LlwyfannauLlai 2018 – Opera fyw yn lleol

Lle byddwch chi’n treulio Awr Sbaenaidd gydag Opera Canolbarth Cymru eleni?

Mae yna deithio – ac mae yna deithio gyda LlwyfannauLlai Opera Canolbarth Cymru – a phan ddwedwn ni ein bod ni’n perfformio opera fyw yn lleol ledled Cymru a’r Gororau, dyna’n union yr ydym ni’n ei olygu!

Nod taith LlwyfannauLlai yw perfformio o fewn 40 milltir i bob cymuned yng Nghymru – yn ogystal ag ymweld â lleoliadau unigryw a phrydferth ar hyd y ffin.

A SmallStages Audience
Mae’r cynulleidfa’n mwynhau’r Arth – a pheint hydref diwetha

 

Eglwys Santes Fair Y Gelli Gandryll

 

Mae’n fraint wirioneddol cael dod â’n cynyrchiadau pwrpasol o operâu un act, gyda threfniannau newydd sbon, i galon cymunedau. Mae perfformiadau LlwyfannauLlai yn noson allan wahanol iawn ac rydym ni’n awyddus i’ch cyflwyno chi i rai o’r lleoliadau anhygoel y byddwn yn ymweld â nhw eleni.

Cefnogir ein perfformiadau yn y Gelli Gandryll, Abergwaun, Abermo, Aberdyfi a Chricieth gan gynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru – rhaglen wych sy’n gweithio gyda hyrwyddwyr gwirfoddol i ddod â sioeau byw i leoliadau cymunedol ledled Cymru. Mae’n rhan annatod o’r rhwydwaith o berfformiadau teithiol yng Nghymru ac mae llawer o leoliadau na fyddem ni, na chwmnïau teithiol eraill, yn gallu cyrraedd iddynt heb y cymorth hwn – diolch am y gwaith pwysig Noson Allan, a’r hyrwyddwyr cymunedol yr ydych yn eu cefnogi!

Byddwn yn cychwyn y daith ar y 9fed o Dachwedd yn Llanfyllin, Powys mewn partneriaeth â’n cartref, Theatr Hafren – yn Theatr Llwyn sydd yn rhan o ysgol uwchradd y dref. Mae gan y dref farchnad fechan hon yn Sir Fynwy gysylltiadau cerddorol cryf yn ogystal â’i Gŵyl Gerddoriaeth ei hun – http://www.llanfyllinfestival.org.uk

Meddai Pedwarawd The Allegri Quartet, sy’n perfformio’n rheolaidd yng Ngŵyl Llanfyllin “Does unman gwell am gynhesrwydd ac agosatrwydd ac amgylchedd godidog na Llanfyllin”
– Rydym ni’n cytuno ac mae’n lle perffaith i agor ein perfformiad newydd!

Yr ail stop ar ein taith wib o Gymru yw’r Met yn Abertyleri ar Dachwedd 10fed. Ein hopera ni fydd yr opera gyntaf a berfformir yn fyw yn y Met yn ei hanes o fwy na 100 mlynedd. Ar ei hanterth, roedd dawnsfa anhygoel a llawr dawnsio yno, yn ogystal â Theatr Fictoraidd, lle perfformiodd amryw o enwogion – gan gynnwys Charlie Chaplin!

Rydym ni wedi cerdded yn ôl traed enwogion o’r blaen ond mae traed Charlie Chaplin yn rai eithaf arbennig – y newyddion gwych yw bod A Spanish Hour yn opera ddigrif iawn!

Nesaf rydym ni’n ôl ar dir cyfarwydd yn Ystafelloedd Cynnull Llanandras ar Dachwedd 11eg. Cynhelir ymarferion perfformiadau LlwyfannauLlai yn Llanandras, a phan fo’n amser cychwyn ar ein taith, mae wedi dod yn ail gartref i’n cast a’n cerddorion. Mae’n wych cael dod â’r sioe yn ôl i’r lleoliad bach arbennig hwn – un o berfformiadau mwyaf cartrefol y daith, felly os ydych chi’n bwriadu ymuno â ni yno, archebwch eich tocyn yn fuan!

Ar ôl saib bychan byddwn yn cyrraedd i’r ddinas fawr! Nid yw ein teithiau prif lwyfan yn ymweld â Chaerdydd, ond ar ôl gweithio mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar ein taith o Semele Handel yn 2017, mae’n bleser gennym fod yn ôl yn Theatr Richard Burton ar Dachwedd 15fed! Caiff y perfformiad hwn hefyd ei arwyddo gan Julie Doyle yn Iaith Arwyddion Prydain. Mae A Spanish Hour yn gynhyrchiad dramatig sy’n wirioneddol ddigrif – ac rydym ni’n gobeithio y bydd dehongliad bywiog Julie yn rhoi modd i gynulleidfaoedd byddar a’r rhai sydd â nam ar eu clyw fwynhau’r sioe hefyd.

