Stori Gariad Go iawn mewn Byd yr Opera ar gyfer Dydd Sant Valentine

Yn hanes Eugene Onegin, ar daith o 24ain o Chwefror, nid yw cwrs gwir gariad yn rhedeg yn llyfn o gwbl! Fodd bynnag, i Stephanie Windsor-Lewis, sy’n canu rhan Larina yn ein cynhyrchiad, mae cysylltiad rhamantaidd arbennig iawn i’r opera.

Mae Stephanie, a ganodd ran Olga yng nghynhyrchiad ein Cyfarwyddwyr Artistig Jonathan a Richard o’r sioe i’r Opera Project, yn mynd i’r afael â rhan arall i OCC ac mae hi’n chwarae rhan mam Olga, Larina – mae hi’n gobeithio y caiff ‘chydig o golur rhychau a wig llwyd!

Dywedodd Stephanie wrthym:

“Fe wnes i gyfarfod fy ngŵr pan ddaeth i fy ngwylio yn chwarae rhan ‘Olga’ pan gymerais ran yn yr opera ddiwethaf gyda Richard a Jon i’r Opera Project!

Fe wnes i gwrdd â’m gŵr unwaith, fis cyn y sioe, ac fel esgus i ddod i’m gweld eto roedd eisiau gwylio sioe yr oeddwn i’n rhan ohoni. Roedd yn newydd i opera felly fe wnaeth lawer o ymchwil cyn dod er mwyn peidio ymddangos yn ddi-glem! Fe aethom ni am swper wedyn a syrthio mewn cariad ar yr olwg gyntaf fwy neu lai.”

Nid yw Stephanie, sy’n byw ger Machynlleth, yn newydd i’n lleoliadau teithio gan ei bod yn dysgu canu i sawl aelod o AberOpera a fydd yn ymuno â ni yn y corws ar gyfer y perfformiad yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth.

Cychwynnodd gyrfa euraidd y Mezzo Stephanie gyda hyfforddiant yn Florence a Bologna ac mae hi wedi teithio ledled y byd, gan gynnwys rhan mewn cyngerdd gala yn Singapore gyda’r tenor clodfawr Josè Carreras yn ogystal â pherfformio gydag Opera Cenedlaethol Lloegr, yn y Venice Biennale a’r New York Met.

Enillodd wobrau cyntaf yng nghystadleuaeth Benvenuto Franci a chystadleuaeth Premio Crescendo yn Florence, a chyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth Ernst Haefligger yn y Swistir.

Mae hi’n edrych ymlaen at gychwyn ar ran Larina ac meddai:

“Mae Onegin yn ddarn cyfareddol. Yn gyntaf, rydw i wrth fy modd gyda’r offeryniaeth a’r harmoni cyfoethog; mae’r llinellau ysgubol ochr yn ochr â’r elfennau gwerin Rwsiaidd yn ddiddorol.”

Rydym yn cyfarfod Larina am y tro cyntaf gartref gyda’i merched, Tatyana lengar sy’n ganolbwynt stori Eugene Onegin, a’i chwaer Olga – sy’n fwy cartrefol gyda cherddoriaeth a dawnsio, yn ogystal â’i morwyn Filipyevna. Tarfir ar eu bywyd gwledig distaw pan gyrhaedda dyweddi Olga, Lensky, a’i gyfaill lluddedig Onegin – y mae Tatyana’n syrthio mewn cariad ag ef ar unwaith.

Dydw i ddim yn difetha’r plot yn ormodol drwy ddweud bod ei chariad yn cael ei wrthod gan y dihiryn sarrug – rydym yn falch fod diwedd hapusach i hanes Stephanie ei hun!

_

Gwelwch y dyddiadau ac archebwch tocynnau ar gyfer y daith o Eugene Onegin Tchaikovsky yma

 

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.