Cwrdd â’r Cyfarwyddwyr

Mae ein Cyfarwyddwr Artistig Richard Studer a’r Cyfarwyddwr Cerdd Jonathan Lyness wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd ers dros ugain mlynedd. Ond sut daeth y ddau i adnabod ei gilydd a sut y maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd i droi sgôr a darluniau’n opera ar lwyfan?

Cyfwelodd Clare Stevens Jon a Richard yn Ystafelloedd Cynnull Llanandras ar Hydref 29 ar ran Mid Border Arts, i roi goleuni pellach ar y broses o greu opera. Dyma ddetholiad o’r cyfweliad.

Eglurodd Jon sut y daethant i weithio gyda’i gilydd am y tro cyntaf fel myfyrwyr ym Mryste:

“Roedd Richard am fod yn filfeddyg ac roeddwn i am fod yn beiriannydd. Mi fyddwn wedi bod yn beiriannydd ofnadwy ac roedd fy mryd ar gerddoriaeth erioed.

Fe wnes i gyfarfod Richard yn ystod y tymor cyntaf gen ein bod yn byw yn yr un neuadd breswyl – y sioe gyntaf yr oedd yn gweithio arni ar y pryd oedd y Mikado, wedi ei gosod mewn clwb nos Japaneaidd modern, ac roeddwn i’n chwarae’r piano yn yr ymarferion. Newidiais i astudio cerddoriaeth ar ôl blwyddyn a dod yn fwy o ran o sîn gerddoriaeth Bryste fel feiolinydd a phianydd – ein sioe gyntaf gyda’n gilydd oedd The Tales of Hoffmann yn 1993.

Cwpwrdd yn ein fflat oedd y swyddfa docynnau gyntaf ac ariannwyd y sioe gan hynny oedd ar ôl o’n benthyciadau myfyrwyr, ond drwy wyrth fe wnaethom ni adennill ein costau.”

Richard Studer, Jonathan Lyness a Claire Stevens

Eglurodd Richard sut mae eu sioeau wedi datblygu dros y blynyddoedd:

“Ar y dechrau, fe wnaethom ni gychwyn gweithio mewn theatrau bwa prosensiwm traddodiadol yn cyflwyno opera eithaf traddodiadol – wedyn fe wnaethom ni gychwyn archwilio opera gylch a chawsom ein gwahodd i gynnal sioe yn Iford, mewn cylch o glwystai carreg, oedd yn ffordd hollol newydd o weithio.”

Erbyn hyn mae Jon a Richard yn cyflwyno opera ar draws yr holl sbectrwm o leoliadau, o wyliau opera mewn plastai gyda phicnic, i’r lleoliad mwy trefol a mentrus y Tobacco Factory ym Mryste – ac ar hyn o bryd gyda phrosiect Llwyfannau Bach Opera Canolbarth Cymru mewn eglwysi, theatrau bach a neuaddau pentref.

Aeth Jon ymlaen i ddweud:

“Fe wnaethom ni ddechrau gweithio yn y Tobacco Factory yn 2003 ac mae’n lleoliad llawer mwy mentrus, theatr bocs du mewn warws yng nghanol Bryste. Yr hyn dwi’n ei hoffi am y lle ydy amrywiaeth y gynulleidfa – nid cynulleidfa opera’n unig, ac mae cymysgedd dda o bobl o ran oedran a demograffeg. Fe’i perfformir mewn cylch hefyd, felly mae’r gynulleidfa’n edrych ar ei gilydd ac mae’n ennyn sylw pawb oherwydd uniongyrchedd y perfformiad ac am fod y gynulleidfa mor agos at y cantorion.”

Un o’r themâu cyffredin sydd i’w gweld yng ngwaith Jon ac yng ngwaith Richard, yn ogystal â gwaith Opera Canolbarth Cymru, yw gweithio gydag offeryniaeth ostyngedig. Yn aml mae opera deithiol ar raddfa fach wedi golygu cyfeiliant gan ddim ond piano, ond un o elfennau allweddol gwaith Jon yw creu sgôr ymarferol ar gyfer opera lawn gyda llai o offerynwyr.

