Ar daith rhwng 7 Tachwedd a 5 Rhagfyr 2025
Mae opera un act Bernstein yn ddadansoddiad cain o’r Freuddwyd Americanaidd wych, trwy lygaid Sam a Dinah yn nhŷ Pastel a phriodas ffens polion gwyn yr 1950au. Mae triawd ‘scat’ Jazz yn rhoi sylwebaeth wrth i’r cwpl osgoi realiti eu perthynas. I Sam mae’n golygu ei gyfeillion yn y gampfa a’i waith, ac i Dinah ei therapydd a dihangfa ogoneddus Hollywood – a oes bywyd ar ôl yn eu ‘priodas berffaith’?
Wedi’i pherfformio yn nhrefniant siambr Yannotta ar gyfer saith offerynwr, gyda chast o bump dan arweiniad Cyfarwyddwr Cerdd OCC o’r piano, mae’r opera’n llenwi hanner cyntaf y noson, gyda’r ail hanner yn dathlu opera a theatr gerddorol Americanaidd, gyda thema Y Freuddwyd Americanaidd, yn cynnwys yr holl berfformwyr.
Cerddoriaeth a Libreto: Leonard Bernstein
Trefniant Siambr: Bernard Yannotta
Cyfarwyddwr Cerdd: Jonathan Lyness
Cyfarwyddwr/Cynllunydd: Richard Studer
–
Pob sioe am 7.30pm
–
Trouble in Tahiti: 45 munud
Egwyl
Y Freuddwyd Americanaidd: 45 munud
Richard Bratby, The Spectator
“Modest in scale but uncompromising in quality”
David Truslove, Opera Today
“Mid Wales Opera has virtually created an instruction manual for the performance of community-based opera in rural areas, shrink-wrapping works into spaces that rarely enjoy professional presentation.”
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…