…Cyfri’r dyddiau tan y diwrnod mawr gyda The Marriage of Figaro

Mae cast gwych Figaro yn edrych ymlaen yn arw i gychwyn arni – antur trwy Gymru ac antur ar y llwyfan yn ein cynhyrchiad newydd cyffrous.

Mae pob cynhyrchiad newydd gan OCC yn antur ffres ac mae cyfarfod pawb ar ‘ddiwrnod cynta’r ysgol’ yn gwneud pawb yn eithaf nerfus, yn enwedig wrth sylweddoli mai hwn fydd eich teulu am y ddeufis nesaf ar y daith.

Wrth gychwyn ar yr ymarferion, dyma gyfle i’r cast gyflwyno eu rhannau a rhai o’r cymeriadau allweddol yn The Marriage of Figaro.

Fel yr eglurodd ein Cyfarwyddwr Cerdd, Jonathan Lyness:

Rydym ni i gyd yn gyfarwydd â’r teimlad hwnnw o ddarllen llyfr, gwylio ffilm neu weld drama, lle mae’n anodd teimlo digon o unrhyw beth tuag at unrhyw gymeriad. Mae’n hawdd colli diddordeb.

“Mae angen i ni deimlo dros rywun o leiaf, cymeriad canolog fel arfer yr ydym yn gobeithio ei weld yn llwyddo ac yn cael bywyd hapus. Ond yn The Marriage of Figaro, rydym ni’n teimlo dros bron bob un o’r cymeriadau – yn bennaf oll o bosib dros gymeriad hyfrytaf y byd opera – Susanna, y forwyn.

“O ystyried ei bod ar y llwyfan fwy na neb arall, gellid galw’r opera yn The Marriage of Susanna. Talog a bregus, hyderus a gwylaidd, tyner ac ystrywgar, mae hi’n bopeth sy’n rhan o bawb ohonom ni a’r hyn y mae arnom ni ofn fod.”

Jana Holesworth

Cymeriad arall allweddol yr opera yw’r Iarlles, gwraig oddefgar yr Iarll Almaviva ystyfnig a chyfrwys, ac yn cael ei chanu i ni gan y soprano o Ganada sy’n byw yng Nghymru, Jana Holesworth.

Eglurodd Jana:  “Mae’r Iarlles yn gymeriad gwych, gyda chyfnodau bregus ac elfennau o gomedi pur. Rwy’n meddwl bod y darn yn ei gyfanrwydd yn hynod afaelgar ac alla i ddim aros i gychwyn arni. Dyma fy nhro cyntaf yn perfformio yn ‘The Marriage of Figaro’. Mae’n ddarn sydd wedi llwyddo i fy osgoi erioed, ond mae’r Iarlles wedi bod yn fy repertoire ers blynyddoedd”

Adolygiadau o berfformiad Jana fel Berta – Barber of Seville, Opera Project, Tobacco Factory, Bryste:

“Mae digon yma i roi gwefr i’r rhai sy’n mwynhau llais cain, yn enwedig […]
y soprano Jana Holesworth (Berta), sy’n llwyddo gyda’i chyflwyniad gyddfol llawn i wneud i drawstiau dur yr hen ffatri dybaco grynu.”
Toby Morse, Bristol 247

“Roedd Jana Holesworth yn hawlio’r llwyfan ar brydiau fel morwyn afreolus Bartolo, Berta, gyda chip ar ei soprano danteithiol i bawb gael ei werthfawrogi.”
Simon Bishop, Stage-Talk Magazine

 

Harry Thatcher

Hwn fydd tro cyntaf ein Figaro, Harry Thatcher, yn y rhan hefyd, ac meddai:: “Rwy’n edrych ymlaen at chwarae Figaro, gan mai dim ond y llynedd y canais ran yr Iarll Almaviva. Mae Figaro yn ddyn mwy addfwyn y gellir cydymdeimlo ag ef. Alla i ddim aros i archwilio’r cymeriad gydag Opera Canolbarth Cymru.

“Roedd Harry Thatcher yn Iarll argyhoeddiadol, cymhleth, dig, rhwystredig ac edifeiriol. Nid ffŵl mohono, ond fe’i trechir. Darlunnir ei wylltineb a’i ddryswch yn fedrus gan Thatcher yn Act 3, gan orffen gyda ‘Vedro mentr’io sospiro’ tanbaid a cain. Roedd hon yn gymeriadaeth ofalus, oedd yn ein hannog i gondemnio a chydymdeimlo, ac roedd ‘Contessa perdano’ yn llawn teimlad. Roedd osgo a mwynder Thatcher yn llawn teimlad dynol pur, ac roeddem ni’n tueddu i faddau i’r Iarll am ei wendidau.”
The Marriage of Figaro, Cyfarwyddwyd gan Syr Thomas Allen, Y Coleg Cerdd Brenhinol 2018 – Operatoday.com

“Roedd Harry Thatcher, fel Fiorello, hefyd yn un o uchafbwyntiau gwych y cynhyrchiad hwn…. gallai rhywun weld ei fod yn perchnogi’r rhan, gan iddo gadw’r hiwmor yn ysgafn ac yn ffres yn ystod yr olygfa hon. ”
Glyndebourne The Barber of Seville – Opera Wire 2019

