Mae’r cloc yn tician – ymunwch â ni am Awr Sbaenaidd / A Spanish Hour

Catherine Backhouse – Concepcion

Dweud wrthym ni am dy gymeriad ac am y sioe.

Rwy’n chwarae rhan Concepcion sy’n briod â’r clociwr lleol. Mae’n diddori llawer mwy yn y clociau nag ynddi hi, felly pan aiff allan i weindio’r clociau lleol mae hi’n neidio ar ei chyfle! Mae hi’n fenyw hwyliog, sosi, beniog sydd angen mwy o gyffro nag y mae hi’n ei gael gartref!

Pam dylai pobl ddod i weld A Spanish Hour?

Rydw i wrth fy modd gyda’r gerddoriaeth ac mae’n hudolus iawn gyda rhythmau Sbaenaidd hyfryd.

Mae llawer yn digwydd yn y sioe a llawer o jôcs. Mae’n sioe fer gan Ravel, dim ond 50 munud, a bydd y gynulleidfa’n agos iawn i’r cantorion yn y cynhyrchiad. Fe’i cenir yn Saesneg felly fe fyddwch chi’n gwybod yn union beth sy’n digwydd. Mae’r gwisgoedd yn ddifyr iawn ac mae naws pantomeim i’r cynhyrchiad gyda llawer o liwiau a cholur llachar. Bydd pobl yn cael eu diddanu a’u cyfareddu gan lawenydd y gerddoriaeth

Matthew Buswell – Don Inigo Gomez

Dweud wrthym ni am dy gymeriad ac am y sioe.

Don Inigo yw banciwr y dref ac mae mewn cariad â Concepcion. Mae ganddo lawer o bŵer ac arian ac mae’n ceisio cael ei ffordd ei hun – mae pawb yn adnabod y teip! Mae’r sioe yn ofnadwy o ddigrif ac yn llawn entendres dwbl.

Pam dylai pobl ddod i weld A Spanish Hour?

Mae pob eiliad o’r sioe fer hon yn llawn hiwmor! Mae’n gyfle ardderchog i roi cynnig ar opera gan ei bod yn sioe fer heb fod yn gymhleth. Mae’r gerddoriaeth yn disgrifio’r hyn sy’n digwydd hefyd – mae metronomau’n dynwared y clociau, er enghraifft, mae’n ddarn hawdd i’w ddeall.

Nicholas Morton – Ramiro

Dweud wrthym ni am dy gymeriad ac am y sioe.

Fy nghymeriad i yw’r mwlsyn – y gyrrwr mulod Ramiro, postmon mewn gwirionedd. Mae’n gryf iawn ond yn syml. Mae’n mynd i gael trwsio ei oriawr etifeddol a achubodd fywyd ei ewythr, yr ymladdwr teirw, ond mae’n cael ei orfodi i aros yn y siop ac mae’n treulio rhan fwyaf yr opera’n llusgo cistiau clociau i fyny ac i lawr y grisiau.

Pam dylai pobl ddod i weld A Spanish Hour?

Mae’n llawer difyrrach nag y byddech chi’n disgwyl i opera fod, a hynny heb fynd â phum awr o’ch bywyd! Mae’n gomedi wych ac mae gennym ni gantorion a cherddorion ardderchog. Bydd ein cynulleidfaoedd hefyd yn cael profiad gwahanol iawn i fod mewn tŷ opera mawr, rydym ni mewn lleoliadau bach anffurfiol ac yn agos iawn at y gynulleidfa.

Rydw i wrth fy modd gyda’r opera hon a’r agweddau cerddorol sydd ynddi. Fe’i gwelais hi am y tro cyntaf tua phum mlynedd yn ôl. Mae’r gerddoriaeth yn llawn cymeriad ac mae gan bawb eu motiff bach eu hunain felly rydych chi’n adnabod eu cerddoriaeth ar unwaith. Mae’n cynnwys ymdeimlad cryf iawn o Sbaen a’r diwylliant Sbaenaidd.

Anthony Flaum – Gonsalve


Dweud wrthym ni am dy gymeriad ac am y sioe.

Gonzalve yw fy nghymeriad i, y bardd a’r cariad rhamantaidd, ond mae’n gymeriad braidd yn ddiymadferth a phan ddylai fod gyda Concepcion mae’n diflannu i ysgrifennu cerddi a sonedau.

Pam dylai pobl ddod i weld A Spanish Hour?

Fe fyddwn i’n argymell bod pawb yn dod gyda meddwl agored a pheidio meddwl am y sioe fel opera ond fel adloniant gwych. Mae gennym ni ganu ac offeryniaeth ardderchog, cerddorion ac actio gwych. Mae’r ail hanner yn ddifyr dros ben hefyd. Y gobaith yw y bydd pobl nad ydyn nhw wedi gweld opera yn dod i’w gweld ac yn gadael gan deimlo eu bod yn mwynhau opera’n fawr!

Mae’r cynhyrchiad yn ddigrif iawn. Cafodd y gwaith ei gyfieithu o’r newydd i’r Saesneg gan Richard Studer ac mae’n llawn jôcs ac entendres dwbl. Mae’r opera wedi ei chyfarwyddo gyda hiwmor. Oherwydd maint y lleoliadau, bydd ein cynulleidfa’n agos iawn at y perfformiad hefyd – fel pe bai opera fyw yn eich ystafelloedd byw!

Peter Van Hulle – Torquemada

Dweud wrthym ni am dy gymeriad ac am y sioe.

Torquemada yw’r gwneuthurwr clociau a pherchennog y siop glociau – mae’n briod â Concepcion ac yn obsesiynol ynglŷn â’r clociau yn hytrach na’i wraig. Mae’n briod â’r ferch harddaf yn Toledo ond yn diddori mwy yn harddwch a gweithrediad ei glociau.

Pam dylai pobl ddod i weld A Spanish Hour?

Os nad ydych chi wedi gweld opera erioed o’r blaen, meddyliwch am hon fel ffars ystafell wely yn steil Alan Ayckbourn – mae’n ddarn o ddrama ardderchog ac yn ddigrif ac yn ddengar – mae’n gynhyrchiad mor ffres a hwyliog. Mae’n cynnig rhywbeth i bawb – y ddrama, y gerddoriaeth a’r canu gwych.

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.