L’heure espagnole – meddyliau cyfarwyddwr cerdd OCC

Wrth i ni baratoi ar gyfer taith LlwyfannauLlai yr hydref o A Spanish Hour, L’heure espagnole Ravel, gofynnwn i Gyfarwyddwr Cerdd OCC Jonathan Lyness daflu rhywfaint o oleuni pellach ar y darn a’i hanes. Mae pob un o gynyrchiadau LlwyfannauLlai yn defnyddio trefniant newydd gan Jonathan gydag offeryniaeth ostyngedig, i bedwar cerddor yn unig yn yr achos hwn, sy’n ein galluogi i deithio i leoliadau nad oes modd i gwmnïau eraill berfformio ynddynt.

Unwaith eto, rydym yn mynd ag opera fyw i galon cymunedau – ac yn cychwyn yng nghalon Cymru gyda’r perfformiad cyntaf erioed o drefniant newydd a chyfieithiad newydd gan ein Cyfarwyddwr Artistig Richard Studer yn Theatr Llwyn, Llanfyllin ar y 9fed o Dachwedd!

Cafodd dau o gyfansoddiadau enwocaf cerddoriaeth Ffrainc eu hysbrydoli gan gerddoriaeth Sbaen; opera Georges Bizet, Carmen a gorchest offerynnol Maurice Ravel, Bolero. Daeth Sbaen yn ddeniadol i lawer o gyfansoddwyr Ffrainc yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif ac roedd Ravel yn arbennig yn ysgrifennu gwaith wedi’i ysbrydoli gan Sbaen drwy gydol ei fywyd, yn 1907 yn fwyaf enwog. Yn ogystal â’i opera un act L’heure espagnole (yn seiliedig ar ddrama hynod lwyddiannus Franc-Nohain o’r un enw yn 1904) cyfansoddodd Vocalise-étude ên forme de Habanera a’r Rhapsodie Espagnole i ddau biano (a drefnodd ar gyfer cerddorfa yn ddiweddarach). Dechreuodd Ravel weithio ar L’heure espagnole ym mis Mai a gweithio’n gyflym – roedd ei dad yn wael ac roedd ar Ravel eisiau iddo glywed ei waith. Ar Orffennaf y 6ed chwaraeodd ddrafft cyntaf o sgôr y piano i Albert Carré, cyfarwyddwr Opéra-Comique. Gofynnodd Carré am gael clywed y gwaith eto ond roedd ar Ravel eisiau gwneud rhywfaint o newidiadau (mae’n ymddangos ei fod yn teimlo bod y pwnc braidd yn agos at yr asgwrn, sydd yn eironig gan fod Carré ei hun yn enwog am fod yn ferchetwr). Erbyn y 15fed o Hydref, roedd y sgôr wedi ei chwblhau ac yn gynnar yn y flwyddyn newydd aeth Ravel yn ôl i weld Carré. Yn ôl Ravel, roedd Carré yn negyddol:

Ar 14 Ionawr [1908] rhoddais lais Toledo yn ei le ac i ffwrdd â fi i weld Carré gyda Bathori [Jane Bathori, mezzo-soprano a pherfformiwr nifer o weithiau Ravel]…. hymiais allan o diwn fwy nag arfer, dechreuais drwy dorri tri nodyn ar biano pot-tun, gadael i Bathori fynd amdani ar yr arias anodd, ac aros am y penderfyniad terfynol; Gwrthod… Amhosibl dweud stori o’r fath wrth selogion diniwed yr Opéra-Comique. Dychmygwch: y cariadon hyn wedi eu cloi mewn clociau ac yn cael eu cario i fyny i’r ystafell wely! Rydym ni i gyd yn gwybod beth fydd yn digwydd yn y fan honno!!… Rwy’n gweld nawr… mai bai mwyaf Carmen, Manon [ayb] oedd pigo eu trwynau ormod.

Er gwaethaf y gwrthodiad, cyhoeddwyd sgôr biano derfynol yr opera yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno ac aeth yn ei flaen i orffen yr offeryniaeth yn 1909. Perswadiwyd Carré i ganiatáu i’r opera gael ei pherfformio yn yr Opéra-Comique o’r diwedd a llwyfannwyd y perfformiad cyntaf ym mis Mai 1911. Goruchwyliwyd yr ymarferion gan Ravel ac fe’i perfformiwyd naw o weithiau, ond ni chafodd ei pherfformio eto yn yr Opéra-Comique tan fis Tachwedd 1945.

O safbwynt cerddorol, daw sylwedd L’heure espagnole gan y gerddorfa (neu’r ensemble siambr yn achos ein perfformiadau ni). Ysgrifennodd Ravel ei hun ei fod wedi bod eisiau:

“ailfywiogi’r opera gomedi Eidalaidd… mae gan yr iaith Ffrangeg ei hacenion a’i newid cywair… Roeddwn i eisiau mynegi eironi drwy’r gerddoriaeth yn fwy na dim, drwy harmoni, rhythm ac offeryniaeth ac nid, fel yn achos opereta, drwy byrotechneg leisiol mympwyol ac ynfyd.

