Un o bleserau perfformio opera fyw yw bod pob noson yn wahanol. Mae pob theatr, cynulleidfa neu acwstig yn rhoi blas unigryw ar y cynhyrchiad ac mae pob sioe yn wahanol.

Ar gyfer opera fel The Marriage of Figaro, un o’r gweithiau mwyaf adnabyddus gan un o’r cyfansoddwyr mwyaf adnabyddus, mae’n hanfodol cyflwyno dull ffres ond bod yn driw i’r gwreiddiol.

Richard Studer – Cyfarwyddwr Artistig OCC

I’n Cyfarwyddwr Artistig, Richard Studer, y stori sy’n allweddol i hynny. Eglurodd: “Mae’r plot yn gymhleth iawn, felly’r stori sydd bwysicaf – ond i symleiddio, mae’r Iarll eisiau mynd â Susanna i’r gwely ac mae Figaro’n gwrthwynebu wrth gwrs…mae’n ffars llawn camgymryd a chuddwisg, gan gynnwys cuddio mewn llwyni.

Rydym ni wedi aros mor driw ag y bo modd i fersiwn wreiddiol Mozart gyda dim ond dau doriad bach fel y byddai llawer o gwmnïau yn ei wneud ac ambell addasiad i’r adroddgan (canu ar lafar) ond nid oedd angen addasu dim ar sail ein perfformwyr ifanc, mae pawb yn gwneud yn wych.

Mae ein cynhyrchiad yn digwydd mewn partneriaeth ag Academi Llais Ryngwladol Cymru ac mae chwech o’u perfformwyr yn ymuno â ni ar ein taith fel aelodau llawn o’r cwmni. Eglurodd ein Iarlles Jana Holesworth: “Mae hi’n opera wych i leisiau ifanc ac mae’r perfformwyr ifanc yn dod â ffresni gwirioneddol i’r cynhyrchiad. Mae’n braf perfformio ochr yn ochr â chantorion hynod brofiadol yn ogystal â chantorion sy’n cychwyn ar eu gyrfa.

Galina Averina, (Susanna) Harry Thatcher (Figaro) Jana Holesworth (Countess)

Cyflwynir sawl cynhyrchiad o Figaro yn y gwanwyn eleni; yn ogystal â chynhyrchiad clasurol Opera Cenedlaethol Cymru, mae Opera North ac Opera Cenedlaethol Lloegr yn cyflwyno fersiynau o’r un opera. Ond bydd pob Cyfarwyddwr yn dod â’i safbwynt ei hun i’r hanes ac i’r cymeriadau.

Fel y dywed ein Susanna, Galina Averina: “Mae Susanna yn un anodd. Yn y fersiynau traddodiadol o’r opera mae hi’n forwyn i’r Iarlles, ond yn ein fersiwn ni mae hi’n fwy fel cynorthwyydd personol a chymhorthydd. Mae’n anodd cyfuno ei deallusrwydd gydag ysgafnder y cymeriad a’i gwaith fel morwyn… mae hi’n fenyw ifanc ffraeth a chwareus

Mae Harry Thatcher, sy’n chwarae rhan Figaro am y tro cyntaf gydag OCC ar ôl perfformio rhan yr Iarll Almaviva yn y gorffennol, wedi bod yn mwynhau natur chwareus ei gymeriad newydd a’r pwyslais ar ddweud y stori yn ein cynhyrchiad: “Mae hwn yn gynhyrchiad modern iawn i raddau helaeth, sy’n cyfuno cefnlen draddodiadol gyda gwisgoedd modern. Perfformiais mewn fersiwn o Figaro yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn ddiweddar, ac roedd yn llawn propiau. Mae hon yn fersiwn fwy moel ac rydym ni’n ceisio canolbwyntio ar y berthynas rhwng y cymeriadau.

Does dim gwahaniaeth os ydych chi wedi gweld y sioe sawl gwaith o’r blaen, fe ddylech ddod i weld y cynhyrchiad yma o hyd – fe fydd yn fersiwn ddifyr iawn ond syml iawn (mewn ffordd dda) o Figaro…. cyflwyniad naturiol er mwyn i’r gynulleidfa ddeall.

Ychwanegodd Galina: “Mewn rhai ffyrdd mae’n anos gyda llai o bropiau. Mae’n rhaid i chi allu dangos y berthynas rhwng y cymeriadau gyda dim ond golwg neu ymateb, mae gofyn perfformiadau cryf. Roedd yn brofiad gwych i’r cantorion ifanc hefyd. Rydym ni’n gweithio gyda pherfformwyr a chyn-fyfyrwyr Academi Llais Ryngwladol Cymru – graddiodd ein Cherubino y llynedd ac mae ein Barbarina yn dal yn fyfyrwraig.

Benjamin Bevan (Count)

Y cwpl arall y mae eu bywydau’n rhan ganolog o’r cynhyrchiad, ac y bydd eu hanes yn gyfarwydd i’r cynulleidfaoedd, yw ein Iarll a’r Iarlles. Mewn wythnos lle mae Harvey Weinstein yn llenwi’r penawdau, mae perfformiad Benjamin Bevan, ein Iarll, yn taro nodyn cyfarwydd. Meddai:

Mae’r Iarll yn Arglwydd y Faenor ac yn arglwydd ei fyd bach ei hun… ac mae’n fodlon camddefnyddio’r pŵer hwnnw dros y menywod ifanc tlws sy’n gweithio iddo. Mae tair o ferched ifanc yn ein perfformiad y mae wedi cael neu wrthi’n cael carwriaeth gyda nhw a dydw i ddim yn meddwl eu bod nhw’n gwneud hynny o ddewis. Mae’n berthnasol iawn yng ngoleuni achosion fel un Harvey Weinstein – arian sy’n cyfrif ac mae pŵer yn bendant yn cyfrif.

Efallai mai ei Iarlles, Jana Holesworth, yw Arglwyddes y Faenor ond daw ei dioddefaint â phathos gwirioneddol i’r perfformiad ac fydd yr un llygad yn sych ar ôl gweld ei pherfformiad o’r aria, Dove Sono: “Yr Iarlles, gwraig yr Iarll a gwraig sydd wedi ei dibrisio. Mae hi wedi bod yn briod ers peth amser bellach ac yn ymwybodol iawn bod ei gŵr yn ferchetwr ac yn ddifrïol. Mae hi’n ceisio adennill rhywfaint o’i hurddas yn y briodas.

Ond er gwaethaf yr holl droadau annisgwyl, ffars yw’r opera, a pha mor hir bynnag y credwn y pery heddwch, mae heddwch yn cyrraedd yn y diwedd. Mae cariad yn trechu er gwaethaf pob disgwyl ac mae’r cynhyrchiad yn llawn alawon hardd a chofiadwy Mozart.

Gofynasom i’n Cyfarwyddwr, Richard Studer, grynhoi’r opera mewn pedwar gair – dewisodd ffraethineb, angerdd, pathos a ffars (ac wrth gwrs adrodd hanesion). Mae hynny’n ddigon!

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.