gan Cyfarwyddwr Cerdd OCC, Jonathan Lyness

Yn fy mlog diweddaraf, dywedais i mi dechrau gweithio ar offeryniaeth ostyngedig o opera wych Janáček, The Cunning Little Vixen. Y cynllun oedd perfformio’r gwaith cyfriniol hwn gydag Opera Canolbarth Cymru pan fyddai pethau’n dod yn ôl i lefel weddol normal, ond does wybod pa bryd y byddwn yn cyrraedd y pwynt hwnnw. Fodd bynnag, ddydd Llun y 9fed o Dachwedd, cefais glywed fy nhrefniant newydd am y tro cyntaf. Ar y dydd Llun hwnnw, ac ar ôl fy nghoffi arferol i’m deffro am 7.00 y bore, neidiais i’r car a gyrru drwy Henffordd a Threfynwy niwlog a gyrru i ddrws llwyfan Neuadd Hoddinott yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, sy’n gartref i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

“Llwynogod” gan Sue Lyness (1936 – 2002)

I un sydd wedi arfer â chyfleusterau cefn llwyfan rhai o wyliau opera hyglod Prydain, neu goridorau a grisiau niferus a diddiwedd theatrau dros Gymru a thu hwnt, mae Neuadd Hoddinott yn fyd arall. I ddechrau, ni fu’n rhaid dringo grisiau a phendroni i le’r oeddwn i wedi cyrraedd! Roedd yn ymddangos i mi, yn hyn o beth, fod y neuadd yn rhagori ar y Tŷ Opera Brenhinol newydd hyd yn oed (ar yr ambell achlysur y buom yn ymgolli yn y coridorau cefn llwyfan yn y fan honno rydw i’n wirioneddol wedi bod ar goll yn llwyr). Efallai mai system un ffordd y BBC er mwyn atal lledaeniad COVID oedd yn helpu, yn cyd-fynd yn ddi-drafferth â llif naturiol yr adeilad a’r awgrym lleiaf o ‘ddilyn y lôn frics melyn’. Sut gallai unrhyw un fynd ar goll?

Mae’r neuadd ei hun yn anhygoel. Fel stiwdio ymarfer, neuadd gyngerdd a lleoliad recordio, mae’r acwsteg yn eithriadol – hael a chynnes, ond yn fanwl a choeth. Efallai, o edrych yn ôl, nad dyma’r lle gorau i brofi trefniant a fydd angen, allan yn y byd mawr, goroesi mewn lleoliadau nad ydynt wedi buddsoddi i’r fath raddau mewn technoleg acwsteg. Ond wedi dweud hynny, roedd hwn yn gyfle euraid. Mae ar Janáček, yn ei offeryniaeth wreiddiol hyd yn oed, angen unrhyw gymorth a geir. Y tro diwethaf imi glywed y darn yn fyw oedd yn y Barbican yn 2019 lle cynhyrchodd Rattle, gyda’r LSO, sŵn gwyrthiol o hardd o wead dyrys y cyfansoddwr, diolch i’r hyn sydd ar ôl o acwsteg hen ffasiwn y Barbican.

Ac felly dyna lle’r oeddwn i, am ddeg o’r gloch y bore, gyda chwaraewyr Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi cynnull a chadw pellter cymdeithasol (2.5 metr rhwng trwynau, fe’m sicrhawyd) a phawb ohonom yn cael diosg y masgiau yn ein gweithfannau. Mae’n dipyn o antur cael gweithio gyda grŵp o chwaraewyr newydd, llanastr o nerfau, ond o fewn eiliadau ar ôl cychwyn arni roeddwn i’n gwybod ein bod ni am gael diwrnod da.

Yn aml bydd pobl yn trafod ac yn cymharu eu hoff olygfeydd agoriadol mewn operâu. Y gwir yw bod golygfeydd agoriadol pob opera enwog yn tueddu i fod yn eithaf arbennig. I mi, serch hynny, mae’n anodd curo Janáček. Golygfa agoriadol Vixen (yn ogystal â golygfa agoriadol Katya Kabanova gan yr un cyfansoddwr) yw’r fwyaf syfrdanol. O’r bar cyntaf mae’n creu byd coedwigol llawn naws a dirgelwch. Yn offerynnol mae’r agoriad yn arwydd o’r hyn sydd i’r ddod, gyda thema wylofus ar y fiolas, feiolinau’n llifo’n dyner a chor anglais cefnogol, yr offeryn melancolaidd hwnnw a wnaed yn enwog gan gydwladwr Tsiecaidd y cyfansoddwr, Dvorak yn ei New World Symphony.
 
