Mae’n bleser mawr cael cyflwyno’r prosiectau cyntaf a gefnogir gan Cerddoriaeth Eich Milltir Sgwâr – Music at Your Place – ein rhaglen gomisiynu agored, i gefnogi artistiaid ledled Cymru sy’n gweithio yn eu cymunedau eu hunain yn ystod y pandemig.
Rydym ni wedi comisiynu saith prosiect yn rownd gyntaf y cynllun, sy’n cael ei rhedeg ar y cyd ag Ensemble Cymru, ac yn ystod y Gwanwyn byddwn yn gweithio gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus i’w helpu i gyflwyno eu rhaglenni dros Gymru, o Abertawe i’r Felinheli.
Gofynnwyd i bob un o’r ymgeiswyr gyflwyno eu prosiect yn eu geiriau eu hunain, a byddwn yn rhannu eu cynnydd ar ein cyfryngau cymdeithasol ac ar y wefan. Mae amrywiaeth y prosiectau wedi creu argraff arnom ni, yn ogystal â’r ffyrdd dyfeisgar o weithio’n ddigidol gydag amrywiaeth eang o grwpiau, gan gynnwys pobl sydd wedi dioddef anaf i’r ymennydd, ffoaduriaid, aelodau hŷn o’r gymuned a phlant.
Cerddorion Julia Plaut a Judith Souter
Mae’r ddeuawd gerddoriaeth siambr Julia Plaut (basŵn) a Judith Souter (sielo) yn edrych ymlaen at gael rhannu’r pleser o greu cerddoriaeth gyda rhai o’r disgyblion ieuengaf yn Ysgol Gynradd Albany Road, Caerdydd yn gynnar yn 2021. Bydd y ddwy yn edrych ar thema ‘Sgwrs’ drwy gyfres o 12 sesiwn ryngweithiol yn seiliedig ar Sonata Mozart ar gyfer y Basŵn a’r Sielo yn Bb Fwyaf. Bydd y dysgwyr ifanc hyn yn cael profiad o’r blociau adeiladu a ddefnyddir gan Mozart yn ei gerddoriaeth, cyn cael cefnogaeth i greu a pherfformio eu sgyrsiau cerddorol eu hunain. Gan fod eu bywyd ysgol wedi cychwyn mor gyfyngedig oherwydd COVID, bydd y rhai bach hyn yn mwynhau ffrwydriad o gerddoriaeth fyw a chreadigrwydd bwriadol.
Y Cyfarwyddwr Ian Morgan Williams a’r Bardd Pat Edwards – Bywydau Trefaldwyn
Byddwn yn gweithio gyda myfyrwyr blynyddoedd 4, 5 a 6 Ysgol Eglwys Trefaldwyn yng Nghymru i edrych ar y Faled, gan ddefnyddio enwau a ganfuwyd ar gerrig beddi yn Eglwys Trefaldwyn fel pwynt cychwynnol. Bydd y myfyrwyr yn edrych ar enghreifftiau o ffurf y faled er mwyn ymgyfarwyddo â’r strwythurau cerddorol a llenyddol. Byddant yn cyfansoddi llinellau ar gyfer eu penillion eu hunain ac yn cael cyflwyniad i’r broses o olygu. Anogir y myfyrwyr i ystyried ffyrdd o fyw’r bobl oedd yn byw ac yn gweithio yn Sir Drefaldwyn yn ystod gwahanol gyfnodau mewn hanes, ac i ddysgu sgiliau perfformio er mwyn cyflwyno eu gwaith.
Victoria Salon Band
![](https://www.midwalesopera.co.uk/files/assets/uploads/2021/01/Victoriasalonband-1024x615.jpg)
Mewn partneriaeth ag Opera Canolbarth Cymru, bydd Victoria Salon Band yn cyflwyno ein Cyngerdd Dathlu Dydd Gŵyl Dewi 2021. Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu’n fyw a bydd y cyngerdd cartrefol a rhyngweithiol byw ac unigryw hwn yn dod â hwyl, balchder ac angerdd yr achlysur i gartrefi pobl sydd wedi bod ar wahân drwy’r pandemig. Cewch ddisgwyl y ffefrynnau traddodiadol, yn ogystal â detholiad o rhywfaint o gelfyddyd, caneuon a cherddoriaeth orau Cymru, y cyfan yn cael ei ddarlledu drwy fideo a sain diffiniad uwch (HD). Edrychwn ymlaen at ddymuno Dydd Gŵyl Dewi Hapus i bawb ohonoch.
