Mid Wales Opera Puccini’s Gianni Schicchi
Mid Wales Opera Puccini’s Gianni Schicchi

LlwyfannauLlai

Taith yr Hydref 2026

Mae Opera Canolbarth Cymru yn cyflwyno noson lawn o opera Eidalaidd, gan agor gyda chomedi un act wych Puccini Gianni Schicchi, un o’r operâu comig Eidalaidd gorau a harddaf.

Mae perthnasau barus Buoso Donati yn galaru ei farwolaeth, ond mewn gwirionedd, mae ganddynt lawer mwy o ddiddordeb yng nghynnwys ei ewyllys. Wrth ddod i wybod nad ydynt wedi etifeddu dim, mae Lauretta, y mae ei dyweddiad â nai Donati, Rinuccio bellach yn y fantol, yn perswadio ei thad, Gianni Schicchi gyfrwys, i’w helpu. Ond mae gan Schicchi ei ateb dyfeisgar ei hun i’r broblem ac wrth i’w gynlluniau gael eu gwireddu aiff popeth i’r gwellt rhwng y perthnasau…

Yn llawn egni, gyda phlot sy’n troi a throelli’n gyflym ac ensemblau penboeth, mae sgôr felodig fawreddog Puccini yn cynnwys un o’i ariâu mwyaf poblogaidd “O mio babbino caro”. Dilynir y perl hwn o ddarn gan wledd yn yr ail hanner o gerddoriaeth Eidalaidd boblogaidd a gyflwynir gan griw o 15 o gantorion ac offerynnwyr OCC.

 

Cyn y perfformiad hwyrol…

Dewch i ddysgu am y byd cynhyrchu gyda Thaith Gyffwrdd Opera Canolbarth Cymru am 6.30pm. Wedi’i arwain gan y Rheolwr Cynhyrchu Bridget Wallbank neu’r Cyfarwyddwr Artistig Richard Studer, bydd y profiad ymarferol hwn cyn y sioe yn gwahodd cynulleidfaoedd i gael golwg agosach ar bropiau, gwisgoedd ac elfennau cyffyrddol ein cynhyrchiad teithiol o Gianni Schicchi cyn perfformiad y noson honno. 

Tocynnau’n gyfyngedig — cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau i gadw lle ymlaen llaw. 

Cerddoriaeth: Giacomo Puccini
Libretto: Giovacchino Forzano
Trefniant Siambr: Jonathan Lyness
Cyfieithiad Saesneg: Richard Studer

—

Cantorion

Gianni Schicchi: Timothy Nelson
Lauretta: Jennifer Clark
Rinuccio: Joseph Doody
Zita: Georgia Mae Bishop
Gherardo: Dafydd Allen
Nella: Lowri Probert
Betto: Samuel Pantcheff
Simone: Wyn Pencarreg
La Ciesca: India Harding
Spinelloccio / Ser Amantio: Alex Pratley

Cerddorion

Feiolin: Elenid Owen
Sielo: Nicola Pearce
Basŵn: Alanna Pennar-Macfarlane
Ffliwt/Picolo: Nicola Woodward

—

Gianni Schicchi 55 munud
Egwyl 20 munud
Concert 40 munud

—

© Casa Ricordi Milano (Universal Music Publishing Group, Classics & Screen)
By arrangement with G. Ricordi & Co., (London) Ltd.

Cantorion

Musicians

Nicola Woodward

ffliwt / piccolo / ffliwt alto

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.