Does fawr o ddrama, tamaid o amlinelliad o bosib, yn ffitio fel maneg am dalent a phersonoliaeth Bernhardt, sy’n bawb ac yn bopeth, ond pwy a fentrai neu a allai gwyno? Nid yw’r diddordeb yn pylu; mae digon o ddeialog ac arwyddocâd i fodloni ac i ddiddanu, ac mae’r stori’n cael ei hurddasoli’n swynol yn nwylo actores orau’r byd.

The New York Times ar berfformiad Sarah Bernhardt yn nrama Sardou, ‘La Tosca’

Mae Tosca yn opera sy’n llawn dioddefwyr, rhai dychmygol, rhai go iawn – lle mae ménage à trois operatig yn troi’n loddest o dywallt gwaed, artaith a marwolaeth. Nid o ddychymyg Victorien Sardou y daeth un o’r trasiedïau mwyaf anarferol sy’n gysylltiedig â’r opera hon, digwyddodd i Tosca; ac nid i unrhyw Dosca ond y gyntaf ac, heb os nac oni bai, yr enwocaf – Sarah Bernhardt.

Mae bywyd personol Sarah Bernhardt yn freuddwyd i fywgraffydd ac wedi ychwanegu’n sylweddol at yr argraff fawr a wnaeth, ond gyda’i thalent ar y llwyfan y gwnaeth yr argraff fwyaf yn ystod ei hoes. ‘Y Sarah Ddwyfol’, fel y daethpwyd i’w hadnabod yn ddiweddarach, oedd actores ddramatig fwyaf enbyd y cyfnod. Nid gor-ddweud fyddai egluro mai hi oedd y gyntaf neu’r amlycaf i chwarae rhannau yn yr holl weithiau newydd a oedd yn cael eu cynhyrchu yn y theatr Ffrengig yn negawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Daeth yn ysbrydoliaeth i nifer o artistiaid, dramodwyr a cherddorion. Roedd gweithiau a berfformiwyd am y tro cyntaf mewn theatrau yn gronfa euraid o adnoddau i gyfansoddwyr a libretyddwyr ledled Ewrop. Erys enghreifftiau o’r traws-ffrwythloni hwn wrth wraidd ein repertoire modern, gan gynnwys Dumas Fils’ – ‘La dame aux caméllias’ (la Traviata), ‘Pelléas et Mélisande’ Maeterlinck, ‘Phèdre’ Racine, ‘La Roi s’amuse’ (Rigoletto) a ‘Hernani’ (Ernani) Victor Hugo, ‘Fedora’ Sardou ac wrth gwrs, drama enwocaf Sardou – ‘La Tosca’.

Yn gynnar yn yr 1890au, cychwynnodd Sarah Bernhardt berthynas broffesiynol gyda’r dramodydd Ffrengig Victorien Sardou. ‘La Tosca’ oedd y drydedd yn y gyfres o felodramâu hanesyddol a ysgrifennodd ar gyfer yr actores. Fel y gwelwyd gyda llawer o’r operâu gorau, perfformiwyd y ddrama ar Dachwedd 24ain 1887 i dderbyniad anffafriol gan y beirniaid, ond roedd yn apelio at y cynulleidfaoedd, a chynhaliwyd mwy na thair mil o berfformiadau yn Ffrainc yn unig. Heidiodd cylchoedd uchaf cymdeithas Paris i weld y cynhyrchiad a’i seren – difa ddi-ddal, erotig ac enwog yn portreadu difa ddi-ddal, erotig ac enwog.

Erbyn i Puccini weld y cynhyrchiad, roedd portread Sarah Bernhardt o Tosca yn enwog dros y Gorllewin. O fewn pedwar mis ar bymtheg ar ôl y perfformiad cyntaf o’r ddrama, roedd Puccini wedi ysgrifennu at Ricordi ei gyhoeddwr yn gofyn iddo gael yr hawliau gan Sardou. “Fe alla i weld yn Tosca yr opera sydd ei hangen arnaf, heb fod unrhyw angen mynd dros ben llestri, dim ysblander cymhleth, ac ni fydd angen y swm gormodol arferol o gerddoriaeth”. Mae’n amlwg i Puccini newid ei feddwl ynglŷn â’r ‘ysblander cymhleth’, erys y ‘Te Deum’ ar ddiwedd yr act gyntaf yn un o’r darnau godidocaf o gynhyrchu yn operâu Puccini, ond mae’r gweddill yn wir. Mae’n ymatal rhag tawelu melodrama’r gwreiddiol ond serch hynny mae’r sgôr bron mor gynnil â’i ‘Bohème’.

Mae dylanwad portread Sarah Bernhardt o ‘Tosca’ y ddifa wedi ei ymgorffori drwy’r gwaith cyfan. Roedd Puccini yn fwy na dim ond crefftwr nodau, roedd yn deall y theatr yn reddfol ac mae ei sgorau’n llawn cyfarwyddiadau llwyfan i’r fath raddau ag y gall cynhyrchydd ‘ddilyn y cyfarwyddiadau ar y bocs’ a chyflawni cynhyrchiad credadwy o’r gwaith. Ond yn enydau olaf Act II mae’n mynd yn bellach eto. Fel cyfansoddwr, perfformiad Sarah o Tosca a ddylunnir ganddo, yn hytrach na geiriau Sardou. O’r foment yr eistedda Scarpia i lawr i ysgrifennu’r llythyr sy’n gwarantu taith ddiogel i Tosca a’i chariad o Rufain, mae’r sgôr yn ail-greu perfformiad syfrdanol Bernhardt.

Yn y theatr, roedd sôn am Bernhardt yn hoelio sylw’r gynulleidfa am saith munud llawn ar ôl marwolaeth Scarpia heb unrhyw ddeialog. Caiff pob ystum a symudiad a greodd ei gynnwys yng nghyfarwyddiadau llwyfan Puccini a’u darlunio’n gerddorol; o ganfod y gyllell ar y bwrdd swper i osod y groes ar gorff Scarpia a’i henciliad brysiog o’r rhandy dan fygythiad drymiau’r crocbren.

Yn 1905, un mlynedd ar bymtheg ar ôl i deulu Puccini fynychu perfformiad o waith mwyaf llwyddiannus Sardou, llamodd Sarah Bernhardt, seren fwyaf llachar y celfyddydau dramatig Ffrengig, oddi ar y canllaw yng ngolygfa derfynol Tosca ac anafu ei phen-glin dde. Ni wellodd yn llwyr erioed, dechreuodd fadru’n araf ac erbyn 1915 cael torri’r goes oedd yr unig opsiwn. Parhaodd Sarah i berfformio ar adegau ond yn aml heb ei choes brosthetig (roedd yn ei chasáu yn angerddol) bron hyd at ei marwolaeth. Ni chafodd wellhad llwyr ar ôl y ddamwain wreiddiol ac, yn y diwedd, bu farw o ddiffyg ar yr arennau yn 1923, ei hoedran yn ddirgelwch, fel y bo’n briodol i actores o’i chalibr a’i chelfyddyd.

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.