Y Gantores a’r Gyfansoddwraig Caneuon, Eve Goodman
Fy ysbrydoliaeth yw traddodiad hynafol y bardd lleol, oedd â chysylltiad â’i gymuned a straeon pobl ei gymuned. Yn fy fersiwn i o hyn, byddwn yn hoffi cysylltu ag aelodau hŷn fy nghymuned leol yn Y Felinheli, a allai wedi dioddef yn fwy na neb oherwydd y pandemig. Rydw i eisiau creu lle diogel, anffurfiol a chroesawgar iddynt gael sgwrs ac adrodd eu straeon. Byddaf yn gweithio ochr yn ochr â’r bobl yma i greu caneuon sy’n mynegi eu straeon. Bydd y caneuon yn cael eu dylanwadu gan straeon a phrofiadau pobl leol, gan roi goleuni newydd ar hen hanesion, fel adlais o’r traddodiad gwerin hynafol o adrodd straeon. Dyma adeg pam fo angen yr hen arferion hyn yn fwy nag erioed. Mae hwn yn brosiect sydd wedi’i wreiddio ymysg y bobl leol, eu bywydau a’u realiti. Fy nymuniad yw helpu i leddfu rhywfaint ar yr unigrwydd a’r unigedd sydd wedi dod yn sgil y pandemig.
Y Cyfansoddwr Gareth Churchill
Mae Grey Matters yn rhoi llais i straeon a phrofiadau’r rhai sydd wedi byw drwy anaf i’r ymennydd, cymuned sy’n aml yn teimlo nad ydynt yn cael digon o gynrychiolaeth gan fod sgwrsio cyffredin bob dydd yn gallu bod yn anodd iawn. Bydd y prosiect hwn yn cael ei ddatblygu gan gyfansoddwr sydd â phrofiad o anaf i’r ymennydd, ac yn gweithio mewn cyswllt â defnyddwyr gwasanaeth Headway Caerdydd a Gogledd Ddwyrain Cymru. Y syniad yw datblygu cyfres o vignettes neu olygfeydd byr yn rhoi goleuni ar brofiadau cymuned y mae’n hawdd ei chamddeall neu beidio ei gweld yn ein cymdeithas. Profiad go iawn sydd wrth wraidd Grey Matters a bydd yn brofiad sy’n ein tywys at fwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ar yr adeg fwyaf heriol i fod yn llywio ein ffordd drwy gymdeithas.
SY Gantores Rachel Moràs a’r Pianydd Meryn Williams
(Sian Trenberth Photography)
Gan weithio gydag Abertawe Dinas Noddfa, byddwn yn cyflwyno cyfres o weithdai i aelodau o’r gymuned ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn Abertawe er mwyn rhannu caneuon, cerddoriaeth a straeon eu mamwledydd. Bydd y sesiynau yn rhoi lle i ailgysylltu â cherddoriaeth eu treftadaeth a chyfle i rannu eu diwylliannau gyda gweddill y gymuned. Gobeithiwn feithrin cysylltiadau newydd o fewn y grŵp a’r gymuned ehangach drwy rannu caneuon a cherddoriaeth, er mwyn lleddfu unigrwydd ac unigedd y rhai sy’n cymryd rhan a’u helpu i deimlo’n fwy cartrefol yn Abertawe.
Y Pianydd Dan Perkin a’r Gantores Zoë Milton-Brown
![](https://www.midwalesopera.co.uk/files/assets/uploads/2021/01/Dan-Perkin-and-Zoe-Milton-Brown-1024x576.jpeg)
Prosiect rhyngweithiol o adrodd storïau cerddorol yw Y Ddraig Goch/ The Red Dragon, wedi ei anelu at bobl sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig. Pam fod castell y Brenin Vortigern yn dymchwel o hyd? A fydd Myrddin, y dewin ifanc yn achub y dydd? Pa ddraig fydd yn fuddugoliaethus? Bydd Dan Perkin (pianydd ac arweinydd y gweithdy) a Zoë Milton-Brown (soprano ac animateur lleisiol) yn edrych ar chwedl draig goch a draig wen Dinas Emrys drwy gyfres o weithdai rhyngweithiol. Gyda geiriau a cherddoriaeth wreiddiol, bydd y prosiect yn cynnwys canu, actio, defnyddio’r corff fel offeryn taro a gwahoddiadau i anfon gwaith celf a sain. Os bydd y cyfyngiadau’n caniatáu, bydd Y Ddraig Goch/ The Red Dragon hefyd yn cynnwys perfformiad byw (ar y safle).