Eglurodd: “Yn 1993 cynhyrchais sgôr ostyngedig ar gyfer Cosi fan Tutte, gan ddod â nifer y chwaraewyr o 30-35 i lawr i 10 ac rydw i wedi bod yn gweithio drwy’r canon wrth i ni eu perfformio – mae’r broses honno’n gweithio’n dda iawn gydag Opera Canolbarth Cymru a maint eu sioeau teithiol.

“Rydw i’n meddwl bod y gerddorfa’n rhan bwysig o’r opera – yn un o elfennau allweddol y perfformiad ac er bod modd i chi gyflwyno sioe gyda dim ond piano, mae’r gerddorfa i mi yn ganolog, nid yn gerddorol yn unig ond yn ddramatig hefyd.” – Jon

“Mae’r gerddorfa hefyd yn cyfleu’r effaith ddramatig, er enghraifft, y gafót a grybwyllir gan Scarpio yn Tosca, neu glychau Rhufain ar ddechrau’r 3edd Act. Roedd gennym gerddorfa o 12 ar gyfer sioe ddiweddar Tosca a dywedodd un adolygydd bod y gerddorfa wedi bod fel corws Groegaidd – dyna sylw gwerth ei gael.”

Felly sut mae Jon a Richard yn mynd ati i greu cynhyrchiad newydd sbon?

Eglurodd Richard, er mwyn dewis darn i’w berfformio, cynhelir trafodaeth gyfan ynglŷn â’r hyn sy’n gweithio’n artistig, yn cyd-fynd â’r gyllideb ac y gellir ei gyflwyno’n ymarferol. I Opera Canolbarth Cymru mae hynny’n golygu llunio cynllun pedair neu bum mlynedd gan wneud yn siŵr fod pob taith – taith yr hydref a’r gwanwyn – yn gweithio’n ymarferol yn ogystal ag yn artistig cyn i’r broses o greu’r gwaith gychwyn.

Ceir mwy o wybodaeth yma ynglŷn â chynhyrchiad hydref 2017 o The Bear, a thaith gwanwyn 2018 o Eugene Onegin.

“Ar y dechrau rydym ni’n dau yn ein byd ein hunain ac yna ar ryw bwynt mae angen inni ddod ynghyd a chymharu nodiadau. Mae Jon yn cychwyn gyda’r sgôr ac rydw innau’n braslunio. Rydym ni’n dod ynghyd wrth ddechrau castio gyda thrafodaethau mawr o gwmpas bwrdd y gegin.”

Mae’n broses hir dod ag opera at ei gilydd, fel yr ychwanegodd Jon:

“Rydym ni’n aml yn castio tua 12 mis ymlaen llaw ac yn aml yn gwrando ar tua 60 o gantorion o fewn deuddydd yn Llundain, yna’n dod adref i fynd drwy’r rhestrau o’r rhai yr ydym wedi eu clywed.” – Jon

“Mae angen inni ystyried cyllidebau, argaeledd a’r hyn y gallwn ei weld yn gweithio fel ensemble. Rydym ni’n cytuno gan amlaf – ond ddim bob amser!”

O ran cynllun Richard ar gyfer y set a’r gwisgoedd, mae’r broses yn cychwyn gyda dwdlan ac mae ganddo lyfr sgetshis A5 bob amser er mwyn cofnodi syniadau wrth iddynt ddod at ei gilydd. “Mae arna i angen tri neu bedwar cynllun allweddol sy’n sefydlu naws y cynhyrchiad. Mae’r sgôr yn rhoi’r lliwiau ichi – mae fel llawlyfr Haynes o’r opera – yna fe fydda i’n cyfeirio yn ôl at y testun yn gyson. Yna un diwrnod rydw i’n deffro gan wybod fy mod yn barod, ac ar y pwynt hwnnw fe fydda i’n darlunio’r sioe a dyna fydd yn cael ei greu ar y llwyfan.