Kate Valentine

I’r soprano Kate Valentine, sy’n canu rhan Marcellina, mae The Marriage of Figaro wedi bod yn opera arbennig erioed: “Yr Iarlles Almaviva oedd y rhan gyntaf imi ei pherfformio erioed, ac felly bydd lle arbennig i The Marriage of Figaro yn fy nghalon am byth. Mae’r agorawd ynddi ei hun yn cynhesu fy nghalon ac yn gwneud iddi guro. Hwn yw fy mhedwerydd cynhyrchiad o ‘Marriage of Figaro’ a’r cyntaf i mi beidio chwarae rhan yr Iarlles, felly fe fydd yn rhaid i mi ganolbwyntio’n ofalus ar beidio canu’r rhan honno! Hwn yw fy nhro cyntaf yn chwarae ‘Marcellina’ ac rydw i’n edrych ymlaen at chwarae’r rhan llawn hiwmor yn fawr.”

“Annwyl o feiddgar, a phob nodyn uchel dan reolaeth”
For Marenka/The Bartered Bride – Richard Willcocks Bachtrack

“Mae Valentine yn meddu ar y gallu i ryddhau dyfnder anhygoel o emosiwn wedi ei ffrwyno’n ofalus iawn” For Mimi/La Boheme – Tim Ashley, The Guardian

“ Tôn iachus a chyffrous, ac ymrwymiad emosiynol llwyr”
For Tatyana/Eugene Onegin – Anna Picard, The Independent

 

Olivia Gomez

Hwn fydd perfformiad proffesiynol cyntaf ein Cherubino, Olivia Gomez, ar ôl graddio yr haf diwethaf o’r ysgol gerddoriaeth sy’n bartner i ni, Academi Llais Ryngwladol Cymru. Mae ein partneriaeth gyda’r Academi, y bydd llawer o’u myfyrwyr opera ôl-raddedig yn ymuno â ni ar y daith, yn rhan o ymrwymiad OCC i gefnogi datblygiad cantorion ifanc yng Nghymru. Mae 50% o’n cast o dan 30 neu wedi graddio ers llai na phedair blynedd.

All Olivia ddim aros i gychwyn arni ac meddai: “Rwy’n chwarae rôl bachgen, sydd bob amser yn ddiddorol. Cherubino yw’r bachgen annwyl, direidus sy’n cael ei ddifetha gan y menywod i gyd a’i amau gan y dynion. Alla i ddim aros i gyrraedd yr ymarferion llwyfan er mwyn gweld yn union sut gymeriad fydd Cherubino.

Stephanie Smith

Mae Stephanie Smith, sy’n canu rhan Barbarina, yn astudio yn Academi Llais Ryngwladol Cymru ar hyn o bryd ac meddai:  “Rwy’n gwybod os bydda i’n mynd i weld Figaro, y bydd yn bownd o fod yn ddifyr! Mae’n opera ddigri’, hawdd ei gwylio, yn enwedig yn Saesneg, ac yn un yr ydw i wrth fy modd yn gweithio arni. Hwn yw fy ail dro yn chwarae Barbarina ac mae’n ddifyr ofnadwy chwarae merch ifanc mor fywiog sy’n rhan o bopeth. Does dim yn mynd heibio heb iddi sylwi arno!

I Stephanie, mae’r daith yn gyfle cyffrous i berfformio yn ei milltir sgwâr. Meddai: “Rwy’n dod o Sir Benfro, felly mae cael mynd adref i berfformio yn wefr go iawn. Roeddwn i’n arfer mynd i Theatr Torch a gwylio’r pantomeim pan oeddwn i yn yr ysgol, felly rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod ar y llwyfan flynyddoedd lawer yn ddiweddarach.

Er bod rhai o’n cast yn byw yng Nghymru, hwn fydd tro cyntaf rhai o’r lleill i archwilio!

Meddai Harry Thatcher: “Does gen i ddim cysylltiad â Chymru yn anffodus, ond fe wnes i ganu ar daith gydag Opera’r Alban yn ddiweddar yn ucheldiroedd yr Alban. Alla i ddim aros i archwilio Cymru a dod â’r opera wych yma i bobl Cymru.

Mae Kate Valentine yn edrych ymlaen at ddod yn ôl i Gymru ac meddai: “ Fe ganais i ran ‘Musetta’ i Opera Cenedlaethol Cymru ond dim ond yng Nghaerdydd ac Abertawe, felly rwy’n edrych ymlaen at weld mwy o gilfachau a chorneli Cymru!

Hwn yw ail dro Jana Holesworth ar daith gydag OCC: “Hwn yw fy ail dro yn gweithio gydag Opera Canolbarth Cymru, ar ôl canu yng nghorws Eugene Onegin yn 2018. Rydw i wedi byw yng Nghymru ers saith mlynedd bellach, a chefais gyfle i weld mwy nag erioed o Gymru yn ystod mis y daith! Rwy’n edrych ymlaen at fynd yn ôl i’r amrywiol rannau o Gymru a chanu rhan mor anhygoel mewn cymaint o theatrau hardd! Byddai’n wych cael tywydd gwell y tro yma fodd bynnag!” – rydym ni’n cytuno’n llwyr – dim eira plîs!

Mae The Marriage of Figaro yn agor yn Theatr Hafren, y Drenewydd, ddydd Sadwrn Chwefror 29ain – dyddiadau a manylion isod:

Archebu Tocynnau
The Marriage of Figaro

 

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.