Trefnu ar gyfer y llwyfan llai


Yn draddodiadol, opera yw un o’r celfyddydau mwyaf trawiadol – syfrdanol o ran graddfa a chwmpas. Mae i’r cyflwyniad epig ei le, ond ar gyfer taith Llwyfannau Bach roeddem yn awyddus i ddangos ochr wahanol i opera. Rhoddir cyfle i’r cynulleidfaoedd fod yn agosach at ein perfformwyr a gweld opera o safbwynt hollol wahanol, safbwynt mwy cyfarwydd a phersonol. Felly sut mae mynd ati i droi sgôr opera yn rhywbeth y gall pum cerddor ei chwarae? Mae ein Cyfarwyddwr Cerdd, Jonathan Lyness, yn arbenigwr gyda dros 25 mlynedd o brofiad ac mae’n egluro isod sut yr aeth i’r afael â’r trefniant siambr ar gyfer cynhyrchiad OCC o The Bear yn yr hydref eleni.

***

Dros y degawdau diweddaraf mae’r cynnydd yn nifer y perfformiadau o operâu bach a chanolig dros y byd wedi bod yn rhyfeddol. Gosododd y cyfansoddwr Benjamin Britten gynsail yn y 40au gyda’i operâu siambr The Rape of Lucretia ac Albert Herring, gyda’r pwysigrwydd a roddodd ar y gostyngiad cytbwys ym maint yr holl elfennau operatig. Gan ddefnyddio cerddorfa fach (12 chwaraewr) a chast bychan (tua 8-13 o gantorion), creodd Britten ffordd ymarferol, yn economaidd ac artistig, o berfformio operâu newydd a chyrraedd at gynulleidfaoedd newydd.

Y cynulleidfaoedd sy’n allweddol, o ran amrywiaeth a galw. O faestrefi dinesig i ysguboriau gwledig, mae pobl o bob cefndir wedi tyrru i weld y cantorion agosach atynt a gweld wynebau’r cerddorion yn canolbwyntio ar eu hunawdau – profiad prin i gynulleidfaoedd y tai opera mawr. Mewn opera fach, mae’r cydbwysedd rhwng nifer y cantorion a’r chwaraewyr yn gynrychiolaeth ystyrlon o’r gysyniadaeth lawn wreiddiol. Gall cynhyrchiad mor fach o glasur operatig fod yn agoriad llygad i’r selogion opera a gall gael gwared â’r myth fod opera yn elitaidd ac allan o gyrraedd.

Ond sut mae hyn yn cael ei gyflawni? Yn ystod y cyfnod hwn, mae nifer yr ‘offeryniaeth ostyngedig’, neu ‘gostyngiadau offerynnol’, fel y’u gelwir yn y maes (mae’r naill derm neu’r llall yn gywir), wedi cynyddu ymysg consortiwm tawel o drefnwyr (yr wyf i wedi bod yn un ohonynt ers tua 25 mlynedd). A’r genhadaeth? Cymryd sgôr opera gerddorol a’i threfnu fel bod modd i grŵp siambr ‘maint-Britten’ ei pherfformio.

Rhwng 10 a 12 chwaraewr yw’r rhif arbennig – pum chwaraewr llinynnau, pum chwaraewr chwyth ac, o bosib, telyn ac offeryn taro. Gellir amrywio gyda chwaraewr sy’n chwarae mwy nag un offeryn (fel sy’n digwydd yng ngwaith Britten, ond nid ar yr un adeg gan amlaf!). Mae rhai trefnwyr wedi arbrofi gyda grŵp mwy eclectig o chwaraewyr, a bydd gan bob un ei syniadau ei hun ynglŷn â’r hyn y dylid ei gynnwys mewn trefniant, gyda rhai yn creu dehongliadau hynod o sgôr wreiddiol y cyfansoddwr. O fy rhan i, yr her fu creu’r rhith i’r gynulleidfa fod y cyfansoddwr wedi ysgrifennu’r trefniant ei hun neu nad ymgymerwyd ag unrhyw drefniant o gwbl. Os yw aelod o gynulleidfa’n mynychu perfformiad o offeryniaeth ostyngedig heb weld unrhyw beth yn chwithig, rydw i’n ystyried hynny’n llwyddiant!

Mae gan y cwmni teithiol Cymraeg, Opera Canolbarth Cymru, hanes hir ac enwog o deithio gyda chynyrchiadau bach, fel y disgrifiwyd uchod. Fodd bynnag, cafwyd y syniad yn ddiweddar o ychwanegu taith arall i galendr OCC. Nid taith gyffredin fyddai hon. Y syniad oedd mynd ag opera un act (anodd ei rhaglennu a’i gwerthu fel arfer) o repertoire yr ugeinfed ganrif (anoddach byth i’w gwerthu o ystyried cymhlethdodau posibl cysylltiedig â hawlfraint), gostwng ei maint i rywbeth a allai ffitio i gefn car estate (roedd hyn yn dechrau swnio’n ynfyd!), gwneud yn siŵr bod sylw cyfartal yn cael ei roi i nifer y cerddorion a’r cantorion (gan olygu bod trefniant o’r sgôr yn anochel) a mynd â’r cynhyrchiad ar draws Cymru i gymunedau anghysbell a/neu ddifreintiedig lle mae’n annhebygol iawn fod opera wedi ei pherfformio yno erioed.

Yn yr un modd ag yr oedd meddwl gwreiddiol Britten yn dychmygu, yr uchelgais oedd cyflwyno ateb oedd yn ariannol ac yn artistig ymarferol i’r her o agor opera a’i holl rith i gynulleidfaoedd, ifanc a hen. Mae cynnig cyntaf OCC ar y ffordd newydd hon o wneud pethau yn digwydd yn yr hydref eleni, gyda thaith pymtheg perfformiad dros Gymru o gomedi glasurol William Walton, The Bear.

Mae’r sgôr wedi ei chreu ar gyfer cerddorfa siambr fach a’m gobaith oedd trefnu’r sgôr ar gyfer tua phum cerddor a chast o dri o gantorion. Nid ‘pa offerynnau y galla i gael gwared ohonynt’ ond ‘pa offerynnau sy’n nodweddu’r darn orau – sut mae Walton yn creu teimlad a chymeriad er mwyn ehangu effaith a chomedi’r gwaith.’ Yr offeryn cyntaf oedd yn neidio allan o’r sgôr lawn oedd, yn annisgwyl, y basŵn. Mae’r weddw, Madam Popova, yn galaru ac mae Walton yn chwarae ar hynny gydag alaw’r basŵn sy’n gostwng yn ysgafn. Yn y tudalennau olaf, byddai offeryn llinynnol (ffidil, fiola neu sielo) yn cyfleu’r rhamantiaeth sy’n blodeuo rhwng Popova a Smirnov (‘arth’ y teitl).

Mae’r piano, y delyn a’r offeryn taro’n hanfodol i fyd sain Walton ac felly, gyda’r basŵn a’r ffidil (fiola ddwbl), roedd gen i fy ngrwpiad pum aelod. Heb arweinydd, dyma opera siambr ar ei ffurf gywiraf. Y gobaith yw, gan fforffedu’r cynlluniau blaenorol o roi opera yng ngefn car estate, y bydd taith OCC yn hydref 2017 yn gychwyn ffordd newydd sbon o ddenu cynulleidfaoedd i’r opera ledled Cymru wledig.

Jonathan Lyness Cyfarwyddwr Cerdd, Opera Canolbarth Cymru

Cliciwch ar y linc i gael manylion llawn am daith Llwyfannau Bach OCC o The Bear, William Walton, #SmallStages 2017