Ar Dachwedd 16 a Thachwedd 17 byddwn yn mwynhau cyfnod ar y traeth! Mae ein teithiau’n aml yn cyrraedd cymunedau arfordirol – diwrnod arall, bae arall – a’r tro hwn rydym ni’n mynd i Arfordir y Cambrian i Theatr-y-Ddraig Abermo ar Dachwedd 16eg a Neuadd Dyfi yn Aberdyfi ar Dachwedd 17eg.

Roedd ymweliadau’r llynedd i’r ddau leoliad bach difyr yma yn rai o uchafbwyntiau’r daith! Ein nod yw mynd ag opera i fannau nad oes modd ei berfformio fel arfer ac mae’r ddwy theatr hon yn ateb y diben i’r dim. Gyda chroeso cynnes gan gynulleidfaoedd – a chi mewn basged hyd yn oed yn y rhes flaen yn Aberdyfi – allwn ni ddim aros i ddychwelyd eleni.

Canolfan Celfyddydau Pontardawe

Ar ôl egwyl fer byddwn yn ôl ar y ffordd ar Dachwedd 21ain yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe. Ymysg theatrau bach Cymru mae hon yn un arbennig dros ben ac rydym ni wrth ein boddau ein bod ni’n cael dod yn ôl eleni. Y tro diwethaf i ni ymweld â Phontardawe oedd yng ngwanwyn 2017 ar ein taith gyda chynhyrchiad o’r Ffliwt Hud, Mozart. Mae’n theatr anhygoel o brydferth ond yn un sy’n cael ei rhedeg yn effeithiol dros ben hefyd, gyda chynulleidfa groesawgar a wnaeth inni deimlo’n gwbl gartrefol ac yn falch o fod yno. Diolch Pontardawe – fe’ch gwelwn ni chi’n fuan.

Nesaf byddwn yn ôl ar y Gororau ac yn ymweld â’r Gelli Gandryll ar Dachwedd 22ain fel rhan o Benwythnos y Gaeaf Gŵyl y Gelli Gandryll. Unwaith eto rydym yn perfformio yn Eglwys hardd y Santes Fair, un arall o’n hoff leoliadau yn ystod taith y llynedd o The Bear Walton a man unigryw iawn i berfformio opera fyw.

Ar Dachwedd 23ain awn tua’r Gorllewin, mor bell ag y mae modd mynd i’r gorllewin mewn gwirionedd – i Theatr Gwaun yn Abergwaun. Mae Theatr Gwaun, un o sinemâu cyntaf Cymru sy’n dangos ffilmiau ers y 1920au, hefyd yn cynnal rhaglen o sioeau theatr byw ac wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ers yr 1890au! Mae’n lleoliad newydd i ni ac yn fodd i ni gyrraedd rhai o’r cymunedau mwyaf anghysbell yng Nghymru – ac wrth gwrs i ymweld â Sir Benfro hudolus, *ochenaid ac atgofion am ymweliadau yn y fan gampio yn ystod yr haf gan ein Cyfarwyddwr Gweithredol!*

Rydym ni adref yn ôl arDachwedd 24ain yn Neuadd Goffa Trefeglwys i gyflwyno ein hail berfformiad ar y cyd â Theatr Hafren, y Drenewydd. Dyma ardal leol ein Rheolwr Cynhyrchu ac mae’r neuadd yn agos iawn at ein storfa opera yng Nghaersws. Gwerthwyd bob un o’r tocynnau noson agoriadol y llynedd yn Neuadd Bentref Llandinam ac roedd yn llwyddiant ysgubol, felly rydym ni’n disgwyl noson dda.

Ar ôl egwyl fer arall, ar Dachwedd 29ain, byddwn yn cyrraedd SpArC yn Bishop’s Castle, Swydd Amwythig, mewn partneriaeth â Shropshire Music Trust. Mae SpArC yn lleoliad arall ardderchog sydd wrth galon ei gymuned leol a drws nesaf i Goleg Cymunedol y dref. Mae’n cynnal cymysgedd o ddigwyddiadau byw, sinema a sgriniadau gan gynnwys rhaglen opera fyw wedi ei sgrinio, sy’n boblogaidd iawn – felly os ydych chi wedi gweld opera wedi’i sgrinio yn Bishop’s Castle cyn hyn, dyma eich cyfle i weld ein perfformwyr proffesiynol anhygoel yn fyw ar y llwyfan.

