SmallStages 2017: Cyflwynir ‘The Bear’

Mae’r bariton Adam Green yn ymuno ag Opera Canolbarth Cymru yn yr hydref eleni i chwarae rhan y casglwr trethi bras ei wedd Smirnov – yr Arth yn nheitl comedi glasurol Walton, sydd ar daith o’r 2il o Dachwedd.

Ymysg ei rannau operatig blaenorol i’r English National Opera mae Belcore (The Elixir of Love), Arbace (Idomeneo), Aeneas (Dido and Aeneas). Mae ei rannau eraill yn cynnwys y brif ran yn The Barber of Seville i Opera Cenedlaethol Cymru, Il Conte (Le Nozze di Figaro) yng ngŵyl Musique Cordiale a Gŵyl Iford.

Yn y gorffennol, mae’r gwaith wedi mynd ag ef i bob cwr o Ewrop – ond mae’n edrych ymlaen at y cyfle i ddysgu mwy am Gymru gyda’n taith Llwyfannau Bach o The Bear.

Fodd bynnag, ar wahân i deithio gydag opera, Adam hefyd yw sefydlwr prosiect Prison Choir, elusen sy’n ailsefydlu carcharorion drwy opera a chân – llwybr tuag at geisio sicrhau llai o aildroseddu, meithrin hunan-barch, gwella hunanhyder a sgiliau cyflogadwyedd i bawb sy’n gysylltiedig. Ym mis Gorffennaf, llwyfannodd yr elusen Carmen Bizet yn CEM Dartmoor gydag Adam yn Gyfarwyddwr Cerdd.

Meddai: “Dechreuwyd y gwaith ar brosiect Carmen yn Dartmoor gydag 20 o garcharorion, a doedd gennym ni ddim syniad a fyddai ganddyn nhw’r gallu i ganu’r chwe chorws. Fe sylweddolom ni fod 16 ohonynt yn denoriaid gwych, ac yn gallu canu o ddifrif.

“Erbyn diwedd yr wythnos gyntaf, roedden nhw wedi dysgu bob un o’r chwe chorws ar eu cof. Rhoddwyd dau berfformiad yn y Carchar, i deuluoedd y carcharorion, cyd-garcharorion, aelodau staff a gwesteion – roedd yn brofiad hollol anhygoel. Un o’r uchafbwyntiau i mi oedd carcharor trawsryweddol cyn triniaeth yn chwarae rhan un o’r genethod sipsiwn, a dod ar y llwyfan gyda’r genethod sigaréts, yn ymhyfrydu yn y cyfle i berfformio.”

Bydd Adam a’r tîm yn ôl yn y carchar er mwyn paratoi perfformiad o garolau Nadolig ac mae’n bwriadu dychwelyd bob blwyddyn i weithio gyda’r carcharorion.

Mae’r adolygiad canlynol, a ysgrifennwyd gan Nick, sy’n 80 oed ac yn garcharor yn Dartmoor, yn egluro pam fod Adam yn benderfynol o fynd yn ei ôl:-

“Cymerwch grŵp o ddynion digalon, isel eu hysbryd a’u hunanwerth a elwir yn droseddwyr. Perswadiwch y grŵp y gallen nhw ddod at ei gilydd i gynhyrchu gwledd gerddorol enwog sy’n ddifyr i’w gwylio ac yn wych i wrando arni. Cynhaliwch yr holl beth mewn lleoliad diffaith, digroeso – Carchar Dartmoor. Gwnewch y perfformiad yn llwyddiant ysgubol. Dyna wnaeth y dyn yma o’r ‘tu allan’. Daeth i’n plith un diwrnod gyda’i angerdd tuag at gerddoriaeth, ei allu aruthrol ac egni ymroddedig a’n hysgubo ni yn ei sgil. 3 wythnos yn ddiweddarach roedd wedi ein hysbrydoli y tu hwnt i unrhyw beth y gallem ni fod wedi ei ddychmygu.  Roeddem ni yn Seville yn helpu’n gilydd i greu rhythmau Sbaenaidd. Roeddem ni’n canu gyda Carmen, yn ceisio cariad genethod poenus o dlws y ffatri. Roeddem ni’n teimlo cynhesrwydd canol dydd – a do, cawsom ein diwrnod yn yr heulwen. Nawr mae’r dewin a’i gwmni o’r theatr wedi mynd – y cantorion a’r offerynwyr swynol yn ddim ond atgof – wedi mynd allan i’r rhyddid mawr. Ond fyddwn ni, y rhai a gafodd eu hysbrydoli, fyth yr un fath eto. Bravo, bravo, bravo.”

I gael mwy o wybodaeth am waith Adam gyda Phrosiect Prison Choir ewch i  – www.prisonchoirproject.co.uk


Dewch i fwynhau opera gwbl unigryw wrth i Lwyfannau Bach OCC gyflwyno ei berfformiadau siambr ficro cyntaf erioed gyda fersiwn newydd sbon o’r gomedi glasurol un act, The Bear.

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.