Mae’n arferiad gennym ni ysgrifennu blog ar ddiwedd taith… felly gan fod taith The Marriage of Figaro wedi dod i ben yn gynnar, dyma rannu rhywfaint o’n teimladau am gynhyrchiad a fu’n bleser pur o’i ddechrau i’w ddiwedd.

Gallwch ddweud o’r dechrau bod rhai sioeau’n mynd i daro deuddeg – cast, offerynwyr a chriw perffaith yn taro’r nodyn perffaith gyda chynulleidfaoedd o’r noson agoriadol.

Mae’r noson agoriadol yn teimlo’n bell iawn yn ôl, yn ganol llifogydd a gwyntoedd cryfion yn Theatr Hafren, y Drenewydd ar Chwefror 29ain. Roedd llifogydd yn y maes parcio, prin yr oedd modd gyrru ar hyd y ffyrdd, ond llwyddodd 400 o bobl i ddod i weld y perfformiad cyntaf.

Meddai ein cyfaill hyfryd, Sue Best o Shakespeare Link:

“am WLEDD ar noson stormus cael clywed cerddoriaeth odidog a band anhygoel a setiau gwych a ffrogiau a chynhyrchiad cyflym a lliwgar – yn llawn momentau hyfryd a diolch yn ofnadwy i chi am roi FIGARO FFANTASTIG i ni mor agos at ein cartref. Roedd yn fonws gwych gweld gymaint o ffrindiau yno. Teimlo’n ffodus iawn!”

Ychwanegodd Erika Indra:

“Y cynhyrchiad gorau a welais erioed, ym mhob manylyn. Y set, y cyfarwyddo, yr arweinydd, y cantorion a’r cerddorion anhygoel yn creu hud a lledrith, mae fy nghalon yn dal i ganu. Rwyf eisiau diolch i bawb am eu rhan yn y cynhyrchiad. Mae stamina a thalent y cantorion a’r cerddorion yn rhyfeddol. Gwnaethom y daith gron o 80 milltir yn llanast lluddedig ar ôl y stormydd ac allan â ni yn llawn bywyd ac yn ddisglair ar ôl y synau nefolaidd. Gwnaeth imi sylweddoli’r fath harmonïau godidog a grëir gan anghytgord pawb yn dadlau ar yr un pryd! Dylai pawb ddysgu dadlau fel yna!”

Stephanie Smith and our brilliant chorus members from Wales International Academy of Voice

 

Roedd ein hail berfformiad yn Aberhonddu yn noson odidog arall… Mae Theatr Brycheiniog yn lleoliad hyfryd ar gyfer opera fyw ac am bleser gweld ambell wyneb cyfarwydd yn ogystal â ffans newydd.

Diolch yn fawr i chi i gyd. Ychydig iawn o gynyrchiadau sy’n sgwario cylch tyn y grŵp o rai o’r ariâu gorau yn hanes traddodiad y gorllewin a’r ffaith bod y stori anhygoel o absẃrd yn wyrdroadol ac yn hynod o ddigrif. Nid pwll y gerddorfa a’r canu’n unig oedd yn rhagorol, ond actio’r cast a’r set glyfar a deniadol IAWN. Cynhyrchiad gwych.” Sylwadau ar Facebook ar ôl perfformiad Aberhonddu

Aeth y cynhyrchiad ymlaen i Aberystwyth, lle daeth Stephanie Power i’w weld, a roddodd bedair seren i ni yn ei hadolygiad yn The Stage (www.thestage.co.uk – darllenwch), ac i Theatr Clwyd, lle’r oedd Hugh Canning o’r Sunday Times in Theatr Clwyd (www.thetimes.co.uk – darllenwch).