Wedi hynny, mae’r gwaith o fodelu’r set yn digwydd gyda cherdyn gwyn, model maint bocs sgidiau bras iawn er mwyn gwneud yn siŵr fod gennym ni’r cyfrannau a’r cydbwysedd cywir. Mae’n tyfu wedyn o hynny wrth i ni ychwanegu lliwiau, paent, cynllun y golau ac mae angen i ni edrych ar ddrysau ac agoriadau er mwyn rhoi rhywbeth i’r golau ddisgleirio drwyddo.”

“Rhaid meddwl am wisgoedd hefyd ac un o’r penderfyniadau pwysig y mae angen i ni ei wneud yw ym mha gyfnod y mae’r darn wedi ei osod – mae angen iddo weithio o fewn strwythur cymdeithasol yr opera, er enghraifft, mae Mozart yn trosi’n dda iawn i rai cyfnodau ond nid i eraill. Mae angen i rywbeth fod yn digwydd yn gymdeithasol sy’n golygu, er enghraifft, bod modd i ferched wneud safiad yn erbyn dynion yn y cyfnod hwnnw.

Mae The Magic Flute yn anifail gwahanol ac yn freuddwyd o sioe i gynllunwyr. Mae modd i chi wneud unrhyw beth a mynd dros ben llestri go iawn. Roedd fy fersiwn i ar gyfer OCC yn bantomeim gwirioneddol, gyda’r tair menyw yn nyrsys drygionus a’r ddraig yn cael picnic ar y cychwyn.

“Pan fydd gen i syniadau a chysyniad clir mae angen i mi drosglwyddo’r cynllun cyfan i’r tîm cynhyrchu a’r tro nesaf y bydda i’n ei weld, mae’r un maint a thŷ.” – Richard

Mae The Bear wedi bod yn brofiad gwahanol iawn o ran cynllun, gyda llwyfannau’n amrywio o 16 wrth 12 troedfedd i 12 medr wrth 7 medr felly mae’n rhaid i’r cynllun fod yn gwbl hyblyg ac addasadwy. Ychwanegodd Richard: “Mae’n rhaid i bob man yr ydym yn mynd iddo gyda The Bear fod ychydig yn wahanol a’n gwaith ni fydd gwneud yn siŵr bod y set yn edrych gystal â phosibl ym mhob lleoliad.”

Mae amserlen gynhyrchu The Bear wedi ei hystyried hefyd, gyda phedwar diwrnod yn Llundain a thri yn Llanandras er mwyn rhoi’r sioe at ei gilydd – llawer llai o amser na sioe deithiol o faint arferol.

Meddai Richard: “Mae’n cymryd 25-40 awr o ymarfer i wneud un awr o opera fyw fel arfer.” Mae’r broses yn gweithio’n gyflymach gyda llai o gantorion, er enghraifft, mae sioe gydag aria un canwr yn llawer cyflymach i’w llwyfannu a’i chyfarwyddo na chorws llawn. “Pan fydd 30 o bobl ar y llwyfan ac rydych yn rhoi eich sylw i un ohonynt, mae’r gweddill yn colli ffocws.”

Prin y mae traed Jon a Richard wedi cyffwrdd y llawr ers iddynt ymuno ag Opera Canolbarth Cymru – gyda thaith The Magic Flute a Semele ar yr un pryd yn y gwanwyn y llynedd a The Bear ac Eugene Onegin yn digwydd yn yr hydref eleni ac yng ngwanwyn 2018 – ond maent yn mwynhau’r sialensiau newydd.

“Mae’n hyfryd bod yn rhan o dîm bychan” meddai Jon “a hyd yn hyn mae’r profiad wedi bod yn un gwych.”

Meddai Jon: “Gydag OCC rydym yn y busnes o gynyddu cynulleidfaoedd ledled Cymru, yn enwedig cynulleidfaoedd ieuengach, a gwerthu opera i bobl nad ydynt yn gyfarwydd ag opera o gwbl.”

