Â’r ymarferion ar y gweill ar ddiwedd y mis, gofynasom i Richard Studer, Cyfarwyddwyr Artistig, roi goleuni pellach i ni ar y gwaith o baratoi cyfieithiad newydd o’r gomedi opera hon

Tick Tock, siop gloc, clock shop, cock…

Mae cyfieithu darn fel opera Ravel, L’heure espagnole yn dasg sy’n rhoi pleser anferthol a rhwystredigaeth ddwys ar yr un pryd. Gobaith cyfieithydd unrhyw opera yw cyflwyno opera orffenedig sydd â ffraethineb a mwyseirio Sondheim a naws a chynildeb un o sonedau Shakespeare. Fodd bynnag, yn wahanol i sgript blaen, mae’r sgôr yn taflu rhwystrau cerddorol a chwiwiau rhythmig o bob cyfeiriad, sy’n sicr o darfu ar linell berffaith.

Richard Studer, Cyfarwyddwr Artistig Opera Canolbarth Cymru

Anaml iawn y bydd cyfieithiad llythrennol yn ffitio i’r alaw ac mae’n aml yn colli cynildeb y gwreiddiol. Ond er mwyn iddo ffitio’n gywir gall y geiriau ymddangos yn lletchwith neu’n annaturiol (meddyliwch am aria Rodolfo i Mimi yn La Bohème – pa bryd oedd y tro diwethaf i chi wasgu pawen eich cariad a datgan ‘mae dy law fechan wedi rhewi’…) Felly mae’n rhaid inni wneud ein gorau ac ar brydiau mae’n rhaid bod yn hy.

O ran y sgôr, cydnabyddir yn gyffredinol bod addasu rhywfaint ar y nodiant mewn adroddnod yn dderbyniol (cerddoriaeth sy’n cael ei hanner canu/hanner siarad yn rhythm naturiol iaith lafar) ond fe’i gwaherddir yn llwyr mewn melodïau a mynegiant cynaledig – nid ein lle ni yw dinistrio llinell y cyfansoddwr na strwythur cerddorol y gwaith.

Mewn comedi, mae’n hawdd i lawer o’r hiwmor gwreiddiol gael ei golli yn y cyfieithiad. Mae hyn yn digwydd am ddau reswm yn bennaf: cyfeiriadau diwylliannol nad yw cynulleidfa fodern neu ryngwladol yn debygol o’u deall neu golli’r mwyseiriau cymhleth, y mwyseiriau dwbl, chwarae ar eiriau ac ensyniadau (ffars ystafell wely yw L’heure espagnole Ravel wedi’r cyfan…). Gall fod yn anodd cyfieithu’r jôc symlaf a gall hyn adael bylchau yn yr hiwmor y mae angen eu llenwi. Pan fo hyn yn digwydd, rydw i yn bersonol yn teimlo ei bod yn ddyletswydd ar gyfieithydd i fod mor ddyfeisgar â phosibl – ychwanegu haenau o hiwmor sydd, er nad ydynt o reidrwydd yn driw i’r gwreiddiol, yn cyd-fynd â bwriad y darn i ymhyfrydu a diddanu. Gall cyfieithydd chwarae’n fyrfyfyr i raddau heb niweidio’r gwaith ond mae’n rhaid troedio’n ofalus – allwch chi ddim colli golwg ar y gwreiddiol a lliwio’r darn gyda’ch llais swnllyd eich hun.

Yng ngwaith Ravel, mae’r hiwmor yn cynyddu hyd at linell olaf yr opera ac, yn anarferol i mi, dyna lle cychwynnais i ar y gwaith – y dasg wedyn oedd llenwi’r 120 o dudalennau blaenorol gyda chomedi a chymaint o gyfeiriadau at glociau neu fwyseiriau cysylltiedig ag y bo’n destunol bosibl er mwyn cyfleu anturiaethau rhwystredig Concepcion a’i chariadon yn yr ystafell wely heb ormod o dramgwydd!

“so kind of her to find me something to do, a little moving in, a little moving out… such an obliging woman!….the woman is as mysterious as the intricate mechanism of this clock, and like a clock, rarely on time….”

Ramiro y ‘bachgen mulod’ wrth iddo synfyfyrio ar Concepcion, gwraig y clociwr.

Mae gan bob cyfieithydd ei steil ei hun o weithio. I mi mae tair rhan i’r broses. Pa bynnag opera yr wyf yn ei pharatoi, fe fyddaf yn cychwyn drwy weithio drwy’r sgôr gan ysgrifennu popeth a phob posibilrwydd a ddaw i fy meddwl o’r testun – tameidiau, patrwm odli, sgriblan ar hap. Ar ôl y broses gychwynnol hon, caiff y ‘brasluniau’ eu siapio’n ddrafft cyntaf ‘canadwy’ sy’n ceisio bodloni’r anghenion cerddorol ond hefyd i fireinio ‘lleisiau’ unigol bob cymeriad. Yn olaf, mae’n bryd adolygu a golygu, gan ddrafftio ac ailddrafftio pob golygfa aneirif o weithiau o bosib yng nghyd-destun y gwaith cyfan, er mwyn sicrhau bod cyflymder y libretto’n cynyddu i ddadleniad yr opera. Yn rhyfedd iawn, yr elfen olaf i gael ei chyfieithu cyn cyhoeddi’r sgôr gyda’r cyfieithiad newydd oedd y teitl – fel cwmni, cytunasom ar ‘A Spanish Hour’ yn hytrach na’r cyfieithiad mwy cywir, ‘Spanish Time’ ar ôl pleidlais yn holi barn y bobl a gynhaliwyd gan dîm marchnata OCC – gwirioneddol gydweithredol!

Mae’n fraint bob amser cael y cyfle i weithio ar unrhyw sgôr, ac yn enwedig un o’r fath athrylith gryno â hon. Gall yr operâu mawr gyffwrdd a diddanu cynulleidfaoedd yn ddigyfnewid. Er y byddai’n well gan rai glywed y gwaith yn ei iaith wreiddiol, fy ngobaith i, wrth i ni baratoi i gychwyn ar yr ymarferion, yw y bydd cynulleidfaoedd ledled Cymru, yn yr hydref eleni, yn mwynhau gwrando ar y cyfieithiad newydd gymaint ag y gwnes i fwynhau ei ysgrifennu.

“Farewell, dear clock, my dungeon cell
Farewell my armoured casement
Farewell instrument of time
That concealed this love of mine
Farewell my love that dared to chime its name
A box of kindling that fired my love’s flame….”

Galargan Gonzalve wrth ddod i’r golwg o’i guddfan…

Richard Studer, Cyfarwyddwr Artistig Opera Canolbarth Cymru 2018


Ravel’s L’heure espagnole

Ar daith ledled Cymru a’r Gororau 9fed o Dachwedd i 7fed o Ragfyr.

9/11/18 Theatr Llwyn, Llanfyllin (mewn partneriaeth â Hafren, Y Drenewydd
10/11/18 Y Met, Abertyleri
11/11/18 Ystafelloedd Cynulliad Llanandras
15/11/18 Theatr Richard Burton, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd
16/11/18 Theatr-y-Ddraig, Abermaw

Dyddiadur taith a gwybodaeth am sut i archebu

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.