The Bear ym Mhenwythnos y Gaeaf

23ain o Dachwedd 2017

£10
Archebwch Nawr:  01497 822629

Prynu tocynnau ar-lein

Dewch i gael profiad hollol newydd o opera gyda Llwyfannau Bach OCC wrth i ni gyflwyno fersiwn newydd sbon o gomedi glasurol un act William Walton gyda thri chanwr a phum cerddor.

Mae ein perfformiad yn Eglwys y Santes Fair, Y Gelli yn rhan o raglen Cerddoriaeth y Gelli mewn partneriaeth â Phenwythnos y Gaeaf Gŵyl y Gelli. Rydym yn falch o fod yn rhan o raglen nodedig Cerddoriaeth y Gelli o gerddoriaeth siambr o ansawdd uchel – a chyfuniad syfrdanol Penwythnos y Gaeaf o ddigwyddiadau cerddorol a llenyddol.

Cyfansoddwyd yr opera yn 1967 yn seiliedig ar ddrama Anton Chekhov o’r un enw, mae The Bear yn cyflwyno hanes y weddw, Madam Popova, sy’n galaru’n ddiddiwedd am ei gŵr nes i’r asiant tir bras ei wedd ond carismatig , Smirnov (“arth” y teitl) gyrraedd yn hawlio taliadau am ddyled. Mae’r emosiynau’n gryf ac mae’r ymgecru’n arwain at ornest, lle mae’n ymddangos bod y ddau wedi syrthio mewn cariad yn annisgwyl.

Ar ôl yr egwyl, ymunwch â ni ar gyfer Tameidiau Tatyana, golwg ysgafn ar olygfa’r parti pen-blwydd o Eugene Onegin Tchaikovsky, a blas ar brif daith lwyfan OCC ar gyfer gwanwyn 2018. Mae’r perfformiadau hyn yn rhan o ddigwyddiadau coffa R17 Cymru ar gyfer canmlwyddiant Chwyldro Rwsia ac fe’u perfformir drwy drefniant gyda Gwasg Prifysgol Rhydychen.

Smirnov: Adam Green
Popova: Carolyn Dobbin
Luka: Matthew Buswell

Hyd perfformiad: 1 awr 50
Cerddoriaeth gan: William Walton
Cenir mewn: Saesneg
Cyfarwyddwr/Cynllunydd: Richard Studer
Cyfarwyddwr Cerddoriaeth: Jonathan Lyness

Cyflwyniad ardderchog i gynulleidfaoedd newydd i opera a chyfle gwych i bawb sy’n caru cerddoriaeth gael clywed comedi glasurol Walton ym mlwyddyn ei hanner-canmlwyddiant. Mae’r daith beilot hon ar gyfer Llwyfannau Bach wedi ei chynllunio i fod ag apêl mor eang â phosibl ac i gefnogi cenhadaeth OCC o gadw opera’n fyw ac yn lleol ledled Cymru wledig.

Gweld holl leoliadau Llwyfannau Bach 2017 ar gyfer The Bear

Blog

Help get Mid Wales Opera back on the road

Help get Mid Wales Opera back on the road

Only a few months ago we thought Mid Wales Opera was finished. Now, thanks to a funding lifeline from Powys County Council, we are within touching distance of having a sustainable plan to keep on producing live and local opera across Wales for at least three years.

… or find out more

You have Successfully Subscribed!