Category

Cynyrchiadau’r Gorffennol

Macbeth – Verdi

/
... hanes gwefreiddiol am bŵer, ystryw a chwymp echryslon wrth i Macbeth, cadfridog dewr, ildio i berswâd ei wraig, sy’n arwain at ymgyrch ddidrugaredd i ennill gorsedd yr Alban. Caiff yr opera ei chanu yn Saesneg, gyda chyfeiliant Ensemble Cymru, cast eang a chorysau cymunedol. Cyflwyna Opera Canolbarth Cymru ei gynhyrchiad cyntaf erioed o Macbeth Verdi fel uchafbwynt tymor Shakespeare.

Beatrice a Benedict

/ /
Mae opera derfynol Berlioz yn gosod ar gerddoriaeth chwyrlwynt afresymegol syrthio mewn cariad, gan ddod â dyfeisgarwch cynnes i Shakespeare nas gwelwyd gan gyfansoddwr arall. Mae cynhyrchiad OCC yn cynnwys chwech o gantorion a phedwar offerynnwr, gyda chyfansoddiad Saesneg o’r caneuon gan Amanda Holden, ynghyd â thestun gwreiddiol Shakespeare sydd wedi ei addasu gan Richard Studer a threfniant siambr newydd gan Jonathan Lyness.

Hansel a Gretel

/ /
Yn seilir ar stori dylwyth teg y brodyr Grimm, lle caiff dau blentyn eu halltudio i’r goedwig gan eu rhieni rhwystredig a newynog. Yno, maent yn crwydro i grafangau gwrach ddrwg sydd â’i bryd ar eu pesgi a’u troi yn dorthau sinsir, cyn cael ei threchu ar yr eiliad dyngedfennol.

Puss in Boots (El Gato con Botas)

/ /
Perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf yn Barcelona yn 1948 ac anaml y caiff ei pherfformio heddiw. Mae’r stori oesol hon i blant yn adrodd hanes cath ddawnus sydd, yn gyfnewid am het a chleddyf a phâr o esgidiau uchel, yn llwyddo i sicrhau bod ei feistr ifanc (mab i felinydd) yn ennill teyrnas, llaw tywysoges mewn priodas a chastell gan ellyll ar hyd y ffordd.

La bohème

/ /
Mae’n Noswyl y Nadolig, uwch strydoedd Paris mae cnoc ar y drws yn ddechrau i stori garu ddiamser y bardd Rodolfo a’i gymdoges, Mimi. Teimla eu carwriaeth ledrithiol fel gwyrth y Nadolig, ond mae ias oer y gaeaf yn drech na gwres eu nwyd – mae Mimi yn ddifrifol wael, ac ni all Rodolfo na’i gyd-fohemiaid fforddio’r help sydd ei angen arni.

Il tabarro – Puccini

/ /
Cyflwyna Opera Canolbarth Cymru orchestwaith hwyr Puccini, Il tabarro neu ‘Y Clogyn’. Stori fer yw’r opera un act hon, wedi’i gosodd ar lannau’r Seine, am berchennog cwch camlas o’r enw Michele, sy’n amau bod ei wraig, Giorgetta, yn bod yn anffyddlon. Mae’r opera’n llawn is-blotiau ac is-gymeriadau, a chyfeiriadau at olygfeydd a synau Paris yn y 1900au. Daw’r opera i ddiweddglo dramatig pan ddalia Michele gariad ei wraig yn annisgwyl ar daniad matsien. Gyda melodïau cyfareddol a thyndra cyffrous, mae Il tabarro yn dangos gwaith y cyfansoddwr gwych pan oedd ei allu ar ei anterth.

The Marriage of Figaro

/ /
Cyflwynir ymdriniaeth ffres o orchestwaith oesol Mozart gan Opera Canolbarth Cymru ar gyfer taith gwanwyn 2020. Gyda chyfieithiad Saesneg Amanda Holden sy’n llawn ‘digrifwch diymatal’ a threfniant cerddorfaol ein Cyfarwyddwr Cerdd ein hunain o sgôr aruchel Mozart, bydd ein cynhyrchiad newydd sbon yn cael ei deilwra yng Nghymru, gyda thalent ifanc o Academi Llais Ryngwladol Cymru yn ymuno â pherfformwyr rhyngwladol ar y llwyfan. Ymunwch â Figaro a Susanna ar feri-go-rownd eu priodas, wrth i weision dwyllo eu meistri, y marched dwyllo’u dynion ac wrth i gariad drechu er gwaethaf pob disgwyl.

Mrs Peachum’s Guide to Love and Marriage

/ /
Prancia tîm LlwyfannauLlai OCC yn ôl ar y llwyfan gydag ailwampiad radical o waith John Gay o 1728, The Beggar’s Opera – Mrs Peachum’s Guide to Love and Marriage. Ymunwch â Mrs Peachum, Polly ei merch a’r Cardotyn yn eu dehongliad beiddgar o berthnasau a rhinweddau cymharol gwyryfdod. Mae’n bleser gan OCC berfformio’r opera un act hon, wedi’i haddasu gan Richard Studer, mewn fersiwn gerddorol newydd gan Jonathan Lyness, am y tro cyntaf. Daw cyfeiliant gan Ensemble LlwyfannauLlai o bedwar cerddor, y mezzo soprano o Ogledd Iwerddon, Carolyn Dobbin yw Mrs Peachum a’r soprano Gymreig Alys Mererid Roberts yw ei merch ddi-glem.

Dido & Aeneas Purcell

/
Doedd llwyfannu opera mewn wythnos byth yn mynd i fod yn hawdd, a llwyfannu opera mewn wythnos gyda chast, corws a cherddorion pur amhrofiadol yn y maes opera – anos byth. Ond dydyn ni yn OCC ddim yn adnabyddus am wingo rhag sialens ac rydym ni wedi ein llorio yn llwyr gan lwyddiant prosiect cyntaf LlwyfannauAgored. Cychwynnodd yr ymarferion ar gyfer ein cynhyrchiad o Dido ac Aeneas yn Eglwys Sant Andras, Llanandras ddydd Llun Gŵyl y Banc, Ebrill 22ain 2019, ac fe’i perfformiwyd i ddwy gynulleidfa lawn ar y dydd Sadwrn canlynol, Ebrill 27ain.
1 2

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.