Darganfyddwch Opera:  The Bear yn lansio Llwyfannau Bach OCC yn yr hydref

Dewch i gael profiad o opera’n lleol wrth i Opera Canolbarth Cymru ddod â chlasur William Walton The Bear i amrywiaeth eclectig o leoliadau syfrdanol ledled Cymru yn ystod taith Llwyfannau Bach.

Ynglŷn â Llwyfannau Bach

Mae cwmni Opera Canolbarth Cymru wedi bod yn ymroddedig i ddod ag opera o safon uchel i leoliadau anarferol.

Rydym wedi perfformio mewn mwy na 80 o theatrau canolig eu maint ym mhob cwr o Gymru a Lloegr – ond rydym yn awyddus i fanteisio ar rai o’n theatrau, neuaddau a lleoliadau bach gwych sy’n fannau cyfarwydd ond sy’n rhy fach i gynnal ein prif waith teithiol.

Roeddem hefyd eisiau cael gwared â rhai o’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag mynychu perfformiadau opera – gan roi cyfle i gynulleidfaoedd gael gweld opera sydd wedi ei chynhyrchu’n dda, ei saernïo’n ofalus a’i chastio’n broffesiynol yn agosach at adref.

Beth sydd ar Daith?

Rydym yn awyddus i waith llwyfannau bach ganolbwyntio ar ddarnau ysgafn a dymunol o opera’r 20fed ganrif nad ydynt yn cael eu gweld yn aml. Mae angen iddynt fod yn ddifyr i’r cynulleidfaoedd, a gallu cael eu perfformio gan gast a band o 10 neu lai. Ar gyfer ein blwyddyn gyntaf, mae ein Cyfarwyddwr Cerddorol, Jonathan Lyness, wedi creu fersiwn newydd sbon o The Bear, William Walton, sy’n dathlu ei hanner canmlwyddiant yn 2017.

Perfformir yr opera fer un awr hon gan gantorion proffesiynol, ac mae hi wedi ei lleoli yn Rwsia gyn-chwyldroadol yr 1880au.

Beth yw hanes The Bear?

Mae The Bear William Walton yn seiliedig ar ddrama gomedi un act gan un o’r awduron straeon byrion gorau, Anton Chekhov. Y teitl llawn yw The Bear: A Joke in One Act, un o’i gomedïau cynnar, ac yn llai enwog na rhai o weithiau eraill Chekhov megis The Cherry Orchard a The Seagull.  Yn 1967, addasodd y cyfansoddwr Saesneg, William Walton y ddrama fer fel opera. Cedwir llawer o’r gwaith gwreiddiol yn nehongliad Walton, sy’n sicrhau opera ddigrif ac ysgafn yn cynnwys dim ond tri chymeriad.

Cenir yr opera yn Saesneg a dim ond awr yw’r holl berfformiad, felly mae’n berffaith i’r rhai sydd eisiau blas ar opera am y tro cyntaf yn ogystal â’r selogion mwy profiadol sy’n awyddus i brofi’r offeryniaeth newydd sbon hon o glasur na’i perfformir yn aml.

Beth yw’r Stori?

Agorir gyda’r weddw ifanc Madame Popova a’i gwas Luka. Nid yw Mme Popova wedi gadael ei chartref ers marwolaeth ei gŵr flwyddyn yn ôl ac mae’n dweud wrth Luka ei bod yn benderfynol y dylai pethau aros felly: “Af i fyth allan… Pam y dylwn i? Mae fy mywyd ar ben yn barod. Mae yn ei fedd, ac rwyf innau wedi fy nghladdu rhwng pedair wal… Rydym ni’n dau yn farw.”

Nid angel oedd ei gŵr o bell ffordd – yn gymwynas am ffyddlondeb ei wraig cafodd garwriaethau diddiwedd, gan ei gadael ar ei phen ei hun, gwario ei harian a hel merched eraill – ond mae hi’n bwriadu profi ei chariad tuag ato er gwaethaf ei ddiffygion drwy ildio ei hapusrwydd ei hun, wedi ei chladdu’n fyw yn y cartref yr oeddent yn ei rannu.

Torrir ar draws eu ffrae gan gnoc ar y drws, a daw Smirnov i mewn – gwerthwr ceirch rhwystredig yr oedd gan ŵr Popova ddyled o ddau gan rwbl iddo cyn iddo farw. Nid oes ganddi’r arian i dalu iddo – ond nid yw Smirnov yn fodlon derbyn hynny ac mae’n gwrthod gadael.

Po fwyaf y maent yn dadlau, y mwyaf y mae ei hysbryd annibynnol yn creu argraff arno nes mae’n rhaid iddi orchymyn iddo adael, gan weiddi “arth, arth, arth” arno ac mae’n ei herio i ymladd. Mae hi’n hapus i estyn hen bistolau ei gŵr cyn belled ag y gall Smirnov ddangos iddi sut i’w saethu – ac yn y gobaith o’i saethu yn ei ben.

Serch hynny, mae’n rhy hwyr i Smirnov, mae mewn cariad yn barod: “Mae hi’n fenyw! Y math y gallaf ei deall! Menyw go iawn! Nid sach sur ei gwep, ond tân, powdwr gwn, roced! Mae’n drueni bod yn rhaid imi ei lladd”

—-

Bydd yn rhaid i chi ddod i weld y sioe er mwyn gweld beth sy’n digwydd ar y diwedd, ond mae’n hwyliog dros ben gyda rhai darnau hyfryd o ddoniol. Mae ail hanner bob perfformiad yn cynnal y thema Rwsiaidd gydag ail-ddychmygiad anffurfiol o olygfa barti fawreddog Pushkin o Eugene Onegin a’i ‘adloniannau’. Mae Tameidiau Tatyana yn gyfuniad o gerddoriaeth, barddoniaeth a rhyddiaith, rhywfaint ohono’n gyfarwydd, rhywfaint yn llai cyfarwydd, fel rhagarweiniad i berfformiadau OCC o opera wych Tchaikovsky, Eugene Onegin, sydd ar daith yng ngwanwyn 2018.

Dyddiadau taith Llwyfannau Bach o The Bear, Tachwedd – Rhagfyr 2017.

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.