Yr Opera Fwyaf Perffaith a Ysgrifennwyd Erioed Mae’n Debyg

 

Gan fod A Spanish Hour bellach wedi cychwyn ar daith, dyma gyfle bach i gyflwyno’r cantorion gwych a fydd yn ymuno â ni ar gyfer cynhyrchiad y Prif Lwyfan o Tosca Puccini yn y Gwanwyn!

Does dim amheuaeth – rydym ni wrth ein bodd gyda Tosca, ac mae’r cast hefyd! Crynhodd ein Cavaradossi, Charne Rochford, yr opera’n berffaith: “Yr opera fwyaf perffaith a ysgrifennwyd erioed mae’n debyg. Alawon bachog dros ben, yn orlawn o angerdd, cymeriadau hynod o ddynol a MWRDWR! Beth allai fod yn well!?

Cytuno!

Fe fydd Cymraes yn ymuno â ni i chwarae rhan Tosca yn y gwanwyn, sef Elin Pritchard a berfformiodd gydag OCC yn 2014 fel Micaela yn Carmen.

Elin PritchardMae Elin Pritchard yn blodeuo yn ei aria fawr, gan adael i’r cynhesrwydd lifo.The Arts Desk

 

Ers hynny mae Elin wedi perfformio gyda Scottish Opera, Opera North a llawer mwy ond mae hi’n falch o gael dod nôl i Gymru ac meddai: “Rwy’n Gymraes o’m corun i’m sawdl! Rhugl yn yr iaith ac rydw i’n dod o Rhyl yng Ngogledd Cymru, felly bydd Bangor a’r Wyddgrug yn agos iawn at adref i mi!

Y tro cyntaf y canodd Elin ran Tosca, fe ddysgodd y rhan dros un penwythnos! Meddai: “Cefais alwad gan fy asiant i ddweud bod angen soprano felly fe wnes i weithio hyd at yr asgwrn i ddysgu’r rhan ac yna fe gefais i alwad ychydig ddyddiau wedyn i ddweud fy mod wedi cael y rhan. Mae’n rhaid ‘mod i’n wallgof!

Mae Tosca’n gymeriad hyfryd i’w chanu. Mae hi’n cael y gerddoriaeth odidocaf gyda rhai llinellau sy’n arwain at uchafbwyntiau mawr. Mae hi’n angerddol ac yn llawn tân ac mae ei cherddoriaeth gyda Cavaradossi, yn act 3 yn enwedig, mor hardd a theimladwy, yn gyferbyniad llwyr i’r hyn sydd wedi digwydd yn yr artaith yn act 2, ond yr olygfa honno yw golygfa fwyaf cyffrous a gwefreiddiol yr opera i mi.

Allwn ni ddim aros i groesawu Elin yn ôl i OCC!


Daeth canu mwyaf bendigedig y noson, a’r ŵyl i gyd, gan Elin Pritchard fel Lucia. O’i haria agoriadol hardd, roedd gafael y soprano ifanc Gymraeg hon ar y rhan yn amlwg, ac roedd ei golygfa wallgof yn gampwaith syfrdanol o actio a chanu.Opera Now – Lucia di Lammermoor Gŵyl Opera Buxton

Charne Rochford

Yn ymuno ag Elin mae’r tenor Charne Rochford, sy’n dod o Lundain yn enedigol. Canodd ran Cavaradossi ddiwethaf ar gyfer Gŵyl Bermuda. Byddwn yn osgoi dangos rhagolygon tywydd Cymru iddo am sbel.

Canodd Charne ran Achilles mewn cynhyrchiad o King of Priam Tippet gan English Touring Opera a enillodd Wobr Olivier ac mae ei rannau eraill gyda’r ETO wedi cynnwys Luigi yn Il Tabarro ac Adorno yn Simon Boccanegra.