Fodd bynnag, erbyn i ni gyrraedd Bangor ddydd Gwener, y 13eg o Fawrth, roedd yn amlwg fod pethau’n newid. Gyda’r nos, perfformiwyd cyngerdd Operatif godidog yn Pontio i chwech o bobl a’n cast. Ymlaen â’r sioe go iawn – roedd ein répétiteur dan hyfforddiant, Aeron Preston yn cael ei asesu ar ei berfformiad fel rhan o’i gwrs coleg yn Academi Llais Ryngwladol Cymru, felly treuliwyd noson ddiddos yn gwrando ar ganu calonogol, gwych gan Jana Holesworth, Harry Thatcher a Joelene Griffiths a ffilmio dwylo Aeron ar gyfer ei aseiniad wrth iddo chwarae – cyn cynnull yn Dylan’s ym Mhorthaethwy i gael swper i godi calon.

Operatif concert with Joelene Griffiths, Jana Holesworth, Harry Thatcher and our trainee repetiteur Aeron Preston

Roedd Aeron yn un o’r pedwar myfyriwr a ymunodd â ni fel rhan o’n partneriaeth gydag Academi Llais Ryngwladol Cymru, sy’n rhoi profiad o daith broffesiynol i’w myfyrwyr a’u cerddorion. Un o swyddogaethau allweddol Opera Canolbarth Cymru ym myd opera o’r cychwyn yw cefnogi artistiaid ifanc ac mae’n ardderchog gweld perfformwyr ifanc yn ymuno â’n cast mwy profiadol ac yn cychwyn ar eu taith yn y diwydiant. Mae ein Figaro, Harry Thatcher a’n Iarlles, Jana Holesworth ill dau yn artistiaid ifanc. Graddiodd ein Cherubino, Olivia Gomez y llynedd ac mae ein Barbarina, Stephanie Smith yn dal yn fyfyriwr yn Academi Llais Ryngwladol Cymru, yn ogystal ag aelodau gwych ein corws.

Mae rhai o’n cefnogaeth ariannol yn benodol i’n gwaith gyda chantorion ifanc, felly mae angen i ni gasglu adborth ynglŷn â’r hyn yr ydym ni’n ei wneud yn iawn a’r hyn y gellid ei wneud yn well – roedd y sylwadau hyn gan Jana Holesworth yn ein gwneud yn arbennig o falch:-

Mae Opera Canolbarth Cymru yn sicr yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i artistiaid ifanc. Cefais fy swydd broffesiynol gyntaf yn gweithio yng Nghorws OCC ac rydw i bellach wedi perfformio prif ran am y tro cyntaf gyda’r cwmni. Rhoddodd Opera Canolbarth Cymru’r cyfle i mi ddysgu a datblygu o weithio gydag a gwylio eraill oedd ym mhellach ymlaen yn eu gyrfaoedd, a rhoi cefnogaeth i mi gael datblygu fy ngyrfa nes yr oeddwn i’n barod i gymryd y cam nesaf. Maen nhw’n gwmni sy’n addysgu ac yn meithrin datblygiad artistiaid ifanc yn y ffordd orau bosib.

Artistic Director Richard Studer as Count Almaviva

Roedd ein perfformiad olaf ym Mangor yn achlysur unigryw – erbyn y pwynt hwn, roedd gan ein Hiarll, Benjamin Bevan broblem leisiol ac nid oedd modd iddo ymuno â ni. Canodd y bariton Philip Smith y rhan o ymyl y llwyfan a thrawsffurfiodd ein Cyfarwyddwr Artistig, Richard Studer yn Iarll Almaviva hynaws a soffistigedig iawn. Bangor yw cartref ein cerddorfa wych, Ensemble Cymru – rydym ni’n cael chwe thocyn cwmni i bob sioe ac mae pob un o’r rhain yn mynd i ffrindiau a theulu’r cast a’r aelodau, ond ym Mangor, y cerddorion oedd yn cael y tocynnau ac roedd yn wych cael rhannu ein sioe olaf gyda’u perthnasau yn ogystal â chynulleidfa Pontio.

Mae’r daith hon wedi bod yn anhygoel mewn nifer o ffyrdd. Ddydd Llun, Mawrth 16eg, cyngor y Prif Weinidog oedd osgoi torfeydd, gan gynnwys theatrau. Erbyn bore dydd Mawrth roedd y daith wedi ei chanslo ac roedd pawb ar eu ffordd adref at eu teuluoedd a’u ffrindiau, o’r Alban i Suffolk, o Gaerdydd i Lundain.

