Dathlu 30 mlynedd
o Opera Cymreig Hudol

Er nad ydym ni’n ymddangos ddiwrnod yn hŷn na 21, mae Opera Canolbarth Cymru’n dathlu 30 mlynedd nodedig o gynhyrchu operâu proffesiynol eleni! Byddwn yn cael parti i ddathlu yn ein theatr gartref, Theatr Hafren yn y Drenewydd, lleoliad ein sioeau agoriadol ers 1989.

Ar nos Wener, Chwefror 22ain, y noson cyn i ni agor ein cynhyrchiad newydd sbon o Tosca Puccini yn Theatr Hafren, byddwn yn cynnal Cyngerdd Gala gyda chantorion o Academi Llais Ryngwladol Cymru yn ymuno ag wynebau cyfarwydd o gynyrchiadau blaenorol OCC i ddathlu 30 mlynedd o berfformiadau OCC yn y Drenewydd.

Beth am ymuno â ni am noson serennog o uchafbwyntiau operatig? Dim ond £10 yw pris tocyn oedolyn ac £8 i fyfyrwyr ac mae’r cyngerdd yn cychwyn am 8pm – tocynnau ar gael yn
www.thehafren.co.uk neu ffoniwch 01686 614555.

Meddai Sara Clutton, Rheolwr Theatr Hafren:

“Rydym ni’n falch iawn o’n perthynas gydag Opera Canolbarth Cymru, mae’n bartneriaeth gynhyrchu sydd wedi ei gwreiddio’n gadarn yng Nghanolbarth Cymru a Hafren yw cartref y cwmni ers y cychwyn.

“Mae cyffro gwirioneddol yn yr adeilad pan fo OCC yma am wythnos yn ymarfer eu sioeau cyn y noson agoriadol, ac ymdeimlad o achlysur ynghylch cynnal noson gyntaf eu taith. Allwn ni ddim aros i weld y cynhyrchiad newydd sbon o Tosca a dathlu 30 mlynedd o weithio gyda’n gilydd yn y Gala ar Chwefror 22ain.”

Cychwynnodd Opera Canolbarth Cymru…

…ym Meifod, Powys yn 1988 gyda grŵp o 12 o gantorion a ddaeth at ei gilydd i gael dau benwythnos o hyfforddiant opera dwys, oedd yn cynnwys dosbarthiadau cerddoriaeth, crefft llwyfan a symud, a arweiniodd at berfformiad o olygfeydd operatig i gyfeiliant piano yng Nghanolfan Gymunedol Meifod a oedd newydd ei chodi.

Gweler y rhestr lawn o gynyrchiadau OCC ers 1989

Cychwynnwyd y cwmni gan Keith Darlington a Barbara McGuire a’r flwyddyn ganlynol symudodd eu perfformiadau i Theatr Hafren yn y Drenewydd, ein cartref byth ers hynny. Mae Keith yn cofio:

Y cynhyrchiad cyntaf yn Hafren oedd The Magic Flute Mozart gyda chast a chorws Cymraeg llawn, o’r gymuned leol a myfyrwyr o’r colegau cerdd cenedlaethol. Ian Watt-Smith oedd y cyfarwyddwr a Derek Clarke yn arwain; fe’i perfformiwyd ochr yn ochr â Carmen Bizet gyda chast o fyfyrwyr, a oedd wedi mynychu cwrs tebyg i’r un a fynychwyd y flwyddyn flaenorol.

Cyfarwyddodd Stephen Medcalf ei gynhyrchiad cyntaf o’r gyfres o rai cofiadwy gyda’r cwmni, gyda’i gynllunydd arferol Charles Edwards. Cafodd y ddwy opera gyfeiliant gan Gwrs Haf Cerddorfaol i fyfyrwyr o Ysgol Gerddoriaeth Birmingham, wedi eu hyfforddi gan offerynwyr Opera Cenedlaethol Cymru.”

Perfformiwyd Tosca gyntaf OCC yn 1990, ac fel y cofia Keith Darlington:

“Roedd yn cynnwys un o fomentau mwyaf cofiadwy OCC yn y “Te Deum” ar ddiwedd Act Un. Roedd y prif gantorion yn canu fortissimo ar y llwyfan; y corws yn cyrraedd yn araf drwy’r gynulleidfa, yn canu’n gryf ac yn chwifio arogldarth; roedd sŵn organ oddi ar y llwyfan yn cael ei anfon i nenfwd y theatr; ac yn goron ar y cyfan, band Newtown Silver yn byrstio allan oddi tan y seddi yn yr awditoriwm. Ysblennydd!”

Fydd gennym ni ddim band Newtown Silver gyda ni ar gyfer taith Tosca 2019, ond fe fydd corau cymunedol o bob cwr o Gymru’n ymuno â ni ym mhob un o’n naw lleoliad ar y brif daith er mwyn ymuno yn ysblander Te Deum nerthol Puccini.

If you’ve sung or played with us, been part of one of community choruses or just have the fondest memories of one of our shows please get in touch – we’d love to hear your MWO memories – either comment below or email lydia@midwalesopera.co.uk and we’ll put together a collection of special moments from the last 30 years to share on our blog.

Os ydych chi wedi canu neu chwarae offeryn gyda ni, wedi bod yn rhan o un o’r corau cymunedol neu os oes gennych chi atgofion melys o un o’n sioeau, cysylltwch â ni – fe fyddem ni wrth ein boddau’n clywed am eich atgofion o Opera Canolbarth Cymru – un ai drwy nodi sylwadau isod neu anfon e-bost i lydia@midwalesopera.co.uk ac fe luniwn gasgliad o atgofion arbennig o’r 30 mlynedd ddiwethaf ar ein blog.

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.