Storfa Wisgoedd y Theatr Genedlaethol

Mae ein Cyfarwyddwr Artistig Richard Studer newydd ddychwelyd ar ôl rhai dyddiau o chwilota drwy silffoedd storfa wisgoedd y Theatr Genedlaethol – lle mae Pabau i’w gweld ochr yn ochr â llygod dŵr a lle gall yr arfwisgoedd frathu’n ôl!

Mae’r storfa’n giplun o hanes theatr Brydeinig – o gotiau bychan y Fonesig Judi Dench i’r siacedi ysgol â mwy o le ynddynt a wisgwyd gan James Corden yn The History Boys. Cawn gipolwg gan Richard ar fyd cudd gwisgoedd y theatr

Daw setiau gwisgoedd gwych Opera Canolbarth Cymru o amrywiaeth o ffynonellau. Ar ôl i’r cynllunwyr cychwynnol orffen eu gwaith, tasg y Goruchwyliwr Gwisgoedd wedyn, ar y cyd â’r Cynllunydd, yw dod o hyd i’r cannoedd o wahanol elfennau angenrheidiol er mwyn gwisgo’r cast. Caiff llawer o’r gwisgoedd eu gwneud yn benodol ar gyfer cynhyrchiad ond, lle bo modd, caiff gwisgoedd eu hailgylchu o’n storfa neu eu llogi er mwyn ein helpu i gadw o fewn ein cyllidebau. Golyga hyn ein bod yn cael mynd i leoedd nad oes llawer o bobl yn eu gweld.

Os ydych chi wedi meddwl erioed am yr hyn sy’n digwydd i’r gwisgoedd ar ôl i gynhyrchiad orffen, hoffwn eich cyflwyno i fyd y storfa wisgoedd. Mae’r storfeydd mwyaf, megis storfeydd yr Angels neu’r Royal Shakespeare Company, yn cynnwys cannoedd o filoedd o wisgoedd.

Fy ffefryn personol yw storfa’r National Theatre yn Kennington lle mae rhesi a rhesi o rai o’r gwisgoedd enwocaf ym Mhrydain o’r holl gynyrchiadau eiconig sydd wedi eu llwyfannu yn y theatr ers ei sefydlu.

Mae pob gwisg wedi ei labelu â’r cynhyrchiad gwreiddiol ac enw’r actor y gwnaed y wisg ar ei gyfer. Wrth edrych drwy’r rhesi, mae’n teimlo fel taith ymysg hanes theatr Prydain, un sy’n datgelu siâp cyrff, o siacedi ysgol mawr James Corden yn The History Boys i’r cotiau bychan wedi eu teilwra’n goeth i’r Fonesig Judi Dench – pob un ar gael i’w logi am bris wythnosol. Daw’n gêm ymysg y cantorion yn y sesiynau ffitio cyntaf i weld gwisg pwy sydd â’r gorffennol mwyaf serennog.

Mae ehangder y gwisgoedd yn llethol – drysfa o raciau’n eich arwain o’r cyfnod cynhanes i’r presennol. Mae’r ysfa i drio’r gwisgoedd hyn yn anodd ei wrthsefyll – Hwn yw’r bocs gwisg ffansi mwyaf y gallai unrhyw blentyn ei ddychmygu, ac mae’r aelodau staff yn aml yn dal y cynllunwyr wedi eu gwisgo yn y gwisgoedd mwyaf chwerthinllyd (Bu’n rhaid i mi gael fy achub unwaith o arfwisg pan gefais fy hun yn sownd ac yn gwaedu ynddi).

Nid ffrog-cotiau a phinafforau yw’r cyfan chwaith, o fewn y rhesi mae milodfa sy’n deilwng o sw fach. Ceir gwyddor o wisgoedd anifeiliaid, o aligators i ystlumod. Daw fy hoff set o wisgoedd o gynhyrchiad y National Theatre o ‘Wind in the Willows’. Mae gan y gwisgoedd creadigol eu hadran eu hunain yn y storfa, y drws nesaf i’r adran eglwysig. Alla i feddwl am ddim un lle arall yn y byd lle gwelwch chi offeiriad ochr yn ochr â llygoden ddŵr.

Os cewch chi gyfle fyth i ymweld ag un o’r mannau llawn trysor hyn, llamwch am y cyfle, fe allaf eich sicrhau na fyddwch yn difaru!

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.