Eugene Onegin

Eugene Onegin Tchaikovsky

Cyfuna Eugene Onegin hanes nerthol a thorcalonnus Pushkin gyda thelynegiaeth ysgubol Tchaikovsky mewn ymchwiliad syfrdanol o gariad, marwolaeth, bywyd a chonfensiwn.

 

Perfformiadau yn y gorffennol

24/2/18Hafren, Y Drenewydd
28/2/18Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
8/3/18Pontio, Bangor
16/3/18Glan-yr-Afon, Casnewydd
18/3/18Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
21/3/18Theatr Brycheiniog, Aberhonddu
29/3/18Ffwrnes, Llanelli
4/4/18Theatr-y-Torch, Aberdaugleddau
10/4/18Courtyard, Henffordd

Mae’r hanes ingol, sy’n llawn ariâu rhyfeddol gan gynnwys golygfa wych Tatyana am y llythyr, gorchest repertoire y soprano, yn cyferbynnu symlrwydd bywyd cefn gwlad â gormodedd soffistigedig llys cyn-chwyldroadol Rwsia ac yn dweud hanes y cariad tynghedlon rhwng Tatyana ddiniwed a’r sinig lluddedig Onegin.

Mae’r cast gwych yn cynnwys sêr newydd a pherfformwyr rhyngwladol cydnabyddedig. Arweinir y perfformiad gan Gyfarwyddwyr Artistig OCC, Richard Studer a Jonathan Lyness, i gyfeiliant Ensemble Cymru. Bydd y cynhyrchiad newydd hwn yn sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael eu swyno a’u cyffroi i’w craidd.

Cast

Onegin: George von Bergen
Tatyana: Elizabeth Karani
Lensky: Robyn Lyn Evans
Olga: Ailsa Mainwaring
Madam Larina: Stephanie Windsor-Lewis
Gremin: Sion Goronwy
Filipyevna: Maria Jagusz
M. Triquet: Jonathan Cooke
Y Capten: Matthew Buswell
Zaretsky: Nicholas Morton
Chorus: Felicity Buckland; Chanáe Curtis; Joseph Doody;Jana Holesworth

Cerddorfa

Ensemble Cymru

Hyd perfformiad: Tair awr gyda dwy egwyl
Cerddoriaeth gan: Tchaikovsky
Libreto: Tchaikovsky, ar ôl Pushkin
Cyfieithiad: David Lloyd Jones
Cenir yn: Saesneg
Arweinydd: Jonathan Lyness
Cyfarwyddwr/Cynllunydd: Richard Studer
Cynllunydd Goleuo: Dan Saggars

Ynglŷn â’r cynhyrchiad

 Mae’r opera’n cynnwys yr olygfa enwog gyda’r llythyr, gorchest repertoire y soprano, lle mae Tatyana’n datgan ei bod mewn cariad gydag Onegin, cariad sy’n cael ei wrthod yn drasig. Mae’r trobwll o emosiynau a ddaw yn sgil hynny’n gorffen gyda gornest rhwng Onegin a’i ffrind gorau, y bardd Vladimir Lensky, sy’n arwain at farwolaeth Lensky. Flynyddoedd yn ddiweddarach, yn nawns St Petersburg, mae Onegin, trwy hap, yn cyfarfod Tatyana unwaith eto ac yn sylweddoli ei gamgymeriad. Erbyn hyn Tatyana, sy’n briod, yw’r un sy’n gwrthod cariad Onegin.

Ymddiriedodd Tchaikovsky mewn myfyrwyr o ysgol gerddoriaeth Moscow i berfformio ei waith am y tro cyntaf. Nawr, 140 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae Opera Canolbarth Cymru’n perfformio’r opera neilltuol hon am y tro cyntaf.

Dan arweiniad cyfarwyddwyr artistig newydd y cwmni, Richard Studer a Jonathan Lyness, bydd cyfuniad o artistiaid profiadol ac artistiaid ifanc yn cyflwyno’r archwiliad hwn o fywyd, marwolaeth, cariad a chonfensiwn.

Dylai hanes nerthol a thorcalonnus Pushkin, telynegiaeth ysgubol Tchaikovsky, cynlluniau hardd Richard Studer, offerynwyr siambr profiadol a sefydledig Ensemble Cymru gan gynnwys y delyn oedd mor bwysig i Tchaikovsky, a chast ardderchog sy’n cynnwys cyfoeth o sêr newydd, sicrhau bod cynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt yn cael eu swyno i’w craidd a’u gwefreiddio. Mae’r cynhyrchiad hwn o Eugene Onegin yn ddigwyddiad sylweddol yn hanes hyglod OCC ac allwch chi ddim ei golli!

Blog

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.