Mae’r genhadaeth honno’n allweddol i waith OCC yn ogystal â gwaith Jon a Richard, fel yr eglurodd Richard: “Mae goresgyn gymaint â phosib o’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag dod i’r opera wedi bod yn rhan bwysig o’n gyrfa – mae hynny’n cynnwys canu yn Saesneg, sy’n allweddol i waith OCC.

“Rydw i wedi eistedd mewn cynulleidfaoedd drwy gomedïau Donizetti a Rossini a gweld wynebau dideimlad yn y gynulleidfa, ac mae hynny am nad oeddent yn deall comedi gwirioneddol y perfformiad oherwydd yr iaith.

“Rydym ni hefyd eisiau mynd ag opera i leoedd nad yw cwmnïau eraill yn teithio iddynt ac ymhyfrydu cynulleidfaoedd newydd. Un enghraifft wych o hynny oedd The Magic Flute ym Mhontardawe – theatr brydferth dros ben ond roedd yn rhaid inni adael hanner y set yn y lori am fod y llwyfan mor fach.

“Roedd y cast i gyd wrth eu bodd yno ac roedd y gynulleidfa’n wych, roedden nhw’n clapio ar bob cyfle gan gynnwys yn ystod yr agorawd ac roedden nhw’n chwerthin drwy’r holl berfformiad, oedd yn hyfryd i ni.” – Richard

Mae taith The Bear wedi ein galluogi i fynd â’r teithio i lefel newydd – a mynd i gorneli pellaf Cymru. Ychwanegodd Richard: “Roedd arnom ni eisiau teithio gyda darn sy’n cynnig cyflwyniad ysgafn iawn i opera i bobl nad ydynt wedi bod mewn opera o’r blaen. Mae testun The Bear ei hun yn ddigri iawn – er enghraifft, mae Smirnov yn cael trafferth wrth sylweddoli ei fod wedi herio Popova i ymladd er ei fod yn datblygu teimladau tuag ati:

“I’ll pick her off like a partridge! I’m not a sentimental puppy. But what a woman! What a woman! Her eyes flashed, her cheeks shone, she accepted my challenge! I’ve never seen anyone like her! All the same, I must kill her, just as a matter of principle. What courage what daring, she’ll kill without caring!

Oh she’s all I could worship in womanhood…A kitten at play but a tigress at bay…Frail as a mouse but so lion-hearted! Under her beauty lies gunpowder, fireworks….” –Libretto Paul Dehn ar gyfer The Bear

Er bod Jon a Richard yn dychwelyd yn aml at yr un darn o waith, mae pob cynhyrchiad o sioe yn wahanol, yn ddibynnol ar y cast a’r lleoliad, ac yng nghynhyrchiad yr hydref o The Bear, canolbwyntir ar y comedi yn y sioe.

Ychwanegodd Richard: “Y tro cyntaf imi weithio ar The Bear, roedd Popova’n cael ei chwarae’n ddifrifol iawn a daeth y comedi o’r elfen honno, y tro hwn mae gennym ni gomediwraig ardderchog ac rydym ni’n mynd am Popova sy’n cychwyn braidd yn gamweithredol ond sy’n canfod hapusrwydd ac iachawdwriaeth yn Smirnov.”

“Does dim amheuaeth, pan fydd pobl yn dod drwy’r drws fe fyddant wrth eu boddau! Mae’n brofiad gwahanol iawn o opera hefyd – mor agos nes mae’r cantorion bron â bod yn eistedd ar eich glin.” – Richard

Ysgrifennwyd sgôr The Bear ar gyfer 25-30 o chwaraewyr yn wreiddiol a’r gerddorfa leiaf yr oedd Jon a Richard wedi gweithio gyda hi ar gyfer The Bear cyn hyn oedd 12 yng nghynhyrchiad 2003. Er mwyn mynd â’r sioe i neuaddau ac eglwysi ledled Cymru, mae’r nifer wedi ei ostwng i bum chwaraewr – y cyfan yn rhan o greu sioe fforddiadwy a hygyrch sy’n ffitio i amrywiaeth enfawr o leoliadau ar y daith.