maent yn gwneud llawer iawn o waith gyda phobl ifanc ac artistiaid sy’n dod i’r amlwg ac rwy’n eiriolwr mawr dros hynny. Rwy’n credu y gall deimlo weithiau bod opera yn fyd sydd allan o afael pobl, ac ni ddylai fod felly mewn gwirionedd, mae’n perthyn i bawb. Ac felly rwy’n wirioneddol falch o fod yn ymuno ag Opera Canolbarth Cymru fel noddwr. Mae’n gyffroes iawn cael eu cefnogi. Byddant ar daith yn yr hydref eleni ac rwy’n gobeithio gweld Gianni Schicchi fy hun – un o fy hoff operâu. Byddaf yn eu cefnogi, yn eu hyrwyddo, ac yn lledaenu’r gair am y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud”.
Mae tocynnau ar gael i weld gweithiau mwyaf doniol a difyr Puccini yr hydref yma wrth i OCC fynd â thaith LlwyfannauLlai ar draws Cymru a’r gororau. Gan fod Gianni Schicchi yn cael ei llwyfannu mewn 12 lleoliad o’r Drenewydd i’r Fenni bydd digon o gyfleoedd i’w gweld ar daith. Gyda cherddoriaeth adnabyddadwy Puccini, digonedd o gomedi a stori wedi’i hysgogi gan chwant, cystadleuaeth deuluol a dieithryn penderfynol iawn, mae Gianni Schicchi yn gyflwyniad bywiog i opera lwyfan yn ogystal â chyngerdd Eidalaidd yn yr ail hanner sy’n cynnwys cymysgedd eclectig o gerddoriaeth i fynychwyr opera rheolaidd ei mwynhau yn ogystal â’r rhai sy’n awyddus i gael profiad newydd. Mae Gianni Schicchi yn fan cychwyn arbennig o dda i unrhyw un sydd wedi teimlo nad yw opera ar eu cyfer nhw: mae’n fyr, yn ddoniol, yn symud yn gyflym ac yn llawn cymeriadau a digwyddiadau comig gwych.