Yn ymuno gyda ni hefyd mae’r bariton byd enwog Nicholas Folwell sy’n chwarae rhan Scarpia. Ar ôl gweld portread Nicholas o Scarpia yng nghynhyrchiad Opera Project o Tosca ym Mryste y llynedd, fe alla i’ch sicrhau y dylech chi fod yn edrych ymlaen yn fawr at bortread gafaelgar o un o ddihirod mwyaf gwarthus y byd opera.

Does dim diffyg ym mhortread Nicholas Folwell o’r trythyllwr ffiaidd, y Baron Scarpia. Yn llawn cariad gwyrdroëdig ac angen creulon i feddiannu, mae ei aria ar y diwedd, Floria Tosca, yn dangos goddefoldeb gwefreiddiol wrth i Scarpia, ei lygaid ar dân, ddatgelu ei gynlluniau.
Cylchgrawn Stage Talk

Nicholas Folwell

Astudiodd Nicholas ran Scarpia am y tro cyntaf fel myfyriwr yn y 70au cynnar gyda’r athro clodfawr Raimund Herincx. Syrthiodd mewn cariad â chymeriad gwarthus, anonest Baron Scarpia. Yn anffodus, bu’n rhaid iddo aros tan 2012 i gael cyfle i ganu’r rhan mewn cyngerdd ac o hynny tan 2017 i berfformio fersiwn wedi’i llwyfannu.

Dywedodd Nicholas wrthym: “Mae’n fwy diddorol bob amser perfformio’r “dihiryn”! Scarpia yw’r rhan fwyaf gwych i’w chanu i rywun sydd â llais fel fi. Momentau lleisiol mawr bob yn ail ag adrannau mwy distaw a chynnil iawn. Un munud mae’n atgas fel pennaeth yr heddlu, yn poeri gorchmynion i’w ysgwieriaid a’r munud nesaf mae’n ddymunol ac yn ystrywgar.

Mae’r opera’n llawn telynegiaeth odidog Puccini ac yn opera fawreddog ar ei mwyaf mawreddog! Mae opera’n enwog am ei hoffter o farwolaeth, ond mae’n rhaid mai Tosca yw un o’r ychydig rai lle mae pob un o’i phrif gymeriadau’n mynd i’w tranc! Scarpia yn gyntaf (wedi ei drywanu gan Tosca gyda chytleri oddi ar ei fwrdd ei hun), yna Cavaradossi (yn cael ei saethu gan y sgwad saethu ffug) ac yn olaf, Tosca ei hun. Mae hi’n neidio oddi ar fylchfuriau Castel SantAngelo ar ôl darganfod bod ei chariad, Cavaradossi wedi marw. Ar fy ymweliad cyntaf i Rufain, dringais i ben uchaf y Castel er mwyn gweld. Credir i Puccini fynd yno ei hun yn gynnar un bore Sul er mwyn gwrando ar synau amrywiol glychau eglwysi Rhufain.

Mae Tosca yn cynnwys popeth, o stori garu dyner i greulondeb pwerus a thrasiedi eithaf. Mae ei hanes yn afaelgar o’r cychwyn i’r diwedd. Pe na fyddai Puccini a’i gyhoeddwr wedi bod mor ddiegwyddor â chymryd yr hawl i osod drama ddrwg-enwog Sardou o 1887 oddi wrth gyfansoddwr cystadleuol, mae’n bosibl na fyddai Tosca wedi ei chyfansoddi o gwbl. Mae’n bosibl hefyd na fyddai wedi goroesi pe byddai gan feirniaid y noson gyntaf unrhyw ran yn y penderfyniad. Ond mae harddwch, pŵer ac angerdd ‘shabby little shocker’ Puccini wedi sicrhau ei safle fel yr orau o’r holl operâu cyffrous a llwyddiannus.

Allwn ni ddim aros i’w rhannu gyda chi!

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Help get Mid Wales Opera back on the road

Help get Mid Wales Opera back on the road

Only a few months ago we thought Mid Wales Opera was finished. Now, thanks to a funding lifeline from Powys County Council, we are within touching distance of having a sustainable plan to keep on producing live and local opera across Wales for at least three years.

… or find out more

You have Successfully Subscribed!