Yn yr ail far gwelir Janáček yn cyflwyno un o ‘effeithiau’ arwyddnod yr opera hon, a her amlwg gyntaf y dydd. Cyfarwyddir y feiolinau, gyda rhuthr o nodau byr cyflym, i chwarae ‘col legno’ – sef gyda’r pren (neu ffon) y bwa yn sboncio oddi ar y tant. Gyda cherddorfa lawn, gellir clywed sŵn mamaliaid bychan yn sgrialu drwy isdyfiant y goedwig. Ond yn fy nhrefniant i, dim ond dwy feiolin sydd gen i. Fodd bynnag, gyda hanner ‘col legno’ – sef gyda’r bwa ar ei ochr fel bod y gwallt a’r ffon yn cyffwrdd y tannau – creodd y ddau feiolinydd eu heffaith wych eu hunain, diolch i acwsteg arbennig Neuadd Hoddinott.

Aeth y diwrnod yn ei flaen, ac roedd yn ardderchog cael ymateb y chwaraewyr i’r hyn a ofynnwyd iddynt ei wneud. Roeddwn wrth fy modd gyda’r ffordd y cododd y clarinetydd (yr oeddwn yn ei gofio ers i’n cyfnodau fel myfyrwyr ym Mhrifysgol Bryste tua 30 mlynedd yn ôl orgyffwrdd) ei ysgwyddau a’i aeliau fel y bydd pob clarinetydd yn ei wneud pan ofynnir iddynt chwarae rhywbeth annisgwyl o uchel a meistrolgar. Roeddwn i wrth fy modd gyda’r olwg ddryslyd ar wyneb yr oböydd pan ofynnais iddi, ar un o newidiadau mesur od Janáček, ddal i chwarae ond i gau ei llygaid – h.y, i beidio edrych arna i! Ac roedd yn bleser glywed y delyn a’r glockenspiel yn dynwared sŵn selesta yn ddigymell ac yn ddyfeisgar. Mae’n ymddangos bod Vixen, gyda chylchred bywyd fel thema ganolog, wedi bod yn ddewis priodol ar gyfer blwyddyn fel hon a diwrnod fel hwn. Wrth i ni agosáu at y diwedd, roedd sŵn cerddorion y BBC mor dda nes i mi ofyn iddyn nhw chwarae’r rhan olaf unwaith eto, ac roedd yn teimlo fod yr adeilad cyfan yn cyseinio’r un ymdeimlad o adfywiad ag a geir yn yr opera hon.

Daeth y diwrnod i ben am 5.00 yr hwyr ac roedd yn chwith gen i adael. Roedd gan chwaraewyr y llinynnau, oedd wedi llwyr ymlâdd, ymarfer
Bartok Divertimento gyda’r nos. Gadawodd eraill yr adeilad wrth i gadeiriau gael eu diheintio, wrth i standiau gael eu symud ac wrth i gerddoriaeth Vixen gael ei rhoi o’r neilltu. Gyda’r holl seremoni wrth gyrraedd y bore hwnnw – y croeso, y cyfarwyddyd, yr iechyd a’r diogelwch, y ‘lôn frics melyn’, yr ystafell wisgo wych (dalier sylw os gweler yn dda Opera Canolbarth Cymru!) a chyfaredd y neuadd – daeth yr ymweliad i ben yn ddoniol o ddiseremoni. Wrth adael fy ystafell wisgo, troais i’r chwith (yn unol â’r cyfarwyddyd), yn syth allan drwy allanfa dân ac i lawr y grisiau metel tu allan i lawr i ddarn o darmac dinod tu allan i’r adeilad. O’r fan honno, cyrhaeddais fy nghar a gyrru hyd Bute Place ac i draffig oriau brys Caerdydd.

Mae rhifyn Hydref 31ain o ‘Building a Library’ ar The Cunning Little Vixen BBC Radio 3 nawr ar gael fel podlediad:

Record Review Podcast – Janáček: The Cunning Little Vixen – BBC Sounds

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.