Y canlyniad yw bod bwlch rhwng steil deifiol y llinellau lleisiol a chyfoeth melodaidd y cyfeiliant. Aeth Ravel mor bell ag ysgrifennu ‘Note pour l’exécution’ ar du blaen y sgôr gyhoeddedig:

“Ar wahân i’r pumawd terfynol ac, ar y cyfan, rhan Gonzalve, sy’n fursennaidd dekynegol, rhaid i’r cantorion draethu yn hytrach na chanu (diwedd byr i frawddegau, glizzandi ayb). Drwy gydol yr amser bron, clywir lled-barlando arddogan yr opera ddoniol Eidaleg.

Golyga hyn mai Gonzalve yw’r eithriad, gan mai ef yw’r unig un sy’n canu’n delynegol wrth iddo gyrraedd byd gwallgof y siop glociau, lle mae’r clociau, fel mae rhai wedi sylwi, yn ymddangos yn fwy dynol na’r bodau dynol. Yn ôl y sôn roedd Ravel eisiau i Gonzalve fod yn gymeriad o gig a gwaed yn hytrach na phyped. Fodd bynnag, y broblem i Gonzalve yw ei fod yn cael trafferth yn cyfleu angerdd gwirioneddol drwy synwyrusrwydd coeth ei gerddoriaeth o’i gymharu ag ymadroddion cyflym Concepcion. Mae’n cyrraedd y llwyfan yn ynfyd ac yn hyfryd o ddigrif; wrth iddo gyrraedd diwedd ei gân agoriadol (yn dathlu’r foment y caiff fod gyda’i gariad o’r diwedd), gwna Concepcion y camgymeriad o yngan ei enw yn llawn emosiwn dwfn (!) ac mae Gonzalve yn cychwyn ar ei gân unwaith eto, fel pe bai yn nhraddodiad aria dda capo. Roedd yr hwyl a wnaed am ben y traddodiad operatig mor amlwg yn gorfodi Carré yn yr Opéra-Comique i feddwl yn ofalus ynglŷn â pha opera i’w pharu â L’heure espagnole (yn ei berfformiad cyntaf, perfformiwyd yr opera ar ôl Thérèse eithaf fformiwläig Massenet a oedd, o edrych yn ôl, yn gamgymeriad).

Mae offeryniaeth Ravel o L’heure espagnole yn anhygoel o gymhleth. Mae’r sgôr yn golosws enfawr mewn ystod eang o byrotechneg. Disgwylir i’r llinynnau chwarae harmoneg, glissandi, ‘harmoneg glissandi’, rhybedio (bownsio’r bwa dan reolaeth) a chyda’r pren (h.y. pren y bwa). Gofynnir am gordiau pizzicato croes-linynnol sydd, er yn dechnegol bosibl, yn anodd i’w cyflawni. Mae’r adran daro yn egsotig ac yn cynnwys tri metronom, wedi eu gosod ar wahanol gyflymderau ar gychwyn yr opera fel eu bod yn cyd-daro bob 15 eiliad ac yn cadw ar wahân yn llwyr i gerddoriaeth donnog ysgafn y cyflwyniad (pob lwc, gellid dweud). Clywir offerynnau prin, yn fwyaf nodedig y sarwsoffon (y gellid ei disgrifio orau fel cyfuniad o isfasŵn a thiwba). Gyda’r offeryn hwn, nodwedda Ravel Don Inigo, gan gyrraedd, tua diwedd yr opera, ei D waelod (nad yw Don Inigo’n llwyddo i’w gyrraedd). Ac ar y dechrau, cyfarwydda Ravel chwaraewr y sarwsoffon i gael gwared â’i frwynen a “chwarae’r rhythm, mor uchel â phosibl, mor swnllyd â phosibl, heb boeni am y nodau”!

Drwy gydol y sgôr, mae’r manylder yn anhygoel. Fe’i disgrifiwyd gan y cyfansoddwr Francis Poulenc, yn eistedd wrth y piano yn 1944 gyda’r sgôr lawn ar un ochr a sgôr y piano ar y llall, fel “enghraifft beryglus” o offeryniaeth; “Heb drachywiredd hudolus Ravel, sydd yn wir yn fy achos i, rhaid i chi osod eich cerddoriaeth ar draed cadarn”. Fe alla i uniaethu! Rydw i wedi treulio 18 mis wrth y piano gyda’r sgôr lawn ar un ochr a sgôr y piano ar yr ochr arall, yn ystyried sut i ddatrys problem ar ôl problem yn fy nhrefniant siambr o’r opera ryfeddol hon. Fel sy’n arferol gyda phrosiectau o’r fath, cychwynnais o dop y sgôr a gweithio’n drefnus drwy’r gwaith cyn setlo ar yr offeryniaeth newydd – piano, ffidil, basŵn a thelyn, gyda phob un o’r chwaraewyr yn gyfrifol am rai elfennau o synau taro ‘siop gloc’ Ravel. Mae’n ddrwg gen i ddweud, ar gyfer y perfformiadau hyn, nad oedd cynnwys y sarwsoffon yn mynd i fod yn syniad ymarferol ond, wrth imi eistedd wrth y piano, rydw i wedi gofyn i’r tri chwaraewr arall fod yn gyfrifol am un metronom yr un. Dymunwch yn dda iddyn nhw!

Ar daith ledled Cymru a’r Gororau
9fed o Dachwedd i 7fed o Ragfyr
Dyddiadur taith a gwybodaeth am sut i archebu

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.