Gweithio ar The Cunning Little Vixen yn Ystod y Cyfyngiadau Symud

gan Cyfarwyddwr Cerdd OCC, Jonathan Lyness

Pan ddaeth y cyfyngiadau symud yn ail hanner mis Mawrth, a’n taith hyfryd o The Marriage of Figaro yn gorfod dod i ben yn dorcalonnus, roeddwn i wedi bod wrthi am dair wythnos yn gweithio ar offeryniaeth ostyngedig o un o operâu mawr olaf Leoš Janáček, The Cunning Little Vixen. Roeddwn i wedi arwain y darn yn 2008 a thua pum mlynedd yn ôl dechreuais arbrofi gyda’r gwaith, gyda’r bwriad o berfformio’r opera gyda grŵp llai o offerynwyr na’r gerddorfa fawr y cyfansoddwyd yr opera ar ei chyfer. Yn gynnar ym mis Mawrth, agorais fy sgôr llawn unwaith eto (cyhoeddiad 1924), nad yw bob amser yn hawdd i’w ddarllen. Gwelais ei fod yn anos fyth i’w ddarllen oherwydd fy anodiadau pensel a’r nodiadau lawer ar y ffordd orau o rannu’r gwahanol rannau rhwng tri cherddor ar ddeg. Ac felly, dyna lle’r oeddwn i, am 7:00am yn fy nghartref yn Lingen, gyda choffi yn fy llaw a sgôr o fy mlaen, yn tanio fy ngliniadur, yn agor ‘Sibelius’, ac yn dewis ‘New

Ar y pwynt hwn, y drefn arferol yw nodi arwydd cyweirnod. Ond dyma un o’r sawl peth sy’n anarferol am Janáček. Nid oes arwyddion cyweirnod yn The Cunning Little Vixen! Ymddengys yn rhywbeth mor syml, ond mae’n well gan offerynwyr fel arfer gael arwydd cyweirnod yn hytrach na llaweroedd o hapnodau. Ond os oes un peth yn gas gan linynwyr, chwarae yn y cywair lleddf yn rhy aml yw hynny. Mae hyn yn broblem yn fwy penodol i feiolinwyr – mae’n golygu gwasgu’r llaw chwith yn erbyn sgrôl yr offeryn, bron i ystum hanner, sydd yn anghyfforddus (yn enwedig i’r rhai sydd â dwylo mawr!) ac mae’n ei gwneud yn anodd chwarae vibrato. Roedd Puccini wrth ei fodd gydag A feddalnod leiaf (gyda saith meddalnod), ond nid yw hynny’n ddim o’i gymharu â Janáček, sy’n defnyddio llawer ar y meddalnodau, ac yn defnyddio cyfresi cyfan o feddalnodau-dwbl yn rheolaidd, a hynny’n aml mewn bariau neu gymalau sydd hefyd yn cynnwys ambell lonnod neu lonnod-ddwbl. Nid chwarae’r nodau yw’r broblem – ond eu darllen!

O ran arwyddion amser… Wel, ydy, mae Janáček yn rhoi arwyddion amser i ni o leiaf. Ond efallai nad dyna ddylid eu galw gan fod yr arwyddion amser yn aml yn afreolaidd ac yn ddieithr, ac nid o reidrwydd yn mynegi curiad y gerddoriaeth. Dyma’r peth: Mae cerddoriaeth Janáček wedi’i hysbrydoli gan elfennau o ganu gwerin, yn llawn throi a throelli sy’n aml yn anodd i’w nodiannu, yn gytgordiol ac yn rhythmig. Yna, mae ganddo obsesiwn gyda Tsieceg, y mae’n ceisio ei nodiannu mor naturiol â phosibl. Ac yna, yn Vixen, mae’n mynd gam ymhellach, gyda’i ‘gymeriadaeth’ o synau anifeiliaid. Yma mae’r cyfansoddwr wedi dod yn naturiaethwr cerddorol, ac mae rhai mannau yn y sgôr lle mae’n ymadael â’r arwyddion amser yn llwyr. Un o’r prif fannau lle gwneir hyn yw pan fo’r llwynoges a’r llwynog yn diflannu oddi ar y llwyfan i gael preifatrwydd (!). Mae’n glir i mi fod llawer o ddeunydd melodig Janáček wedi ymddangos iddo ef yn ei gyflwr naturiol, heb gyfeiriad at arwydd amser na chyweirnod, ond â phurdeb melodig yr aiff ati wedyn i’w nodiannu cystal ag y bo modd.

