…opera, yn ôl pob sôn, nad oes angen ei chyflwyno…

Tasg anodd yw cyflwyno opera nad oes angen ei chyflwyno, felly fe wnawn ni adael hynny i’n Cyfarwyddwr Cerdd Jonathan Lyness, ffan Figaro am oes – a digon fyddai i ni ddweud bod cerddoriaeth Mozart ar gyfer yr opera wedi ei chynnwys yn ei briodas.

“Pe byddai rhywun yn dweud wrtha i “Fe hoffwn i weld un opera yn ystod fy mywyd – pa un ddylai hi fod?” Mae’n debyg y byddwn i’n mwydro am tua 5 eiliad cyn dweud “The Marriage of Figaro, Mozart”. Mae’n wir fod ‘na operâu sy’n fwy rhamantaidd, yn fwy digrif, yn hirach, yn fyrrach; operâu sydd â cherddorfeydd mwy, ac arwyr dewrach; mwy o angau a dinistr neu ddogn iachach o theatreg hen ffasiwn.

Yr hyn sy’n nodedig am The Marriage of Figaro yw’r modd y mae’n darlunio bodau dynol yn eu hanfod – eu cryfder a’u breuder, eu credoau a’u gwendidau, eu dryswch, eu cenfigen a’u comedi. I unrhyw un sydd wedi ystyried “beth sy’n ein gwneud ni’n fodau dynol”, mae The Marriage of Figaro yn cyfleu gwirioneddau cyffredinol yn eglur, yn wych ac yn hudol, ym mhell tu hwnt i’r hyn a welir mewn unrhyw opera arall. Does dim un nodyn o’r cychwyn i’r diwedd na ddylai fod yno, nac unrhyw nodyn ar goll a ddylai fod yno. Roedd mor bell cyn ei hamser yn 1786 nes ei bod yn parhau heddiw i ‘daro’r hoelen ar ei phen’ a’n gadael i gyd yn syllu’n anghrediniol ar y llwyfan gan feddwl “mae’n sôn amdana i – yr hyn yr ydw i’n ei weld a’i glywed y funud hon – mae’n sôn amdana i!”.

The Marriage of Figaro – perffeithrwydd llwyr ac yn llawer rhy dda i’w cholli

Tamaid o gefndir

Lorenzo da Ponte (Michele Pekenino (engraver, 19th century) after Nathaniel Rogers (American, 1788-1844) [Public domain])
Lorenzo da Ponte
The Marriage of Figaro oedd gwaith cyntaf Mozart ar y cyd â Lorenzo da Ponte, a aeth yn ei flaen i ysgrifennu’r libretti ar gyfer Don Giovanni and Così fan tutte. Roedd Da Ponte yn ffigwr dadleuol fel ag yr oedd hi; offeiriad Catholig a aned yn Iddew ac a alltudiwyd o Fenis oherwydd ei ffordd afradlon o fyw. Ysgrifennodd 28 libretti i 11 cyfansoddwr, gan gynnwys y tri i Mozart. Yn ddiweddarach yn ei fywyd, ymfudodd da Ponte i America lle daeth yn ddinesydd yn 79 oed a sefydlodd dŷ opera cyntaf America yn Efrog Newydd.

Roedd The Marriage of Figaro yn opera ddadleuol iawn yn ei dydd. Roedd yn seiliedig ar ddrama Pierre Beaumarchais o’r un enw, a waharddwyd yn nhref enedigol Mozart, Fiena, oherwydd ei safiad gwrth-aristocrataidd. Gall cynulleidfaoedd heddiw uniaethu o hyd â’r hanes am gariad a dial, cuddio a thactegau rhywiol sy’n caniatáu i’r gweision a’r morwynion drechu eu meistri ac i fenywod ddefnyddio dynion. Roedd yr opera yn llwyddiant o’r cychwyn yn Fiena ac yn Prague yn ddiweddarach, ac mae hi’n dal yn un o weithiau mwyaf poblogaidd y byd opera hyd heddiw gydag ariâu fel ‘Dove sono’, ‘Voi che sapete’ a ‘Non piu andre’ yn ymddangos yn rheolaidd ar restrau o’r ddeg aria fwyaf poblogaidd ymysg y cyhoedd.

Tamaid o’r hanes

Mae The Marriage of Figaro yn parhau â phlot drama gynharach Beaumarchias, The Barber of Seville. Mae blynyddoedd lawer wedi mynd rhagddynt ac mae The Marriage of Figaro yn seiliedig ar un diwrnod o wallgofrwydd ym mhalas yr Iarll Almaviva yn Seville, Sbaen. Rosina yw’r Iarlles erbyn hyn ac mae Dr Bartolo yn cynllwynio i ddial yn erbyn Figaro am ei atal rhag priodi Rosina ei hun.
Erbyn hyn mae ieuenctid rhamantaidd yr Iarll Almaviva yn y gorffennol ac mae’n fwli pwerus, sy’n benderfynol o arfer ei ‘droit du seigneur’ a chysgu gyda morwyn yr Iarlles, Susanna, ar noson ei phriodas i’w was, Figaro. Caiff y llwyfan ei osod ar gyfer diwrnod o blot a gwrthblot, troi a throsi wrth i Figaro, yr Iarlles a Susanna gynllunio i godi cywilydd ar yr Iarll a dod â’i gynlluniau i’r golwg, ac mae’r Iarll yn cynllwynio i orfodi Figaro i briodi menyw sy’n ddigon hen i fod yn fam iddo.

Yn cyflwyno ein cynhyrchiad ni

Gyda phlot cymhleth fel The Marriage of Figaro i’w ddilyn, bydd ein cynhyrchiad yn canolbwyntio ar ddweud yr hanes. Caiff ei ganu yn y Saesneg a’i gyfarwyddo gydag eglurder a hiwmor nodweddiadol Opera Canolbarth Cymru. Rydym ni’n defnyddio cyfieithiad Saesneg gwych Amanda Holden, sy’n llawn ‘miri diymatal’ a threfniant cerddorfaol Jonathan Lyness ei hun, wedi ei berfformio gan ein partneriaid cerddorfaol Ensemble Cymru. Mae’r set yn dal yn gyfrinach wladol, ond teg yw dweud y bydd yn gefnlen drawiadol ar gyfer datblygiad y stori – a bydd yn cynnwys awgrym o’n gwreiddiau gwledig a chyd-destun gwaith gwreiddiol Mozart.
Bydd ein Figaro newydd yn llafur cariad gwirioneddol, felly os ydych chi wedi adnabod a mwynhau’r opera ar hyd eich oes neu erioed wedi gweld opera a ffansi, fel y dyweda Jon, gweld dim ond un, rhowch gynnig ar hon. Ymunwch â ni ar daith y Gwanwyn. Mae’r tocynnau ar werth…

Archebwch Tocynnau ar gyfer
The Marriage of Figaro

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.