Ar Dachwedd 30ain byddwn yn ymweld â’r unig leoliad sy’n cynnal ein dwy daith, LlwyfannauLlai a’r PrifLwyfan – Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug. Mae Theatr Clwyd yn lleoliad heb ei ail ar gyfer drama a cherddoriaeth glasurol ac os byddwch chi’n dod i berfformiad LlwyfannauLlai yn theatr y stiwdio neu i’n perfformiad PrifLwyfan o Tosca ar ddydd Sul, Mawrth 24ain 2019 yn yr awditoriwm, fe welwch ei fod yn lle gwych i berfformio ac yn noson yr ydym ni’n edrych ymlaen ati’n fawr iawn.

Ar Ragfyr 1af rydym yn dychwelyd i Neuadd Goffa Criccieth – uchafbwynt arall yn nhaith y llynedd o The Bear a lleoliad arfordirol arall, mae thema bendant yn datblygu! Mae’r neuadd goffa gyda’i nodweddion Art Deco hardd a agorwyd gan yr arwr lleol a’r cyn-brifweinidog David Lloyd George yn 1922, yn lleoliad y mae cwmnïau teithiol fel ni yn eu trysori’n fawr – neuadd sy’n cael ei rhedeg yn ardderchog, gyda chyfleusterau gwych a chymysgedd o berfformiadau ymweliadol a lleol, gan gynnwys cynyrchiadau’r grŵp theatr lleol, y Starlight Players.

Theatr Colwyn Bae Colwyn

Ar ôl egwyl fer arall byddwn yn cyrraedd Theatr Colwyn, Bae Colwyn ar Ragfyr 5ed. Dyma leoliad sy’n llawn atgofion melys o daith Gwanwyn 2017 o Semele. Mae’n theatr fach hardd sy’n cael cefnogaeth gref yn lleol – a dim ond i lawr y stryd o’r lleoliad llawer mwy, Venue Cymru, sy’n llwyfannu perfformiadau rheolaidd gan ein ffrindiau yn Opera Cenedlaethol Cymru.

Yn ôl adref eto ar Ragfyr 6ed, ar gyfer ein trydydd perfformiad gyda Hafren, y Drenewydd yng Nghanolfan Gymunedol Abermiwl. Mae Abermiwl yn lleoliad arall yr ydym yn dychwelyd iddo ar ôl noson wych gyda’n perfformiad o The Bear Walton yn yr hydref y llynedd. Mae’n lleoliad arall sy’n rhan o ysgol ac mae’n neuadd gymunedol fywiog sydd wedi arfer rhoi lle i’r cybiau a’r geidiau lleol yn hytrach nag opera fyw – ond mwynhawyd yr ymweliad yn fawr y tro diwethaf ac mae’n bleser cael dychwelyd.

Yn olaf, ond nid yn llai pwysig, yw ein perfformiad yn Llwydlo ar Ragfyr 7fed. Gan fod Ystafelloedd Cynnull Llwydlo ar gau ar gyfer gwaith adnewyddu, mae’r perfformiad wedi ei symud i Eglwys Sant Laurence hardd yng nghanol y dref. Mae’r tocynnau ar werth drwy swyddfa docynnau’r Ystafelloedd Cynnull – ac rydym ni’n fodlon iawn cyflwyno perfformiad terfynol y daith hon yng “Nghadeirlan y Mers”. Defnyddir yr eglwys yn aml ar gyfer digwyddiadau corawl a cherddorfaol ac mae’n lleoliad gwirioneddol syfrdanol ar gyfer ein perfformiad terfynol.

Gyda 16 o berfformiadau rhwng Tachwedd 9fed a Rhagfyr 7fed mae taith LlwyfannauLlai yn ymrwymiad sylweddol ac yn gyfle unigryw i weld opera fyw yn lleol – fe’i perfformir gan gast rhagorol o gantorion proffesiynol a cherddorion ardderchog a arweinir gan ein Cyfarwyddwr Cerdd Jonathan Lyness, y mae ei drefniant newydd o sgôr Ravel yn gwneud taith ar y raddfa hon yn bosibl.

Cenir y cynhyrchiad yn Saesneg, fel pob un o’n teithiau, a chyda chyfieithiad newydd sbon gan ein Cyfarwyddwr Cerdd Richard Studer, sydd wedi mwynhau’r dod â safbwynt ffraeth a ffres i’r darn.

Byddwn yn dod i leoliad sy’n lleol i chi yn fuan! Ble byddwch chi’n treulio Awr Sbaenaidd gydag Opera Canolbarth Cymru eleni?

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.