Ers hynny rydym ni wedi bod yn brysur yn gwneud y math o waith nad yw’r gynulleidfa’n cael ei gweld – gwagio’r tryc a storio ein set a’n gwisgoedd yn ofalus, edrych ar ffigyrau a siarad gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ynglŷn â’n grant.

Oherwydd y newid yng nghanllawiau’r Cyngor Celfyddydau oherwydd argyfwng Coronafirws, rydym ni wedi gallu talu i’n cantorion, y cerddorion a’r criw hyd at ddiwedd eu cytundebau. Mae hwnnw’n rhyddhad enfawr i ni fel cwmni ac i’r 40 neu fwy o weithwyr llawrydd y daeth eu gwaith i ben pan ddaeth y daith i ben mor fuan. Bydd colled fawr ar eu holau: o gantorion a rheolwyr llwyfan, i gerddorion a’r corws o fyfyrwyr, maen nhw wedi bod yn dîm gwych.

Performing live opera locally across Wales and the borders is what we do, and will continue to do as soon as we can. For now, we’ve cancelled or postponed all our work until the Autumn, and are planning to be back on the road with a SmallStages production of Puccini’s masterpiece Il tabarro in November, followed by La bohème in the Spring of 2021.

Perfformio opera fyw yn lleol ar draws Cymru a’r gororau yw ein gwaith, a byddwn yn parhau i wneud hynny cyn gynted ag y bo modd. Am y tro, rydym ni wedi canslo neu ohirio ein gwaith i gyd tan yr hydref, ac rydym yn bwriadu bod yn ôl ar daith gyda chynhyrchiad LlwyfannauLlai o gampwaith Puccini, Il tabarro ym mis Tachwedd, a chynhyrchiad o La bohème yng ngwanwyn 2021.

These are tough times for the arts – and in particular for touring companies like ours. We’ve done the right thing by our freelance performers for Figaro but we’re not sure what the future holds for MWO as a company. If you can donate to support us through these tricky times please do – and the best way to support us and, any touring company, as we come out the other side of these difficult days is to come and see our shows.

Mae hwn yn gyfnod anodd i’r celfyddydau – ac yn enwedig i gwmnïau teithiol fel ni. Rydym ni wedi gallu cefnogi ein perfformwyr llawrydd ar gyfer Figaro ond mae’n anodd gwybod sut beth fydd y dyfodol i OCC fel cwmni. Os oes modd i chi gyfrannu er mwyn ein cefnogi drwy’r cyfnod anodd hwn, mawr fyddai ein gwerthfawrogiad – a’r ffordd orau i’n cefnogi ni, ac unrhyw gwmni teithiol, ar ochr arall yr anawsterau hyn, yw dod i weld ein sioeau.

For now, life is moving on-line and we’re increasingly reliant on distant contact and digital media. That’s wonderful and we’d be lost without it – but it cannot replace the power and immediacy of live performances, the unamplified sound of the human voice and the glorious sound of chamber musicians playing some of the finest music ever written. So for now – donate if you can, stay safe and enjoy the world of opera on screen or recordings.

Am y tro, mae bywyd yn symud ar-lein ac rydym ni’n fwyfwy dibynnol ar gyswllt o bell a’r cyfryngau digidol. Mae hynny’n wych ac fe fyddem ni ar goll hebddo – ond nid yw’n disodli pŵer ac agosatrwydd perfformiadau byw, sŵn y llais dynol heb ei chwyddo a sŵn gogoneddus cerddorion siambr yn chwarae’r gerddoriaeth fwyaf cain yn ein hanes. Felly, am y tro, cyfrannwch os oes modd, arhoswch yn ddiogel a mwynhewch fyd opera ar y sgrîn ac wedi ei recordio. Fe’ch gwelwn ni chi’n fuan.

We’ll see you soon – and in the meantime here’s our excellent gardener Antonio (Mark “look my geraniums” Saberton) proving that when amazing creative people find themselves with time to spare they just get more creative! Enjoy

Cariad mawr gan Opera Canolbarth Cymru

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.