The Bear yn Neuadd y dderwen, Rhosygilwen, Cilgerran

10fed o Dachwedd 2017

£10 ~ Archebwch Nawr01239 841387

Prynu tocynnau ar-lein

Dewch i gael profiad hollol newydd o opera gyda Llwyfannau Bach OCC wrth i ni gyflwyno fersiwn newydd sbon o gomedi glasurol un act William Walton gyda thri chanwr a phum cerddor.

Fel lleoliad gwledig, byddai’n anodd curo Rhosygilwen ac mae Neuadd y Dderwen brydferth yn berffaith ar gyfer The Bear. Mae’r neuadd wedi ei lleoli yn harddwch Dyffryn Teifi ac mewn ardal wledig drawiadol, mae’n wych gweld amrywiaeth o gerddoriaeth a pherfformiadau byw yn cael eu cynnig ac mae’n bleser gennym fod yn rhan o’r rhaglen.

Cyfansoddwyd yr opera yn 1967 yn seiliedig ar ddrama Anton Chekhov o’r un enw, mae The Bear yn cyflwyno hanes y weddw, Madam Popova, sy’n galaru’n ddiddiwedd am ei gŵr nes i’r asiant tir bras ei wedd ond carismatig , Smirnov (“arth” y teitl) gyrraedd yn hawlio taliadau am ddyled. Mae’r emosiynau’n gryf ac mae’r ymgecru’n arwain at ornest, lle mae’n ymddangos bod y ddau wedi syrthio mewn cariad yn annisgwyl.

Ar ôl yr egwyl, ymunwch â ni ar gyfer Tameidiau Tatyana, golwg ysgafn ar olygfa’r parti pen-blwydd o Eugene Onegin Tchaikovsky, a blas ar brif daith lwyfan OCC ar gyfer gwanwyn 2018. Mae’r perfformiadau hyn yn rhan o ddigwyddiadau coffa R17 Cymru ar gyfer canmlwyddiant Chwyldro Rwsia ac fe’u perfformir drwy drefniant gyda Gwasg Prifysgol Rhydychen.

Smirnov: Adam Green
Popova: Carolyn Dobbin
Luka: Matthew Buswell

Hyd perfformiad: 1 awr 50
Cerddoriaeth gan: William Walton
Cenir mewn: Saesneg
Cyfarwyddwr/Cynllunydd: Richard Studer
Cyfarwyddwr Cerddoriaeth: Jonathan Lyness

Cyflwyniad ardderchog i gynulleidfaoedd newydd i opera a chyfle gwych i bawb sy’n caru cerddoriaeth gael clywed comedi glasurol Walton ym mlwyddyn ei hanner-canmlwyddiant. Mae’r daith beilot hon ar gyfer Llwyfannau Bach wedi ei chynllunio i fod ag apêl mor eang â phosibl ac i gefnogi cenhadaeth OCC o gadw opera’n fyw ac yn lleol ledled Cymru wledig.

Gweld holl leoliadau Llwyfannau Bach 2017 ar gyfer The Bear

Blog

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.