Mae hyn oll yn gweithio, hyd nes y canfyddwn wahanol gymalau sy’n ymddangos yr un fath yn union o ran rhythm, ond sydd wedi eu nodiannu’n wahanol. Pa fersiwn y dylid ei ddewis?! Ar lefel gyffredinol, nid yw’n ymddangos bod y mursendod tuag at lif golygfa a welir yn operâu Verdi a Puccini (ac yn Britten yn ddiweddarach) yn bwysig i Janáček bob amser. Mae nifer fawr o adegau lle mae’n ymddangos bod gofyn i’r perfformiwr sgwario’r cylch. Bydd Janáček yn nodi ‘accel.’ (cyflymu) ar adran sy’n fwy rheolaidd, ac i’r gwrthwyneb. Ac mae’n gyffredin i fotiff rhythmig gyrraedd pwynt lle mae’n rhaid i’r motiff ddiflannu neu aros yn ei unfan mewn ffordd na fyddai unrhyw gyfansoddwr eisiau ei weld, neu mae’n rhaid i lif y gerddoriaeth gael ei newid mor sydyn nes mae’r effaith fel newid gêr yn rhy gyflym. Dywedodd rhywun wrtha i unwaith bod y diweddar Charles Mackerras, arweinydd arloesol gwaith Janáček, wedi cael y materion hyn yn anodd. Yn y diwedd roedd wedi gwneud ei orau i weithio drwy’r rhwystrau fel pe bai’n rhoi darnau jig-so at ei gilydd, sydd weithiau angen eu cocsio a/neu eu symud i’w lle.

Ysgrifennodd Janáček The Cunning Little Vixen yn ystod y cyfnod creadigol dros ben ar ddiwedd ei fywyd, yn ei chwedegau, pan gynhyrchodd nifer o’i gampweithiau gorau. Roedd cyfansoddwyr y cyfnod hwn (1920au) yn dal i ysgrifennu sgôr lleisiol – sef lleisiau gyda chyfeiliant piano – a’i drefnu ar gyfer cerddorfa wedyn. Dull Janáček oedd cyfansoddi sgôr llawn ar y dechrau, ac roedd yn cynnwys llawer iawn, iawn o erwyddi. Byddai’n ysgrifennu ‘syniadau’ – felly, cyrn fan hyn, neu glarinetau fan acw, neu linynnau ar un erwydd yn unig, wedi ei rannu, dyweder, yn bedwar rhan. Galwai’r rhannau hynny wedyn yn ‘fiolinau’ neu ‘fiolas’. Felly efallai y gwelid adran gyda fiolas a basau dwbl wedi ei rhannu’n nifer o rannau, a fiolinau a sieloau yn gwneud dim byd o gwbl. Roedd yn amlwg mai dyna’r sŵn yr oedd arno eisiau ac nid oedd am ‘gydymffurfio’ i reoleidd-dra rhaniadau llinyn er budd logistaidd cerddorfa ‘gyffredin’.

Yn ogystal, mae’n rhagori ar roi rhannau i offerynnau sydd bron yn amhosibl i’w chwarae. Rwy’n cofio astudio ei Piano Sonata 1905 pan oeddwn i’n fyfyriwr, a chanfod y byddai’n rhaid i bianyddion nad oeddent yn digwydd bod wedi eu geni â thair llaw fodloni ar ‘wneud eu gorau’ mewn ymgais i gadw at y rhythmau a’r amseriadau. Yn Vixen, yng ngolygfa’r nos yn Act 1 sy’n arwain at gôr y bore bach, mae’r clarinét, wedi ei nodi fel ‘piano’, yn dyrchafu i B meddalnod uchaf anhygoel o uchel tra bod y ffliwt yn eistedd gerllaw yn methu deall pam nad yw’n chwarae. Yn yr olygfa garu rhwng y llwynoges a’r llwynog, disgwylir i’r ffliwt chwarae C llonnod uchel ‘piano’ drosodd a throsodd tra bod y picolo’n eistedd yn dawel yn y gadair nesaf. Ceir cymalau llawn o gytgordiau amhosibl eu cyflawni, ac yna daw rhan y delyn! Nid oes modd chwarae llawer o’r rhan honno, sy’n golygu bod yn rhaid i’r telynorion benderfynu ar y ffordd orau i’w haddasu mewn rhai mannau er mwyn cynhyrchu rhywbeth tebyg.

A oedd Janáček yn gwybod sut ‘roedd telyn yn gweithio? Wrth gwrs ei fod. Roedd Janáček yn ysgrifennu’r hyn yr oedd eisiau ei ysgrifennu, heb fanylrwydd y llenwad cerddorfaol, dilyniant di-dor, sillafu cywir na charedigrwydd offerynnol. Mae’r canlyniad yn gyfoethogrwydd caleidosgopig o syniadau. Cyfrifoldeb eraill yw gwneud i’r gerddoriaeth weithio. Pan ganfu Mackerras Janáček am y tro cyntaf a’i ‘gyflwyno’ i Brydain yn hwyr yn y pedwardegau/dechrau’r pumdegau, gofynnwyd iddo ddisgrifio’r gerddoriaeth ac meddai, “wel, mae’n gymysgedd o Mussorgsky a Debussy a Mahler a Sibelius ayb… a’r holl gyfansoddwyr wedi eu cyfuno ac alla i ddim ei ddisgrifio mewn gwirionedd – fe fydd yn rhaid i ni gychwyn arni ac fe gewch chi weld!”

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.