gan Cyfarwyddwr Cerdd OCC, Jonathan Lyness

Cefais fy mhrofiad cyntaf o The Marriage of Figaro pan yn fyfyriwr yn cyfeilio i ymarferion ac yn ystod fy nghyfnod fel feiolinydd arweiniol mewn cerddorfa. Fe’i gwelais ar y llwyfan ddwy waith cyn ei harwain fy hun; y tro cyntaf yn y Tŷ Opera Brenhinol, dan arweiniad y diweddar Syr Jeffrey Tate, a aned gyda spina bifida a olygai ei fod yn arwain ar ei eistedd. Eisteddais yn eithaf uchel yn y theatr ond prin yr oeddwn yn ei weld. Gwyliais yr arweinydd a’r gerddorfa yn ystod yr agorawd (y ‘Sinfonia’) cyn troi fy sylw at y llwyfan i fwynhau gweddill yr opera. Dyna pam mai’r atgof pennaf sydd gen i o Syr Jeffrey yw ei wylio’n arwain yr agorawd, a hynny ‘mewn un’! Term technegol yw hwn – sy’n golygu bod curiad arweinydd ym mhob bar.

Felly roedd gwneud, yn fy marn i; nes i mi weld yr opera eto yn Glynderbourne yn seremoni agoriadol fawreddog y theatr newydd yn 1994, pan welais yr arweinydd byd enwog Sir Bernard Haitink, sy’n 90 oed bellach ac yn dal wrthi (rydym ni arweinwyr yn para am byth!) yn arwain yr agorawd ‘mewn dau’ – hynny yw, dau guriad i bob bar. Methais â phenderfynu pa un oedd orau – ‘mewn un’ ynteu ‘mewn dau’?

Perfformiad Haitink yw’r un sydd yn fwyaf cofiadwy. Yr hyn a wnaeth argraff oedd y perffeithrwydd llwyr, yn enwedig yn y trawsgyweiriadau. Mae operâu wedi eu rhannu’n olygfeydd, ac mae saernïo’r trawsgyweiriadau o un olygfa i’r nesaf yn hanfodol. Mae gan Mozart lawer o olygfeydd sy’n cynnwys gwahanol ganeuon a gysylltir gan arddogan (deialog a genir), ond ar brydiau, mae Mozart yn gadael i’r caneuon lifo’n uniongyrchol i’w gilydd. Digwydda hynny yn fwyaf amlwg yn rhannau olaf Act 2 a 4. Rhaid penderfynu sut i symud o un rhan i’r llall, ac er bod greddf a phrofiad yn bwysig, mae’r manylion yn aml yn dechnegol dros ben!

Dawn Haitink oedd gwneud y trawsgyweiriadau i gyd yn hollol esmwyth – bron na ellid eu clywed o gwbl – ond roeddent yn ysgogi cyffro ar yr un pryd. Yr un math o syniad â gwneud ffilm mewn un saethiad, gydag un camera! Dim byd yn anghytsain, ond dim byd yn ddiflas. Ond nid Haitink yn unig oedd yn gyfrifol am fy mrwdfrydedd penodol yn Glynderbourne, nid y cast anhygoel (oedd yn cynnwys y sêr enwog Gerald Finley a Renée Fleming) chwaith. Y cymeriadau oedd yn bennaf gyfrifol.

Rydym ni i gyd yn gyfarwydd â’r teimlad hwnnw o ddarllen llyfr, gwylio ffilm neu weld drama, lle mae’n anodd teimlo digon o unrhyw beth tuag at unrhyw gymeriad. Mae’n hawdd colli diddordeb bryd hynny. Mae angen i ni deimlo dros rywun o leiaf, cymeriad canolog fel arfer yr ydym yn gobeithio ei weld yn llwyddo ac yn cael bywyd hapus. Ond yn The Marriage of Figaro, rydym ni’n teimlo dros bron bob un o’r cymeriadau – yn bennaf oll o bosib dros gymeriad hyfrytaf y byd opera – y forwyn Susanna. O ystyried ei bod ar y llwyfan fwy na neb arall, gellid galw’r opera yn The Marriage of Susanna. Talog a bregus, hyderus a gwylaidd, tyner ac ystrywgar, mae hi’n bopeth sy’n rhan o bawb ohonom ni a’r hyn y mae arnom ni ofn fod.

Yn Glynderbourne hefyd y daeth y funud fythgofiadwy bum munud cyn y diwedd. Mae Figaro’n amau Susanna o fod yn anffyddlon ar gam. Mae Susanna yn ymwybodol o hyn, yn ddig ac yn bwriadu ‘chwarae’ ar ei amheuon. Sylweddola Figaro wedyn ei fod yn anghywir a dod i wybod am yr hyn y mae Susanna wedi bod yn ei wneud. Felly mae Figaro’n cymryd arno mai ef ei hun sy’n anffyddlon! Y cyfan yn digwydd o fewn munudau nes i bethau gyrraedd uchafbwynt ac, ar ôl dadl ofnadwy, fe’n gadewir yn geg agored! Ar y pwynt hwn, stopiodd Haitink y gerddoriaeth. Roedd Susanna yn torri ei chalon ac roeddwn yn wirioneddol yn teimlo drosti. Daeth Figaro ati yn edifeiriol, gan sylweddoli ei fod wedi gwthio’r sefyllfa yn rhy bell, i gyfeiliant y gerddoriaeth fwyaf tynner y gallai Mozart ei chreu, ac roedd hi ar ben arna i!

Ers y dyddiau llesmeiriol hynny, rydw i wedi arwain The Marriage of Figaro nifer o weithiau. Mae’r broses o ymarfer yn bleser bob amser; gyda llawer i’w archwilio a chymaint o fanylion, bron y gellid teimlo ein bod yn ymarfer bywyd yn ei gyfanrwydd mewn stiwdio. Mae’r munudau gwych yn aml ac yn fynych, ac mae apêl gyffredinol i’r darn, gan gynnwys i blant.

Cuddia Cherubino ifanc tu ôl i gadair ar un pwynt (mae plant yn mwynhau hyn), yna mae’r Iarll yn ceisio cuddio tu ôl i’r un gadair gan orfodi Cherubino i guddio tu mewn iddi (mae plant wrth eu boddau gyda hyn); a’r foment pan fo’r Iarll yn datgelu Cherubino’n anfwriadol (mae plant yn cuddio tu ôl i’w dwylo); yna’r Iarll yn amau bod Cherubino wedi clywed ei amryfusedd gyda Susanna, a Cherubino yn egluro iddo wneud ei orau i beidio clywed (gall nifer o blant uniaethu gyda hyn!).

Ac wrth gwrs, aria enwog Figaro ‘Non più andrai’ lle mae’n dweud wrth Cherubino bod ei ddyddiau dedwydd yn y palas bellach ar ben ac yn egluro sut beth yw bod yn filwr. Felly, beth bynnag eich oedran, mae rhywbeth i bawb yn yr opera, boed yr agoriad yn digwydd ‘mewn un’ neu ‘mewn dau’.

Dewch i’w gweld!

Archebwch:
The Marriage of Figaro

 

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.